Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records
 | 
 | 
Dogfennau Amrywiol
Miscellaneous documents



[Ynglyn â'r awdur/About the author]    ["Caligan"]

Yr Hen Gyrnol

GWYDDWN am yr Hen Gyrnol ers rhai blynyddoedd, ond ni fuaswn yn ddigon agos ato i dorri geiriau ag ef, dim ond yn ddigon agos i'w weled, a'i glywed yn siarad ar uchaf ei lais. Methwn yn fy myw â gwybod paham y gelwid ef yn hen, ac yntau heb fod ond prin wedi cefnu ar ei hanner cant. Nid oedd ychwaith yn ei wedd na'i osgo ddim yn awgrymu henaint. Edrycher arno. Dyn byr ydyw— byr i fod yn filwr—ar ei orau y medr hawlio mwy na phum troedfedd a saith modfedd, ac nid oes ddewin a ŵyr trwy ba ddyfais y tyfodd yn gyrnol; rhoddir pris mawr ar hyd corff ym myddin Prydain. Dyn byr, ysgafn, ag wyneb gwritgoch ydyw, a'i lygaid gwinau 'n aflonydd ac yn pefrio fel sêr ar nos o rew. Y mae ganddo ar ei wefus uchaf drwch da o flew wedi'u rhannu'n ofalus ac yn saethu allan yn ddau bigyn syth, fel dau ysbardun ceiliog gêm, o boptu'i ffroenau. Ni saif yn llonydd am eiliad, ac y mae ei gerdded bob amser fel petai ar gychwyn rhedeg. Paham y gelwir un mor sionc, ac ieuanc o ran ei bopeth, yn hen? Yn y flwyddyn 1914 yr aeth yn filwr ac y gwnaed ef yn gyrnol, a chan nad oes fwy nag un mlynedd ar bymtheg er hynny prin mai nifer blynyddoedd ei filwriaeth yw'r rheswm am yr ansoddair hen.

Amaethwr yw'r Hen Gyrnol, yn berchen ar ei fferm ac yn ei thrin bob llathen fel petai'n ardd. Y mae ganddo ddigon o foddion i brynu dwsin o ffermydd a'u ffurfio'n ystad, eithr cred y dylai pob dyn fod yn berchen ar ei fferm ei hun ac na ddylai fanteisio ar fwy nag un. Gweithia deg o ddynion a bechgyn ar y fferm, a gweithreda'r Cyrnol fel beili. Yn ei gefn geilw pob un o'r gweithwyr ef, "Yr Hen Gyrnol ". Ceidw haid o fytheiaid ar ei draul ei hun; nid i'w fwynhau ei hun, meddai ef, ond i amddiffyn amaethwyr y darn gwlad y trig ynddi rhag eu tlodi gan lwynogod. Nid i'w fwyniant ei hun! Ac eto sieryd o fore gwyn hyd nos am ragoriaethau'r cŵn a'u gwyrthiau yng nghymoedd a chreigiau'r gymdogaeth. Ef yw'r unig un y gwn i amdano sy'n llenwi'r syniad a geir yn yr ymadrodd gentleman farmer.

Ond paham y gelwir ef "Yr Hen Gyrnol"? Dyn chwimwth bob gewyn a synnwyr ydyw, a'i eiriau'n chwyrn a phoeth. Ar fore helfa, naid ar ei farch fel llanc, ac yna, gwibio'n ôl a blaen, ac ym mhobman ar unwaith, a gweiddi ar hwn ac arall mewn geiriau bras yn torri fel clec chwip. Clywais ganddo amryw droeon ar gychwyn helfa iaith cyn boethed ag i beri ofn y deifiai nwyd hela ei gŵn. Dyna gychwyn ar fore glas, a mynd yn syth drwy'r meysydd a thros y perth, tynnu am y llechwedd, i lawr i'r goedwig, a dyna'r cŵn yn "galw", ac yn sŵn y "galw" cyll pawb eu gofid. Dychwelant fin nos yn araf a digalon, a phawb yn flinedig—pawb ond yr Hen Gyrnol. Y mae henaint a blinder yn cilio oddi wrtho ef; eithr er hynny "Yr Hen Gyrnol" y gelwir ef.

Unwaith y clywais ef yn siarad mewn cyfarfod cyhoeddus, ac er na ragorai o ran nac iaith na meddwl na thraddodiad, cafodd ddylanwad rhyfedd ar y gynulleidfa. Eglurodd imi ar ôl hynny nad oedd ei iaith bob dydd ef yn gymwys i gyfarfod cyhoeddus, ac na feddai ef iaith ond honno, ond pe cawsai ryddid i ddefhyddio'i ansoddeiriau cryfion arferol na fuasai "fawr o dro'n rhoddi'r lie ar dân ". Cyfarfod ynglŷn â'r ex-service men ydoedd, yn neuadd y dref. Maer y dref oedd yn llywyddu, siopwr cefnog ac iddo ddau fab a oedd yn rhy brysur yn y siop i ymladd yn y Rhyfel Mawr—gresyn na fyddai pawb yn rhy brysur, fel na byddai rhyfel. Yr oedd y cadeirydd yn ddyn crefyddol a mawr ei barch, ac ni chlywid byth air yn ei erbyn namyn iddo "dorri" ddwywaith, eithr nid oedd hynny'n bwysig wedi iddo gefnu ar y ddrycin—fe gudd cyfoeth lawer o bechodau. Ar ôl araith y Maer galwyd ar Mr. J. Smart Davies—casglwr trethi—i annerch y dorf, a dywedodd yntau fod yn rhaid iddo ef fel swyddog y llywodraeth fod yn ofalus ar ei eiriau. Cydymdeimlai'n fawr â'r "bechgyn" a chynghorai'r rhai tal a chryf i ymuno â'r Force, nad oedd dim yn debyg i fod yn swyddogion y llywodraeth, ac nad oedd yn rhaid wrth na dysg na dawn i fod yn blisman, y caent gyflog campus a dillad da a heirdd, a phan fyddent tua chanol oed, ar ôl gwasanaeth am ryw bum mlyneddedd ar hugain yn y Force, caent fyned i'w dillad eu hunain a'u hiawn bwyll a bod fel dynion eraill; ac yna, byw am byth ar bensiwn mwy na chyflog naw o bob deg o weinidogion yr Efengyl. Yn nesaf caed cân gan Jones, y teiliwr, "Bendithiaist Goed y Meysydd". Yn dilyn caed araith danllyd gan y Cynghorwr Fred T. Gibbins, yn condemnio'r Llywodraeth a'r Cynghorau Sir, y cyfoethogion a Lloyd George, am na fuasent yn cyflawni'u haddewidion i'r "bechgyn". Canwyd y dôn boblogaidd "Cwm Rhondda" gan yr holl gynulleidfa; wedyn, araith Saesneg gan ferch Ap Myrddin, llywydd y Cymrodorion ; ond ar ganol yr araith bu gweiddi mawr am "Yr Hen Gyrnol". Ar ôl ei wthio i flaen y llwyfan dywedodd y Cyrnol:

"Mr. Cadeirydd ac annwyl gyfeillion.—Areithydd anghyfarwydd wyf fi, fel y gŵyr pawb, a byddai'n well genny'r boen o wrando ar eraill na'r pleser o siarad fy hun. Ffarmwr ydw i ac ex-service man—dyn wedi arfer trin tir a magu anifeiliaid a siarad â'm gweision a'm cŵn. Yr wyf yn dipyn o filwr hefyd, a gwyddoch na fûm erioed yn fyddar pan fyddai galw, a gŵyr y Germans hynny hefyd. Mi freuddwydiais neithiwr fy mod yn y ffosydd, fel y bûm ganwaith, a ml welais wynebau rhai ohonoch yno gyda mi. (Cymeradwyaeth). Yn awr, yr wyf am wybod faint o'm bechgyn i sydd yn y gynulleidfa yma. 'Newch chi sefyll ar eich traed? Cyfrifwch hwy, Mr. Cadeirydd. Faint—pymtheg ar hugain? Feri wel;pymtheg ar hugain, a phob un dan ei greithiau fel mi fy hun. Mi glywais yn ddiweddar fod rhai o'r "bechgyn" mewn amgylchiadau drwg a'u plant yn diodde. Nid wyf fi am feio'r Llywodraeth na Lloyd George na neb; y mae helyntion y byd fel tywyllwch yr Aifft i mi; ma'r anigylchiade uwchlaw deall pawb ohonom; ond myn gafr, cyn y caiff neb o'm "bechgyn" i ddiodde, mi werthaf Gelli Ifor a'r ci ola' o'r pac, ac af yn dlawd fel chithe, a chaiff y llwynogod dragwyddol heol. (Cymeradwyaeth fawr). 'Nawr bois; y mae genny air neu ddau i'w ddweud wrthych chi. Yn gynta', peidiwch a byw ar y dôl, os yw'n bosibl; y mae byw ar y dôl yn lladd blas ar waith ac yn difa annibyniaeth dynion. Os oes rhai yn diodde, dewch i lawr i'r Gelli cyn mynd ar y dôl, a mi gaf weld beth a allaf wneud. Peth arall, peidied yr un ohonoch ag ymostwng i drampio'r wlad o ddrws i ddrws i werthu papur sgrifennu i adferteisio'ch hunain fel ex—service men; gwaith i'r diog a'r llwfr ydyw hwnnw. Peidiwch a gwneud capital o'ch aberth neu mi dynnwch y llewyrch oddi arno. Un gair eto cyn terfynu, Mr. Cadeirydd. Fechgyn, gadewch inni sefyll a symud ysgwydd yn ysgwydd fel yn y Rhyfel Mawr—symud i ymladd brwydrau heddwch—a mi af ar fy llw y byddwn yn fwy na gorchfygwyr." (Gweiddi mawr).

"Dyna'r Hen Gyrnol i'r dim," ebe rhywun yn f'ymyl.

Amgylchynir Gelli lfor, cartref y Cyrnol, gan dyddynnau a thai gweithwyr am bellterau gymaint ag a wél dyn yn eglur a llygaid noeth. Nid yw'r tir yn fras, a chan nad oes fynydd i fagu defaid, yr hyn a dâl yn well na dim i amaethwr yng Nghymru, disgyn aflwydd yn aml ar y trigolion oherwydd anghaffael ar anifeiliaid neu haf gwlyb, neu'r ddau ynghyd. Eithr cyn gynted ag yr â'r adfyd i glyw'r Cyrnol, gwelir ef yn gadaw GeIli Ifor tan chwibanu "Llwyn Onn", neu "Y Deryn Pur", ei het o frethyn llwyd yn tynnu at ei wegil, ei fwstash mor stiff ag erioed, a dau gi wrth ei sodlau. Wedi cyrraedd tŷr gofid, â i mewn ar ei union heb arafu dim ar ei gerdded, a dywedyd, "Wel Tomos, pa gythgam o helynt sy arnoch chi ? Mi glywais neithiwr eich bod yn cwyno'n aflawen ar eich byd."

"Wel, Cyrnol, tipyn yn dywyll yw hi arna' i; y mae'r rhent i'w dalu yr wythnos nesa', a 'd oes genny fawr fwy na'i hanner."

"Fawr fwy na'i hanner! Be felltith ych chi'n wneud â'ch arian?"

"Mi drigodd y ddau fustych oedd genny ar gyfer y ffair ddiwethaf, a gwyddoch mor ddrwg fu'r cynhaeaf; 'r wy'n ofni'n wir y caf rybudd i 'madael gan y gŵr bonheddig pan wêl fy mod yn methu."

"Rhybudd i 'madael ! Na ; 'd oes yr un corgi o ŵr bonheddig a rydd rybudd i neb o'm cymdogion i oherwydd eu tlodi; mi ofala i am hynny. Cheer up, Tomos. Dewch i fyny i'r Gelli heno a chwi gewch rywbeth dan eich dannedd a pheth cryfach nag enwyn i'ch helpu i'w lyncu, a mi wna i'r rhent i fyny. Cewch dalu'n ôl fel y gellwch, ac os na ellwch dalu—wel, dewch i fyny Tomos."

I ffwrdd ag ef dan chwibanu "0 ! na byddai'n Haf o hyd". Meddai Tomos wrth ei briod, "Mari, y mae'n llinynne ni wedi disgyn mewn lleoedd hyfryd. Gobeithio'r nefoedd y caiff yr Hen Gyrnol fyw hyd nes byddwn ni wedi magu'r plant."

Ar fryncyn noeth filltir o'r Gelli, y mae hen gapel a welodd ddyddiau gwell ddwy genhedlaeth yn ôl, cyn chwalu llawer o'r tyddynnau ac i beiriannau amaethu yrru gweithwyr tir i'r trefydd a'r "gweithe ". Un adeg ceid yn y capel gynulleidfa gref ac addoli hwyliog, eithr erbyn hyn y mae bron yn wag. Ni cheir mewn oedfa fwy na deg o hen bobl, gŵr a gwraig ganol oed, a thair hen ferch wedi colli'u hiechyd. Gelwir arnaf, yn ôl y drefn, i wasanaethu yn y capel gwag ac oer hwn un Sul o bob mis drwy'r flwyddyn, ac af yno'n gyson; eithr nid euthum yno erioed heb deimlo fy mod yn pechu trwy fyned, oblegid y mae Eglwys y plwyf daith deng munud oddi wrtho, a chapel y Methodistiaid daith chwarter awr, a gellid rhoddi'r tair cynulleidfa mewn un o'r tair adeilad, ac ni byddai honno'n llawn. Un Sul yn yr Hydref digwyddai tro Harri a Mary Puw i gadw'r mis, ac euthum adref gyda Mary—hwy oedd y gŵr a'r wraig ganol oed. Gwas pennaf y Gelli oedd Harri, ond cwynai ers rhai misoedd a methai weithio. Nid oedd dim o'i le arno, meddai ef, dim ond hen annwyd yn peri gwendid yn ei goesau a pheswch caled ben bore ar ôl chwysu'n drwm drwy'r nos; teimlai'n well bob dydd, a disgwyliai y byddai'n ddigon cryf i weithio eilwaith petai'r tywydd yn gwella. Wrth weled coch cryf ei ruddiau curiedig a gwrando'i besychiad trwm, daeth i'm meddwl linellau Robert ap Gwilym Ddu yn ei gywydd coffa i'w unig ferch:-

Y peswch marwol pwysig
Fu'n erlyn i'w derfyn dig;
Poethi ac oeri i gyd
A'i blinodd, bob ail ennyd;
Chwys afiach, a chas ofid,
A'i grudd fach dan gryfach gwrid;
Pob arwyddion, coelion caeth,
A welid o'i marwolaeth.
Llawer dengwaith, drymfaith dro,
Tra sylwn—trois i wylo.
Byr oedd hyd ei bywyd bach,
Oes fer,—Ow! beth sy fyrrach?

Dyna guro trwm ar y drws. "Yr Hen Gyrnol," ebe Mrs. Puw, a llithrodd yn gyflym at y drws.

"Wel, Mary," ebe'r Cyrnol, "pa hwyl sy yma heddiw ?"

"Go lew, Syr."

"B'le mae Harri-.-ydi e wedi codi? Helo, Harri, old chap, sut mae hi'n dŵad

"Go lew, Syr."

"'Wyddost ti beth, Harri, mae'n rhaid i ti wella ar unwaith neu fe â pethau'n bendramwnwgl yng Nghelli Ifor. Mae'r plant acw'n holi bob dydd pa bryd y daw Harri'n ôl, a'r anifeiliaid fel petai nhw wedi'u rheibio; 'does ddim llaeth oddi wrth Penddu ers dyddie, ac fe ddywaid Gwen, y forwyn, mai hiraeth amdanat ti sy arni; gweryra Bess, y gaseg, fel petai wedi colli dwsin o ebolion, ac mi allet dyngu bod y colic bron a lladd yr hen gi, Spot, gan gymaint ei gwyno."

"Mi ddo i'n ôl mor fuan ag y gella i, Syr."

"Reit! Mary, a oes gennych chi ddigon o bopeth yma?"

"Oes, Syr."

"Peidiwch chi â bod yn fyr o ddim, y mae digon o bopeth yn y Gelli; os bydd eisiau cyw iâr, neu gyw arall, anfonwch air. Mi anfonaf ddillad gwlanog i gadw Harri'n gynnes tros y Gaea' yma. 'Wyt ti'n smocio llawen yn dy segurdod. Harri?"

"Ydi, mae e'n smocio o hyd, Syr."

"Pwy faco wyt ti'n smocio?"

"Ringer, Syr."

"Wel, 'weda i ddim yn enbyn Ringer; y mae'n ystwff iawn i ddynion cryf yn yr awyr agored, ond mae genny yn y tŷ acw faco a fydd yn dy daro di'n well, a thithe dipyn yn wan; y mae e'n lled ddrud— swllt yr owns, ond nid yw'n rhy dda i ti; mi anfonaf dipyn i lawr fin nos. Gwell fydd imi anfon botel neu ddwy o win; fe rydd hwnnw dipyn o nerth ynot. Gan dy fod yn hoff o ddarllen, beth sydd gennyt i'w ddarllen yn awr? 0, ma'r wnaig acw'n anfon y papure a'r cylchgrone i lawn bob dydd, ydi hi? Ond y mae gen i nofel gampus, un o'r pethe digrifa'n bod, a mi bair iti chwerthin nes byddi ar hollti ; fe fydd ei darllen yn help iti anghofio dy salwch ; anfonaf honno hefyd i lawr. Bore da i chi'ch dau. Cod dy galon, Harri; cei di haul—cawod yw hon."

Ymaith ag ef yn sydyn a chyflym fel hogyn, a chwibanu "Mentra Gwen ". A'r Sabath oedd y diwrnod hwnnw.

Beth amser wedi'r ymddiddan uchod gelwais yn Gelli lfor, ac atgofio'n Cyrnol o'i ymweliad â Bryn Llwyd a'i garedigrwydd i Harri a'i briod.

"Arswyd y byd!" ebe ef, "a oeddych chi yn y tŷ?"

"Oeddwn, ac fel y gwyddoch, mewn tŷ bach fel Bryn Llwyd yr oedd bron yn amhosibl imi ochel clywed popeth a ddywedasoch."

"Wel, 'tawn i byth o'r fan yma! A ddywedais i rywbeth na ddylwn? Iaith fras a phoeth sy genny ar y gorau; petawn i'n gwybod fod pregethwr o fewn milltir i mi—wel, 'd oes mo'n help yn awr."

"Yr oedd eich meddylgarwch, a'ch gofal tyner am eich hen was, Cyrnol, yn cuddio pob diffyg, a bu eich ymddygiad y bore hwnnw yn foddion gras i mi, ac nid oes fesur ar fy edmygedd ohonoch ar gyfrif eich caredigrwydd."

"Damwain oedd hi na ddywedais i ddim o'i le, ac y mae'n dda iawn genny am y digwydd. Wel, Syr, dyna 'nghrefydd i, a 'rwy'n diolch bob amser am gyfle i'w harfer hi. Mi gewch rai pobol yn lladd ar Raglinieth am ei bod hi yn peri colledion a phrofedigaethe eraill i ddynion. Ond beth a ddôi o greadur fel fi oni bai fod profedigaethe? Pe na bai neb yn dlawd neu'n sâl neu mewn gofid byth, mi fydde'n rhaid i mi fyw yn annuwiol. Y mae dynion yn crefydda mewn gwahanol foddau, rhai trwy deimlo'n ofidus neu'n llawen, a dim ond hynny; eraill trwy weddïo a siarad tros grefydd; a'r lleill trwy gyfrannu arian at genadaethe a chartrefi plant amddifaid ac ysbytai—pawb yn ei ffordd ei hun ; ond fy ffordd i ydi gofalu cymaint byth ag a fedraf am y tlawd a'r afiach a'r profedigaethus yn y wlad sy o fewn cyrraedd imi. Fel y gwelwch, y mae'n wlad lled eang, ac ynddi ugeiniau o bobol rhwng plant a phopeth, ond 'd oes yma neb —bach na mawr—na wn i amdano. Fy meddwl i yw bod Rhaglinieth yn ddoeth iawn yn rhoddi cyfle i bob un grefydda yn ei ffordd ei hun. Anaml y byddaf fi'n meddwl am fyd arall, ond pan wnaf hynny af i'r niwl ar unwaith. Fe'n dysgir yn awr na fydd dim profedigaethe yn y byd a ddaw. Os ydi hynny'n wir, sut y gall un fel y fi grefydda yno? Y mae'n debyg y trefna'n Meistr Mawr ffordd newydd imi."

"Y mae'n debyg y byddwch yn mynychu'r Eglwys, Cyrnol?"

"Mor regilar â'r cloc—ddwy waith yn y flwyddyn; 'chollais i mo'r Plygain a'r Cwrdd Diolchgarwch ers tros ugen mlynedd. A fuasech chi'n hoffi bwrw golwg am y cŵn—y pac gorau yn y sir, Syr."

(Oddi allan o "Yr Hen Gyrnol a Brasluniau Eraill" gan Y Parch. Evan Isaac. Cyhoeddwyd gan Gwasg Aberystwyth, Mawrth 1935)

[ymlaen i "Caligan" - stori arall oddi wrth y llyfr]

[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]