Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records
 | 
 | 
Cofnodion y Capeli
Chapel Records




Capel Rehoboth, Taliesin, Adroddiad Blynyddol 1949

Rehoboth Chapel, Taliesin, Annual Report 1949

Ar y tudalen hwn...

 

On this page...

 


ANNERCH

LLYS TEG,
TALIESIN.

Annwyl Frodyr a Chwiorydd,

Daeth blwyddyn arall i ben. Gyflymed y rhed amser, a dwg gydag ef fel llifeiriant cryf, "bawb o bobl y byd".

Cawsom ni, yn Rehoboth, wenau y nefoedd mewn mwy nag un ystyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, y mae gennym atgofion melus am ambell oedfa, a Seiat, a'i presenoldeb dwyfol i'w deimlo yn amlwg iawn. Cyfrannodd yr eglwys mewn arian at gynnal yr Achos Mawr a llonder i'n hysbryd ydyw, gweled ysbryd mor haelionus yn ein plith. Hir y parhao hi felly.

Bu angau yn troedio'n drwm drwy ein bro brydferth ac ymwelodd a'n cartrefi gan ddwyn oddiarnom gyfeillion hoff a chefnogwyr aiddgar i'r Achos.

Bydd eu lle yn wag yn y cartref ac yn y Capel.

Miss M. J. LLOYD, Bodhyfryd. "Siomedig yw ffafr ac ofer yw tegwch eithr benyw yn ofni yr Arglwydd hi a gaiff glod." Cerddodd drwy'r "Glyn" gan bwyso a'i fraich eu Gwaredwr. Huned mewn hedd hyd fore'i codi. Gadawodd fwlch mawr ar eu hol ar yr aelwyd.

Mrs. J. REES, Arosfa. "Gwyn eu byd y rhai addfwyn" Dioddefodd gystudd trwm a chaled. "Yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr trwy yr Hwn a'n carodd ni." Cofiodd am yr Achos yn eu hewyllus olaf.

Mr. D. M. DAVIES, Llannerch Dyfi. Blaenor ac arweinydd yn enwedig wrth annerch Gorsedd Gras. Yr oedd yn hyddysg yng nghymwys y Gras Sanctaidd, yn athraw medrus yn yr Ysgol Sul. Gwelai ef yn glir ac ymhell i'r byd anweledig er colli ohono ei olygon yn niwedd ei oes. Gorffwysed ei esgyrn mewn hedd ym mro ei febyd yn Nyffryn Aeron, "Da, was da a ffyddion. Dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd."

Mr. RICHARD WILLIAMS, Meirionfa. Gwr cadarn o gorff, a chryf ei gymeriad ydoedd ef. "Ni frysia yr hwn a gredo." Gadawodd ar ei ôl waddol ariannol i Eglwys Rehoboth.

Mr. IDWAL EVANS, Brynderw. Gwr ieuainc o ysbryd mwynaidd, gosgeiddig o gorff a chalon garedig ydoedd Idwal. Ymladdodd yn ddewr yn erbyn yr afiechyd dinistriol a'u goddiweddodd mor gynnar yn ei oes. Bu'n gwasanaethu ei wlad yn yr Awyrlu a diau gennym mae un o casualties rhyfel ydoedd ef. Aeth ef i'r Nefoedd a blâs y Swper Sanctaidd ar ei wefusau. "A gwledda i oesoedd diderfyn ar Gariad Anfeidrol yr Oen."

Derbynied y teuluoedd trallodus hyn ein cydymdeimlad, cywiraf â hwy yn eu hiraeth, a’u galar. Ni gawn gwrdd tu draw i'r afon.

Diolchwn yn gynnes i swyddogion y gwahanol gasgliadau am eu gwasanaeth cyson a pharod.

Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi oll. Amen.

Yr eiddoch yn rhwymau'r Efengyl.

R. HUGHES EDWARDS.

Swyddogion   Officers

Gweinidog:
Y Parch. R. Hughes Edwards

Ymgeisydd ar Braw:
Mr. W.G. Hughes Edwards

Blaenoriaid:
Mr D W Mason, Bryntirion
Mr E D Thomas Brynarian
Mr James M Jenkins, Neuadd-yr-ynys
Mr D M Davies, Llanerch Dyfi
Mr Caledfryn Evans, Y.H., Brynderw
Mr Gwilym C Jones, C.S. Tanrallt

Ysgrifennydd:
Mr Caledfryn Evans, Y.H.

Ysgrifennydd Ariannol:
Mr Arthur Pugh, Manchester House

Trysoryddion:
Y weinidogaeth...
Mr E D Thomas, Brynarian
Cyffredinol...Mr Gwilym C Jones, C.S. Tanrallt
Y Gronfa Adeiladu...Mr James M Jenkins, Neuadd-yr-Ynys
Yr Eisteddleoedd...Miss J F Thomas, Trefor

Arweinyddion y Gân: Mri. E D Thomas, Brynarian a Gwilym E Jones, Tanllan

Organyddion:
Miss J F Thomas, Tremfor
Miss Lilian M Edwards, Llyscynfelyn
Mr Arthur Pugh, Manchester House
Mr J B Edwards, Gorwel
Miss Ruth Jones, Y Berth

Gofalwr y Capel: Mrs William West, Manteg

Aelodau   Members

Miss Ann Jane Davies, Pencae
*Mr D M Davies, Llanerch Dyfi
Mr a Mrs Lewis Davies, Troed-y-fedwen
Mrs Jane Ellen Dunster, Pencae
Mr a Mrs J B Edwards, Gorwel
Miss Lilian M Edwards, Llyscynfelyn
Y Parch a Mrs R Hughes Edwards, Llysteg
Mr W G Hughes Edwards, Llysteg
Mr a Mrs T J Edwards, Terrace Row
Mr a Mrs Caledfryn Evans, Brynderw
*Mr Idwal Evans, Bryndrew
Mr Cyril Evans, Brynderw
Mr Alun Evans, Brynderw
Mr a Mrs Evan Evans, Pentrebach
Mr a Mrs Hugh J Evans, Ty'r Ysgol
Mr a Mrs Tecwyn Evans, Suncot
Mr William Evans, Terrace Row
Miss A M Griffiths, Llanerch Dyfi
Mr Edward O Griffiths, Cefnerglodd
Mr a Mrs D J Griffiths, Frondeg
Mrs Edward Humphreys, New Terrace
Miss Elizabeth James, Isfryn
Mr Richard James, Isfryn
Mr a Mrs J M Jenkins, Neuadd-yr-ynys
Miss Elwedd Jenkins, Neuadd-yr-ynys
Mr Bennett Jenkins, Neuadd-yr-ynys
Mr Hywel Jenkins, Neuadd-yr-ynys
Mr a Mrs R L Jenkins, Ty'n llwyn
Mr Hugh R Jenkins, Ty'n llwyn
Miss Gwen Jenkins, Ty'n llwyn
Mr a Mrs E H Jones, Noddfa
Mr a Mrs Gwilym C Jones, Tanrallt
Mr a Mrs Gwilym E Jones, Tanllan
Mr David John Jones, Tanllan
Mr Idris Jones, Ty Capel, Talybont
Mrs John D Jones, Glandyfi
Mrs M J Jones, Pencae
Miss Gwennie Jones, Pencae
Miss Glenys Jones, Pencae
Mrs Richard Jones, Smithfield Terrace
Miss Ruth Jones, Y Berth
Miss Gladys Jones, Y Berth
Mr J D R Jones, Terrace Row
Mr a Mrs T Ll Jones, Min-y-mor
Mr John Lumley, Gwenllys, Talybont
Mr Edward O Lloyd, Bodhyfryd
Mr Lewis Lloyd, Bodhyfryd
Mr David R lloyd, Bodhyfryd
*Miss M J Lloyd, Bodhyfryd
Mr D W Mason, Bryntirion
Mr J R Mason, Bryntirion
Mr a Mrs Chambers Morris, Aelybryn
Mr John Oliver, Trwyn-y-buarth
Mr Cecil Olier, Trwyn-y-buarth
Mr Humphrey Owen, Wern Philip, Bow Street
Mrs Mary Owen, Islwyn
Mrs William Pugh, Manchester House
Mr Arthur Pugh, Manchester House
Mr W Ernest Pugh, Brynarian
*Mrs Joseph Rees, Arosfa
Mrs Owen Stephens, Oak Cottage
Mr a Mrs Evan Thomas, Brynarian
Miss Janet Thomas, Glanclettwr
Mr J G Thomas, Glanclettwr
Miss Jane F Thomas, Tremfor
Miss Kate Thomas, Neuadd House
Mrs Ll Watkin, Brynawel
Mrs William West, Manteg
Mr John White, Manteg
Mr a Mrs E H Williams, Penywern
Mr Haydn Williams, Glanyddol
*Mr Richard Williams, Meirionfa, Talybont
Mr a Mrs John Wynne, Pencae
Miss Gwyneth Wynne, Pencae
Plant yr Eglwys
Eurdeg Jenkins, Neuadd-yr-Ynys
Dorothy, Mair, Robert ac Alwen Williams, Penywern
Cyfraniadau gan pobl heb fod yn aelodau
Mr Evan J Davies, Pencae
Miss Dorothy M Evans, Bryn-a-mor
Mr Thomas D Jones, Coedllai, Yr Wyddgrug
Mrs M A Price, Y Bwthyn
Miss Margaret Roberts, Rhiwlas
Miss A M Selvin, Marsh View
Mrs Walter Thomason, Bryndovey.
Archifdy Ceredigion/Ceredigion Archives, ADX 253. Mae adroddiadau 1951-2 a 1954 ar gael hefyd.


[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]