|
Ychydig o deithwyr sydd bellach yn mynd trwy ganol pentref Trerddol gan fod ffordd osgoi ers blynyddoedd yn eu galluogi i fynd o'r tu arall heibio ar y briffordd rhwng Aberystwyth a Machynlleth.
Ond i'r rhai a ddewisodd hepgor y ffordd gyflymaf, o'r tu cefn i dafarn y "Wild-fowler", a throi trwyn y car tua stryd gul y pentref, fe all fod adeilad ar ochr y ffordd wedi creu cryn ddryswch iddynt.
Ar yr olwg gyntaf ymddengys yr adeilad fel eglwys fach dwt, gyda thŵr yn talsythu drosti, ond mewn gwirionedd capel yw'r adeilad, Capel Soar, a fu'n gartref i addolwyr Wesleaidd y cylch ers canrif union i eleni, a chapel a adnabyddir o hyd fel capel Humphrey Jones y Diwygiwr.
Yr wythnos diwethaf bu aelodau Soar yn dathlu canmlwyddiant agoriad y capel gydag oedfa undebol, cyfarfod yn olrhain hanes yr achos, tê dathlu a chyngerdd cysegredig.
Er fod Soar yn gant oed, fel "y capel newydd" y'i hadnabyddir gan y rhelyw o'r aelodau gan fod dau adeilad arall yn y pentref lle cynhelid yr achos o 1804, blwyddyn sefydlu'r achos yn y cylch.
"Mewn adeilad yn North Road, tŷ annedd ers blynyddoedd, y cafodd y Wesleaid eu cartref cynta", medd y gweinidog, y Parch. John Henry Griffiths wrth olrhain hanes cyfoethog yr achos yn y cylch.
Mae yn y tŷ o hyd olion diddorol sy'n adlewyrchu hen hanes yr adeilad. O'r tu mewn gellir gweld ffurf bwaog un o'r hen ffenestri o hyd, ac mae Mrs Florence May Davies yn para i ddefnyddio'r hen gwpwrdd cymun, sy'n rhan o wal y gegin ger y drws ffrynt.
Ym 1809 yr agorwyd y capel cyntaf hwn. Boddwyd y blaenor cyntaf flwyddyn yn ddiweddarach pan ddymchwelodd ei gwch ar afon Ddyfi.
Agorwyd yr ail gapel ym 1846, adeilad a saif heddiw fel amgueddfa, diolch i ymdrechion y diweddar R. J. Thomas, a'i hachubodd rhag cael ei droi'n dy bwyta a modurdy. Y flwyddyn nesaf ail-agorir yr amgueddfa, sydd bellach yn eiddo'r Amgueddfa Genedlaethol.
Buan yr aeth yr ail gapel yn rhy fach, ac aethpwyd ati i geisio sicrhau safle gyfagos ar gyfer adeiladu capel newydd. Ond 'roedd perchennog y tir, Syr Pryce Pryce, Gogerddan, yn anfoddog i'w werthu, am fod capeli, yn ei dyb ef, yn anharddu'r amgylchedd neu yn ei eiriau ef, "because of lack of beauty". Ond o glywed fod yr adeilad i fod yn "handsome edifice", newidiodd ei feddwl.
Eglwyswr oedd Syr Pryce, wrth gwrs, ac mae lle i gredu fod y capel wedi 'ei gynllunio'n fwriadol ar ffurf eglwysdraddodiadol er mwyn sicrhau caniatad sgweier Gogerddan.
Gosodwyd y garreg sylfaen ar Ddydd Nadolig 1874. Ac mae i Ddydd Nadolig arwyddocad arbennig i'r achos yn y cylch. Ar y diwrnod hwnnw'n flynyddol yn 70au'r ganrif ddiwethaf cynhelid "tea meetings" nodedig a darlithoedd. Ac am flynyddoedd maith ar ôl codi'r capel newydd cynhelid eisteddfodau enwog ar Ddydd Nadolig, dan nawdd y capel.
Mae llyfrau cyfrifon y capel ar gael o 1844, a dangosant fod yno dros gant o "ysgolorion" yn mynychu'r Ysgol Sul bryd hynny, a gosodwyd colofn ar wahan ar gyfer yr "uwchrifion", carfan a ddarostyngwyd yn nes ymlaen trwy eu rhestru fel "anllythrennog".
Yn ôl Mr Griffiths dydd Gwener y Groglith oedd dyddiad arwyddocaol yr Ysgol Sul. Ceid gorymdaith ar hyd yr ardal, gyda Seindorf Machynlleth, yn y blynyddoedd cynnar, yn arwain. Byddai tê a chyngerdd yn dilyn yr orymdaith. Parodd yr arferiad hwn hyd tuag ugain mlynedd yn ôl.
Cwestiynau? Sylwadau? Beth ydych chi'n meddwl am y tudalen hwn a gweddill y wefan? Dywedwch yn y llyfr ymwelwyr. Questions? Comments? What do you think about this page and the rest of the site? Tell us in the guest book. |