|
Dydd i’w gofio yn hanes y plwyf hwn ydoedd Tachwedd 24, pan gysegrodd ein Harglwydd Esgob ychwanegiad at fynwent y plwyf, a chyflwyno rhoddion gwerthfawr i’r Eglwys. Yr oedd y tywydd yn achos pryder inni ar ôl rhyferthwy y dydd blaenorol, ond ni allesid gwell diwrnod.
Yn anffodus, gyda chymorth y gwynt tymhestlog, goresgynasai llanw’r môr yr argaeau a gorlifo i’r ffordd fawr unwaith yn rhagor. Yr oedd y ffordd o orsaf Ynyslas mor bell ag Eglwys Llangynfelin bron i gyd o dan ddw^r, a hwnnw’n llathen o ddyfnder mewn rhai mannau! A ni’n gwybod hyn, syndod mawr inni oedd gweled Mr. Tom Jones a Mrs. Griffiths, Tymawr, a Mrs. Davies, Stoneleigh, yn bresennol. Yr oeddynt wedi dyfod yn y gert trwy’r môr mawr llydan! Y Capten, wrth gwrs, ydoedd Mr. Tom Jones, a’r ddau fêt, Mr. H. R. Owen, Rhydmeirionydd, a Mr. Jackie Phillips, Tymawr. Heblaw’r criw, yr oedd pump o deithwyr ar y bwrdd. Nid oes nesaf peth i ddim o gloddiau ar ffordd cors Fochno, ac am hynny yr oedd eisiau ffydd a gwroldeb, yn sicr, i wynebu’r fath daith y diwrnod hwnnw.
Ar ôl i’r Esgob gyflwyno ffenestr liwiedig yn yr Eglwys er cof am y diweddar Gyrnol James Henry Edward Holford, Lodge Park, gorymdeithiodd y gynulleidfa i’r fynwent newydd. Rhodd y tir tuag at helaethu’r fynwent gan Mrs. Griffin, Gwynfryn, a Mrs. David Evans, Y.H., Pengelli, merched y diweddar Esgob William Basil Jones. Wrth y fynedfa darllenodd y Dr. D. O. Williams y ddeiseb yr erchi i’r Esgob gysegru’r tir. Yna gan adrodd Salm 49, aethwyd o amgylch i’r darn newydd yn y drefn ganlynol: - Y wardeniaid, sef, Dr. Williams a Mr. Thomas, Embury; y Ficer; yr Esgob a’i Gaplaniaid, sef y Parchedigion Gwilym Francis, Aberystwyth, ac E. M. Davies, Llanedi; yr offeiriaid; y gynulleidfa. Pan ddychwelwyd at y fynedfa offrymodd yr Esgob, weddïau, a chysegru’r tir yn y dull arferol. Yna galwodd ar y Ficer i ddarllen Gweithred y Cysegru, ac arwyddwyd hi gan yr Esgob, y Ficer, a’r Wardeniaid. Terfynwyd y gweithrediadau yn y fynwent trwy ganu emyn, a datgan y Fendith.
Yn yr Eglwys llafarganwyd y Brynhawnol Weddi gan y Ficer, a darllen y Llithiau gan Canon D. J. Jones, Deon Gwlad, ac Isaac Edwards, Cei Newydd. Miss Rees, Goitre, ydoedd wrth yr organ. Traddododd yr Esgob anerchiad syml ac addysgiadol. Rhoddion eraill i’r Eglwys a gyflwynwyd ganddo ydoedd: - Set gyflawn o "frontals" – lliwiau coch, gwyn, gwyrdd, a fioled. Dau gan Mrs. Griffin, Gwynfryn, a dau gan Mrs. Griffiths, Tymawr. Cwpan a Phlât Cymun gan y Ficer, er cof am ei rieni. Llieiniau Allor gan Mrs. Newbury, Gwynfryn, ac un arall. Lliain wedi ei ymylweithio â "crochet lace" gan Miss Watkins, Glan-Rheidol, Aberystwyth. Dyfrlestr bedyddfan, er cof am y diweddar Barch. John Alfred Griffin. Rhoddwyd hefyd i’r Eglwys glustogau penlîn gan Ysgolion Sul Llangynfelin, a mat i’r porth gan Mr. a Mrs. Morgan, Cathays, Caerdydd.
Offeiriaid eraill yn bresennol ydoedd: - Yr Hybarch Archddiagon E. Lincoln Lewis, Aberayron; Parchedigion James Jones, Llangynfelin; D. A. Thomas, Llandysul; J. Jenkins, Llanafan; J. Gwynfe Jones, Llanychaiarn; J. Bodwen Thomas, Borth; W. R. Goodwin, Eglwysfach; Jenkin Williams, Penrhyncoch; Gwilym Owen, Aberystwyth; a Melvyn Thomas, Elerch.
Trwy garedigrwydd Mrs. Griffin darparesid te yn Gwynfryn.
[A report on the consecration of the extension to the New Cemetery by the Bishop of St Davids 24 Nov 1938. It also notes a number of gifts made to the church at the time.]
Cwestiynau? Sylwadau? Beth ydych chi'n meddwl am y tudalen hwn a gweddill y wefan? Dywedwch yn y llyfr ymwelwyr. Questions? Comments? What do you think about this page and the rest of the site? Tell us in the guest book. |