|
[ << Pennod gynt / Previous chapter <<]
[ >> Pennod nesaf / Next chapter >>]
Er mai ar Orffennaf 7, 1941, yn ôl y cofrestr, yr euthum i i Ysgol Llangynfelyn am y tro cyntaf, nid yw hynny'n wir. Mynychais yr ysgol am flwyddyn neu ragor cyn hynny am y rheswm mai dyna'r unig ffordd o gael sbectol am ddim. Gan fod yn rhaid imi ei gwisgo cyn fy mod yn bedair oed a gan ein bod ynghanol cyfnod llwm y rhyfel, bu raid imi droedio o'r Stryd Isa am yr academi ynghynt na'r rhan fwyaf o'm cyfoedion. Yn wahanol i lawer o blant sy'n gallu cofio'r diwrnod cyntaf yn yr ysgol ofnaf nad wyf fi mor ffodus â hynny, a'r unig beth a gofiaf o'r cyfnod cynnar hwnnw oedd angladd Mabel Bond yn pasio'n tŷ ni, yn Rhagfyr 1939 a mam wedi tynnu'r llenni.
Fel pawb arall a fu yn yr ysgol rhwng 1920 a 1960 i ddosbarth Miss Isaac yr euthum innau i gychwyn ac y mae cenedlaethau ohonom yn fawr ein dyled i ferch Pen-y-graig am ymboeni gyda ni a'n rhoi ar ben y ffordd. Cofiaf yn iawn fod yna ddigon o sŵn yno'n aml, ond nid oedd amheuaeth nad oedd Miss Isaac yn fistres arnom. Ar wahân i'r cartref, yn yr ystafell honno ac yn festri Rehoboth y derbyniais i fy hyfforddiant cyntaf ac wrth fynd ati i hel atgofion fel hyn y mae'n rhaid imi fynegi fy niolch i Katie Isaac, Gladys a Ruth Jones, Ceridwen Pugh Jones, Evan Thomas a'i briod, a Caledfryn Evans.
Soniais eisioes ei bod yn gyfnod y rhyfel pan euthum i i'r ysgol ac un canlyniad i hynny oedd dyfodiad y plant-cadw (yr 'evacuees') i'n plith gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn dod o Lerpwl a Glannau Mersi. Cofiaf y bws a'u cludai yn cyrraedd, a'r rhieni a oedd wedi addo cymryd rhai, yn eu cyfarfod yn festri Rehoboth. Er nad oedd lle gyda ni mewn tŷ mor fychan, cafodd Iorwerth a minnau gwmni George Robinson yn y gwely y noson honno cyn iddo symud drannoeth at y brodyr Lloyd i Fodhyfryd.
Afraid dweud fod yn rhaid adrefnu gwaith yr ysgol pan chwyddodd nifer y disgyblion, a bu'n gyfnod o shiftiau am beth amser, gyda phlant yr ardal yn mynychu'r ysgol y bore a'r plant dieithr y prynhawn. Yr wyf wedi meddwl llawer ar ôl hynny am y modd y trowyd y Saeson bach yn Gymry rhugl mewn amser byr ac ni allai hynny fod wedi digwydd pe na bai Cymreictod yr ardal yn gwbl iach a chryf ar y pryd. Nid oes eisiau proffwyd i ddatgan na allai hynny ddigwydd heddiw a dyna fesur y dirywiad a gerddodd ardaloedd cefn gwlad Cymru erbyn hyn. Os oeddem ni yn dysgu Cymraeg i blant Lerpwl yr oedd plant y ddinas yn cael hwyl ar ddysgu chwaraeon a drygioni newydd i ninnau. Bron na ellid dweud iddynt redeg yn wyllt ar y dechrau wrth weld gwlad agored a digon o fannau diddorol i'w cyrchu. Un atgof byw sydd gennyf yw gweld George Robinson yn fwd o'i gorun i'w sawdl yn cario budreddi Cors Fochno gydag ef i staenio carpedi Bodhyfryd! Dro arall, ar ôl brwydr rhwng y brodorion a'i dieithriaid, cafodd rhai o fois Lerpwl hwyl ar rwbio dail poethion (o bopeth annifyr) ar wynebau'n bechgyn ni. Os nad yw'r cof yn chwarae triciau, credaf fod Robert Rowlands wedi cael mwy o driniaeth na neb arall. Ond nid dyna'r unig bethau a gofiaf amdanynt. Deuent gyda ni i'r Ysgol Sul ac i'r capel ar y Sul a chaent hwyl ar ganu ac adrodd gan guro'r Cymry ar adegau. Yr oedd Olwen Rowlands (hi o'r hen griw sy'n fy nghadw mewn cyswllt â'r ardal a'i thrigolion) yn f'atgoffa'n ddiweddar am gôr y plant-cadw a arweinid gan Mr. A. Hitchcock. Y mae'n dweud llawer am groeso Taliesin a Thre'r-ddôl fod rhai o'r plant yma, a gafodd loches yn nyddiau'r drin, wedi dewis aros yn yr ardal ar derfyn y rhyfel, a bod eraill yn dal mewn cysylltiad â'r teuluoedd.a fu mor garedig wrthynt.
Yn fuan ar ôl i mi gychwyn yn 'swyddogol' yn yr ysgol bu farw'r Ysgolfeistr, Mr. Dennis Hughes, ac er nad wyf yn cofio fawr ddim amdano, deuthum i wybod, wrth imi dyfu'n hŷn, fod yr hyn a ysgrifennwyd yn y llyfr cofnodion yn wir iawn. Dywedir yn y llyfr log ei fod yn ŵr a fawr berchid gan ei gyd-athrawon a'r plant a bod
Gwadnau clocsiau wedi'u stacio yn Nhy'nwern, Tre'rddol Stacks of clog soles at Ty'nwern, Tre'rddol |
Ar ôl marw Dennis Hughes daeth Mrs. Annie Richards, gwraig o ardal Abermeurig yn Nyffryn Aeron, yn bennaeth dros dro, a bu gyda ni am ddwy flynedd. Gwraig fechan, gron, oedd Mrs. Richards ac ofnaf inni ei amharchu lawer tro. Gwnaethom hynny drwy ei llysenwi yn "Grannie Tŷ Twt," ond erbyn hyn 'does gen i ddim syniad sut y cafodd yr enw na phwy a'i bedyddiodd ag ef. Trigai wrth gwrs yn nhŷ'r ysgol, ond ni chawsom esboniad pam yr oedd yn treulio mwy o'i hamser ar y llofft nag yn yr ystafelloedd i lawr stâr! Un o'r gorchwylion cyntaf a ddaeth i'ŵ rhan wedi dod i'r ysgol oedd cynnal ymarfer gyda'r masciau nwy, a chofiaf yn glir fod llawer ohonom wedi dychryn y diwrnod hwnnw wrth feddwl fod y 'Jerries' yn glanio yn y Borth ac yn mynd i'n goresgyn ar ôl teithio dros y figin! Atgof arall o'i chyfnod hi oedd y tro cyntaf yr ymunodd plant Lerpwl gyda ni i ddathlu Gŵyl Dewi. Ar ôl adrodd, canu a dawnsio, darllenodd nifer o'r plant bapurau yn adrodd hanes Dewi Sant, Gruffydd Jones, Thomas Charles, Mary Jones a Cheiriog. Yr oedd yn dda i'r plant-cadw glywed am rai o enwogion y genedl am y tro cyntaf yn eu hanes.
Manteisiwyd ar bresenoldeb bechgyn cyhyrog Lerpwl i gynorthwyo bois hynaf yr ysgol i arddio. Buwyd wrthi'n ddygn yng ngardd yr ysgol ger y Fuches Goch ac yn yr ardd y tu ôl i dŷ'r ysgol. Yr oeddwn i yn rhy ifanc i ymuno â hwy ar y pryd, ond cofiaf yn iawn amdanynt yn gorymdeithio i drin y tir. Ni chofiaf erbyn hyn beth a ddigwyddodd i'r cynnyrch, ond gwn yn iawn beth a fu tynged y ffrwythau braf oedd yn hongian ar goed tŷ'r ysgol. Gwnaed sawl cyrch arnynt a bu gwledda mawr ar gynnyrch y coed afalau a'r coed eirin, neu'r coed plwmwns, fel y galwem hwy. Ac er i'r ysgolfeistres holi a chwilio, ni chofiaf iddi ddod o hyd i'r pechaduriaid!
Ymhen blynyddoedd ar ôl yr amser hwnnw, ac yn fuan wedi i mi ddechrau pregethu, gwasanaethwn un Sul ym 1960 yn Eglwys Bresbyteraidd Pembroke Terrace, Caerdydd, ac er mawr syndod imi pwy oedd yn eistedd yn y gynulleidfa yn gwrando arnaf ond Mrs. Richards. Erbyn hyn yr oedd mewn oed mawr, ond nid oedd pall ar y sgwrs ar derfyn yr oedfa wrth iddi fy holi am yr hen ardal a'r ysgol. Cartrefai ar y pryd gyda'i chwaer yn y ddinas a bu farw'n fuan wedyn.
Un o'r dyddiau mwyaf yng nghalendr yr ysgol bob blwyddyn oedd y te a'r chwaraeon a gaem drwy haelioni un o ferched Plas y Gwynfryn, Mrs. Evans, Pengelli. Ceir cofnod blynyddol yn y llyfr log yn adrodd am y siec a ddeuai oddi wrthi er mwyn rhoi 'treat' i'r plant. Ac er bod y rhyfel yn cyfyngu cryn dipyn ar y gweithgareddau, caem lawer o hwyl wrth fynd i de i'r Llan-Fach ac wrth fynd drwy'n campau wedyn.
Ar ôl enwi'r Llan-Fach, gwell aros yno am funud. Yno y byddai'r merched yn cael eu gwersi coginio, ac yno cyn codi'r ysgol bresennol yr addysgid plant yr ardal. Gwasanaethai fel math o neuadd bentref yn ogystal, ac nid eglwyswyr yn unig a'i defnyddiai. Ond am eglwysreg y mae'r atgof nesaf, a phe bawn yn cael byw i gyrraedd fy nghanmlwydd ni allaf anghofio'r profiad amhleserus a gefais rywdro cyn cyrraedd y deg oed. Adeg Nadolig ydoedd a phlant y pentref a'r ardal yn edrych ymlaen at firi'r ŵyl. Y noson dan sylw yr oedd te parti plant yr eglwys yn cael ei gynnal yn y Llan-Fach, ac wrth i griw ohonom ni blant y capeli (Rehoboth y Methodistiaid Calfinaidd a Soar y Methodistiaid Wesleaidd) geisio cael mynediad, cawsom bryd o dafod gan Mrs. Jones, Llonio, gwraig a ddaethai yn ôl i'r ardal gyda'i phriod a faged yno. Cofiaf eu geiriau yn iawn, "You are little devils. Go away. Jesus Christ doesn't like chapel children". Ni ellid dweud dim mwy creulon wrth blant, ond diolch bod yr hinsawdd wedi iachau cryn dipyn erbyn heddiw.
Ar ôl gadael dosbarth Miss Isaac rhaid oedd mynd drwy'r drws yn y partisiwn pren a gwydr at Miss Dorothy Owen i'r ystafell ganol neu'r ystafell fawr fel y gelwid hi. Fel Miss Isaac, merch fferm oedd Miss Owen ac wrth iddi gerdded o Ynys Capel atom bob dydd nid rhyfedd iddi sylwi ar ogoniannau byd natur a throsglwyddo gwybodaeth i ninnau am gyfrinach y tymhorau. Cwynai rhai o'r plant fod mwy o ddisgyblaeth yn y dosbarth canol, ond chwarae teg, yr oedd gofyn am hynny wrth inni dyfu a thyfu mewn drygioni! Y mae'n dda gen i gael sôn am garedigrwydd Miss Owen yn enwedig ar ôl imi gael triniaeth fawr i'm llygad chwith yn Ysbyty Aberaeron ychydig cyn Nadolig 1944. Er ein bod ni'r bechgyn yn meddwl mai yn y seddau yng nghefn y dosbarth y dylem ni eistedd, nid oedd hynny'n cyfrif llawer i mi pan symudwyd fi i'r rhes flaen am fod gorchudd dros un lygad. Fy symud i ganol y merched; ond 'doedd dim gwahaniaeth am fod Olwen a'r lleill yn ofalus ohonof. Pan oedd Miss Owen yn ymddeol canodd J. R. Jones englynion i'w chyfarch a dyfynnaf un ohonynt yn awr yn deyrnged iddi hi ac i Miss Isaac yn ogystal, oherwydd y mae'n ddisgrifiad teg o'r ddwy athrawes ragorol a gefais yn Ysgol Llangynfelyn.
Rhoes inni hir wasanaeth — a llywio Hynt llawer cenhedlaeth, Un go abl ei disgyblaeth A ffrind i'r holl blantos ffraeth.
I'r ystafell fawr yr ymgynllunai'r ysgol i gyngerdd a dathliad ac yno y cawsom y partion Nadolig lliwgar rheiny drwy garedigrwydd Miss Delmer Price (Mrs. Waring yn ddiweddarach) yng nghyfnod Mr. Huw Evans. Ni wyddem fawr o'i hanes, dim ond fod ganddi siop cotiau ffwr yn un o stryd-oedd crand Llundain, a bod pobl gefnog gan gynnwys y teulu brenhinol ymhlith ei chwsmeriaid. Pres y plas yn talu am de parti'r plant! Ar ôl y wledd a'r miri a derbyn anrhegion oddi ar y goeden un Nadolig cofiaf iddi gynnig gwobr o hanner coron am ateb cwestiynau ar wybodaeth gyffredinol. Fel y digwyddodd bûm i yn ddigon ffodus i ennill, a chredwn fy mod wedi cael ffortiwn. Wel, mi roedd yn llawer o arian bryd hynny oherwydd dim ond hanner coron a gaem ni fechgyn Taliesin am Sadwrn cyfan o waith yn codi tatws i Jenkins Erglodd!
Ar wahân i'r athrawon, deuai pobl eraill i'r ysgol ar dro ac un ohonynt a fyddai'n dod atom i'n dysgu i ganu oedd Miss Jennie Thomas. Ofnaf mai deunydd pur anaddawol a gafodd mewn llawer ohonom ond
Gwneuthurwyr clocsiau, Nhy'nwern, Tre'rddol Clog makers at Ty'nwern, Tre'rddol |
Wedi i Mrs. Richards ein gadael, daeth Mr. W. J. Griffiths i ofalu amdanom am un tymor ar ddechrau 1944. Parhaodd ei gysylltiad â nifer o'r plant a fu dan ei ofal bryd hynny pan fu'n athro arnynt yn Ysgol Dinas ar ôl ei hagor ym 1948. Gŵr addfwyn a cherddor dawnus oedd Mr. Griffiths a chofiaf mai fi a ddewisodd i roi trefn ar y cwpwrdd mawr yn ei ystafell cyn iddo ymadael. Yn ystod ei dymor gyda ni yr ymwelodd un o gyn-ddisgyblion mwyaf disglair yr ysgol â ni, y Parchedig Hugh Jones, Cwm-afon, mab Tanrallt, y bu ei farwolaeth drychinebus ef a'i briod yn gymaint colled ym 1947.
Mrs. G. L. Griffiths, eto o Aberystwyth, a gymerodd le W. J. Griffiths a bu'n gofalu am yr ysgol hyd Ionawr 1946. Cyn iddi gael amser i setlo i lawr bu cryn helynt pan ddiflannodd nifer o'r rheiliau ar ben wal y ffordd un noson. Cafodd hyd i'r troseddwyr ac anfonodd yr hanes i'r Swyddfa Addysg yn y dref. Y mae'n rhaid ei fod yn cael ei gyfrif yn achos difrifol gan i'r Cyfarwyddwr Addysg a'r Pensaer ymweld â'r ysgol wedyn. Bu'r 'railings' yn darged hwylus i fwy nag un
James Jones a fu'n brifathro ar y sleid fach ger yr ysgol gyda'i deulu tua 1910 James Jones who was headmaster with his family on the slide by the school. Photo taken about 1910. |
Y mae sôn am fwyd yn dwyn ar gof y prysurdeb pan adeiladwyd cegin newydd yr ysgol ym 1945 a'r ddamwain a ddigwyddodd i un o'r gweithwyr pan syrthiodd o ymyl y gloch ar ei gefn i'r concrid. Cofiaf ddamwain arall yn fuan wedyn pan syrthiodd David Evans fy nghefnder ar risiau cerrig a oedd yn arwain i'r ystafell ddillad a thorri ei fraich. Galwyd am Nyrs Jones a daeth y Doctor Jones o'r Borth i'r golwg hefyd. Treuliodd Defi fisoedd yn ysbytai Aberystwyth a Gobowen ond ni fu'r fraich yr un fyth wedyn. Mrs. Gladys Evans oedd yn gofalu am y gegin er mai fel mam Bili 'Sea View' y byddem ni yn ei hadnabod a deuai Mrs. A. E. Jones, mam Kenneth a Moira, o Dre'r-ddôl i'w chynorthwyo. Mam Mrs. Jones oedd yn glanhau'r ysgol pan ddechreuais i yno, ond ymhen wythnos ar ôl ei anrhegu ar Fehefin 12, 1942, bu farw heb gael dim seibiant ar ôl ymddeol. Cymerwyd ei lle am dipyn gan gymdoges i ni, Mrs. Kate Evans, Stryd y Capel, a dilynwyd hi gan Mrs. Annie Rowlands. Deuthum i'w hadnabod hi yn well am fod Olwen a minnau yn gymaint o ffrindiau ac y mae llawer o blant y pentref yn cofio am ei gofal o'r ysgol. Daliaf i'w gweld yn cario coed dechrau tân dan ei braich i'r ysgol bob ben bore.
Evan Melanthon Evans, Dilys Jones, Emma Williams, K.Isaac |
Gyda therfyn y rhyfel dechreuwyd pennod newydd oludog yn hanes yr ysgol pan gychwynnodd Mr. Huw J. Evans ar ei waith fel ysgolfeistr ar lonawr 14, 1946. Y mae'n rhaid ei fod wedi'i benodi pan oedd yn y fyddin gan fod Mrs. Richards yn cofnodi yn y llyfr log i'r prifathro newydd ymweld â'r ysgol mor bell yn ôl â Gorffennaf 3, 1942. Ni fu'n hir yn dangos mai ef oedd y mistir, ac yr oedd angen gwneud hynny. Tua'r adeg honno daeth teulu o Saeson i fyw i'r Goitre ger Eglwys Llangynfelyn, ac ymunodd y plant, Stanley a Doris Wright, â ni yn yr ysgol. Yr oedd Stanley yn fachgen mawr cryf, a chofiaf iddo daflu carreg drwy'r ffenest agored sy'n wynebu'r ffordd fawr ac i honno ddisgyn ar ddesg y sgŵl pan oedd yn ysgrifennu arní un amser chwarae. Hwnnw oedd y tro cyntaf i Huw Evans ddefnyddio'r gansen yn ein gŵydd.
O gofio am brinder popeth yn ystod y rhyfel ac ar ôl iddo orffen, nid yw'n syndod fod y plant wedi gorfod dod â choed a glo i'r ysgol fwy nag unwaith ar gychwyn cyfnod Huw Evans. Yn ystod ei ail aeaf gyda ni cafwyd gaeaf gwaetha'r ganrif yn ôl pob hanes ac nid rhyfedd iddo groniclo ddiwedd Ionawr fod y tywydd yn arw. Nid oedd wedi gwella ymhen mis a chaewyd yr ysgol am dridiau ddechrau Mawrth am fod pob ffordd wedi ei chau. Popeth wedi ei gladdu dan eira mawr, a 'nhad a dynion y pentref yn torri drwyddo i gyrchu bara o orsaf Glandyfi. Pan agorwyd yr ysgol wedyn bu raid benthyg pedair stôf olew o festri Rehoboth, a chafwyd 30 galwyn o olew gan William Pugh, Manchester House. Y mae enwi William Pugh yn dwyn ar gof imi brynhawn ei angladd yn Ebrill 1948. Aethai Mr. Evans i'r arwyl gan adael Dorothy Edwards, a oedd yn cynorthwyo yn yr ysgol ar y pryd, i ofalu amdanom. Druan o Dorothy; buom yn greulon o anhrugarog wrthi a does ond gobeithio ei bod wedi hen faddau inni erbyn hyn.
Pan oedd y gaeaf caled ar ei waethaf, daeth dwy ferch o Goleg Aberystwyth atom i ymarfer bod yn athrawon. Ni chofiaf erbyn hyn pwy oedd Miss Thomas ond cyn bo hir iawn newidiodd Miss Jennie Howells ei henw i fod yn Mrs. Jennie Eirian Davies. Ni chofiaf fawr ddim am y mis y buont yn ein dysgu ar wahân i'r ymarfer ar gyfer y cyngerdd a gafwyd ar ddiwedd Mawrth pan ymadawsant â ni. Cyflwynodd y plant lleiaf ddramodig fach yn dwyn yr enw Penblwydd Dei, tra bu plant y dosbarth canol yn portreadu gwahanol alwedigaethau'r ardal. Perfformio'r ddrama fach Gwell Byd a oedd yn portreadu bywyd glowr oedd ein gwaith ni yn y dosbarth hynaf. Gorchmynnodd Huw Evans i rai o'r bechgyn dduo'u hwynebau ac atgoffodd Olwen fi yn ddiweddar am John Macdonald yn troi ei gefn ar y sgŵl ac yn rhoi ei ddwylo yn y simdde cyn eu rhoi ar ei wyneb wedyn! Y mae enwi John Mac yn dwyn tristwch i'm calon gan ei fod ef a Harri, y ddau sy'n sefyll yn ymyl ei gilydd yn y llun olaf a dynnwyd o ddosbarth Huw Evans cyn inni adael yr ysgol ym 1948, bellach wedi'n gadael. Dau gyfaill cywir a dau gymeriad lliwgar yn ogystal. Heddwch i'w llwch.
Er bod y rhyfel drosodd pan ddaeth Huw Evans atom, daliai'r merched o Goleg Ymarfer Corff Chelsea, a alltudiwyd i'r 'Grand Hotel', Borth, ynghanol yr heldrin, i ymweld ag ysgolion y cylch i ddysgu 'P.T.' Defnyddid y cwrt chwarae a'r cae cyfagos a fu'n gwrt tenis cyn hynny.
John Griffiths Stephens, a fu'n chwarae rygbi dros Gymru John Griffiths Stephens, who played rugby for Wales |
Y mae llawer o sôn ym myd addysg erbyn hyn am 'astudiaethau amgylchedd',.a phwyslais iach yw hwnnw wrth gwrs. Bu Miss Isaac a Miss Owen yn sôn llawer wrthym am ein hardal a rhai o'r lleoedd enwog o fewn ffiniau'r plwyf. Dyna pryd y clywsom am ysgolion Gruffydd Jones yn Nhan-rallt a Throed-y-fedwen, am Ogof Morus, am Fedd Taliesin, am Ddiwygiad 1859 a gychwynnodd yn Nhre'r-ddôl, ac am lu o leoedd a digwyddiadau eraill. Parhaodd Huw Evans yr addysg yma ac aeth â ni o gwmpas yr ardal i'w hastudio gan ddangos inni fod brogarwch yn rhan bwysig o'n diwylliant a'n haddysg. Nid y fro yn unig a gafodd sylw'r mistir newydd oherwydd ym 1947 cychwynnodd ar gyfres o deithiau i wahanol rannau o Gymru. Y tro cyntaf hwnnw buom yn y Llyfrgell Genedlaethol, Tollborth Penparcau (sydd yn Sain Ffagan erbyn hyn), Plas Nanteos, Ysgol Ystrad Meurig, Ystrad Fflur ac wrth gofgolofn Henry Richard ar sgwâr Tregaron. Ar ôl te ar lawntiau'r ysgol, troi am Eglwys yr Hafod a Phontarfynach gan fynd i lawr y grisiau enwog i syllu ar Raeadr Mynach.
Y flwyddyn wedyn mentrwyd ymhellach, a'r tro hwn cychwynnodd y plant, yr athrawon a staff y gegin ar y bererindod i hen gartref Richard
Half-way, Tre'rddôl, tua 1900 |
Parhaodd Huw Evans yr arfer yma ar ôl symud i Lanbadarn ac Aberystwyth, a'r llythyr olaf a dderbyniais oddi wrtho cyn ei farw sydyn oedd gair yn gofyn imi drefnu i blant yr Ysgol Gymraeg fynd o gwmpas Llanuwchllyn a'r Bala. Gwnaeth gymwynas â llu ohonom drwy ddeffro ynom awydd i grwydro'n gwlad a dod i'w charu hi a'i phobl.
Ar Fai 7, 1948, yr oedd yn "ddydd o brysur bwyso" yn hanes saith ohonom o Ysgol Llangynfelyn gan ein bod y diwrnod hwnnw yn mynd i Ardwyn i eistedd arholiad pwysig y 'sgolarship'. Huw Evans fel tad inni yn ein bugeilio ar y bws chwarter wedi wyth o Daliesin ac yn mynd â ni i gartre'i dad ger Capel Seilo am gwpaned o de cyn mynd am yr ysgol. Ychydig a gofiaf am y diwrnod poenus hwnnw ar wahân fod athro arall a gafodd gryn ddylanwad arnaf yn ddiweddarach, Mr. Beynon Davies, wedi bod yn gofalu amdanom am ran o'r arholiad. Pan gyhoeddwyd y canlyniadau (yn y 'Welsh Gazette' bryd hynny) ar Fehefin 23 gwelwyd fod Olwen, Gwenda Morris, Daniel Isaac a minnau wedi llwyddo i'n cael ein hunain ymhlith y 90 a fyddai'n mynd i Ardwyn ddechrau Medi.
Ond nid nyni oedd yr unig rai i adael Ysgol Llangynfelyn yr haf hwnnw oherwydd fe aeth 17 arall, a oedd wedi cyrraedd yr oed priodol, i Ysgol Dinas pan agorwyd honno am y tro cyntaf. Bu'r polisi newydd yn bwnc dadleuol yn aml iawn ar ôl hynny, ac ofnaf fod mwy o niwed nag o ddaioni wedi'i wneud i fywyd pentref ac ardal wrth i bawb dros unarddeg gael eu symud o'r wlad i'r dref.
Yng nghaniad cyntaf pryddest radio J. M. Edwards, Y Barri, ceir y pennill hwn:
"Hir a braf fu'r bore ifanc , A hi'n deg ar fryn a dôl; Diddig iawn oedd dyddiau gwanwyn, — Ddoe yn wir ni ddaw yn ôl".
Rhaid cytuno â'r llinell olaf ond eto i gyd rwy'n hoff iawn o'r cwpled hwnnw sy'n mynegi profiad llawer ohonom;
"Nid yw nef ond mynd yn ôl Hyd y mannau dymunol".
Mynd yn ôl i'r "bore ifanc" ac at hen gymdeithion y ddesg a'r cae chwarae. Yn ôl i Ben Chwarel i fyw a chwarae'n ddi-rwystr. Yn ôl i'r llechwedd y tu ôl ì weithdy
Bechgyn a merched o'r ardal ardef ar eu gwyliau o'r coleg ym 1912-13 Students from the neighbourhood home on holiday from college in 1912-13 |
Dosbarth nos yn yr ysgol ym 1969 Evening class held at the school in 1969 |
Cwestiynau? Sylwadau? Beth ydych chi'n meddwl am y tudalen hwn a gweddill y wefan? Dywedwch yn y llyfr ymwelwyr. Questions? Comments? What do you think about this page and the rest of the site? Tell us in the guest book. |