Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records
 | 
 | 
Cyfnodolion
Periodicals



Yr Eurgrawn Wesleyaidd

Jubili Capel Soar, 1870

TRE'RDDOL - Jubili y capel uchod
Credaf nacheir byth well esboniad ar "Ddydd y pethau bychain" nag a geir yn hanes yr achos Wesleyaidd yn y lle uchod. Oblegid bu am flynyddau mor wan, fel y buwyd yn ofni nad oedd dim ond marw o'i flaen, a llawer bron â myned mor bell a gyweyd mai ffolineb oedd meddwl byth am achos mewn lle mor wael; ac yn wir, pan yr ystyried mor wan oedd yr eglwys, mor ychydig oedd y gwrandawyr, ac mor anaml yr oeddent yn cael pregethwr, ac yn neillduol mor ychydig o ieuenctyd ddeuai yno, yr oedd pethau yn ddigalon iawn. Gwelid gwell capel, a chynulleidfa, a phob peth gan eu cymdogion. Yn wir, yr oedd pethau fellyyn ddigon a digaloni dynion, oddieithr fod ganddynt hwy sel a chariad mawr at yr achos bach; a diameu mai hyn a'u cymhelklodd i fod mor ffyddlon o'i blaid. Meddyliodd ambell i un ohonynt pe buasent yn gallu cael capel newydd yn lle yr hen le bach gwael odd ganddynt, y buasai hynny yn effeithio er daioni, ond druain ohonynt, yr oedd yn dywyll iawn i feddwl am gapel newydd, oblegid yr oedd yr hen ddyled heb ei thalu ar y capel bach; ac nid oedd dim gallu ganddynt i ddisgwyl talu am yr hen, heb son dim am gapel newydd; ac os coddent gapel newydd, y byddai raid iddynt godi yr holl arian tuag at hyny ar log, a mwy o ddyled yn aros yn yr hen gapel na'i werth. Ond er eisieu arian a llogau, er dyleda phobpeth, penderfynwyd i gael capel newydd, a'i gael yn gapel mawr. Cafwyd capel, a hwnw yn gapel mawr - mawr mewn cymhariaeth i'r hen gapel, a mawr mewn cymhariaeth i'r gynulleidfa. Adeiladwtd y capel newydd yn y flwyddyn 1845. Symudwyd yr arch i'w chartref newydd; ac erbyn myned yma, yr oedd y capel yn ormod i'r gynulleidfa, oblegid nid oedd y y capel yn cael ei chwarter lanw - un fan hyn, a'r llall fan acw oedd hi yn y capel newydd. Ond erbyn hyn yr oeddent wedi myned dan gyfrifoldeb mawr, ac felly, d'oedd dim tori calon i fod; na, gwaith oedd i'w wneyd bellach, a phenderfynodd y cyfeillion i weithio. Aed ati o ddifrif; gweithiasant yn dda; talwyd y llogau; daethant yn alluog i dalu cyfran o'r corff yn flynyddol; felly daeth y llogau yn llai a hwythau yn gallu talu mor o'r corff, new y daethant i amgylchiadau da iawn. Ond wedi dod i amgylchiadau felly, yr oedd eisieu helaethu y capel eto; er fod hyn eto yn anturiaeth bwysig, ymgymerwyd â'r gwaith. Yn y flwyddyn 1864, pan oedd y Parch. Thomas Thomas (A) yn weinidog yn Tre'rddol, dechreuwyd ar y gwaith. Gwnaed y capel yn llawer mwy nag o'r blaen. A thrwy eu cydymdrechion hwy fel eglwys gyda Mr. Thomas, daethant trwy y gawith, a gosodasant amgylchiadau yr eglwys mewn agwedd esmyth, fel nad oedd dim eisieu i'r Trustees ofni dim byd yn y dyfodol. Ond er hyny, nid oedd y capel yn ddiddyled; na, yr oedd eisieu tipyn eto, ac mae y cyfeillion wedi bod yn gweithio yn dda o hyny hyd yn awr - yn deilwng o ddisgyblion i Grist. Ond eleni gwnaed yr ymdrech olaf, a chafwyd digon o arian i law i allu talu y ddimai olaf oedd yn sefyll yn ddyled ar y capel. Gellir canu heddyw,

"Blwyddyn y Jubili a ddaeth."

Cawsom gyfarfod y Jubili - cyfarfod pregethu, ar Sul, Awst 28ain. Gwasanaethwyd gan a parchn. Evan Richards, Aberystwyth, arolygwr y gylchdaith; Thomas Thomas (A), yn awr o Trefeglwys; a David Young, ein gweinidog yn Tre'r-ddol. Cawsom gyfarfodydd da, bendithiol iawn. Dymunodd llawer un o'r hen dadau ffyddlon fu yn llafurio gyda'r achos i weled y pethau hyn, ond synudwyd hwy at eu gwobr; ond yr ychydig sydd eto yn aros ac yn cofio am yr amgylchiadau y buont ynddynt, nis gallant lai na chanmol Duw, a chymeryd cysur, am na bu eu" llafur yn ofer yn yr Arglwydd." Oblegid erbyn hyn, mae yr eglwys fach wanaidd a nychlyd fu yn ofni bron a chael byw wedi d'od yn eglwys gref a dylanwadol, un meddu un o'r cynylleidfaoedd mwyaf parchus a lluosog yn yr holl gymdogaethau sydd yn perthyn i unrhyw enwad. Capel da, ddiddyled, yn freehold, - tir yn barod wedi talu amdano i helaethu y capel eto. Gobeithiaf, Mr.Gol., y cewch glywed yn fuan fod y tir wedi ei ddefnyddio, a'r capel wedi'i helaethu eto. Yn wir, mae eisieu yn awr, oblegid y mae pob sitting wedi ei gosod, ac eraill yn ceisio, a dim un i gael i'w gosod iddynt; a chredaf, os oes eisieu sittings ar ddynion, a dim un i gael, ei bod yn bryd helaethu yn y lleoedd hyny. 'Does dim dwywaith nad helaethir y capel yn fuan iawn, gan fod yma un o'r eglwysi mwyaf byw a gweithgar a feddwn yn y dalaeth. Mae yma dŷ yn cael ei paratoi i'r gweinidog. Prynwyd darn o dir digon o faint i wneyd garddfirst-class, a chael digon o bob math o vegetables i deulu lluosog, yn sefyllyn y lle mwyaf prydferth yn y gymydogaeth. Mae y tir yn freehold. Bydd y tŷ a'r tir yn costio uwchlaw £350, ar wahân i'r dodrefn, sydd i gostio, fel pob tŷ respectable arall, £120. Mae yma ymdrechion teilwng wedi bod; a chyn bod yn hir iawn bydd y tŷ mewn amgylchiadau cysurus; a phan y gorphenir y tŷ, ac y bydd yn barod i deulu fyned iddo, bydd yn sicr o fod yn un o'r manau mwyaf dewisol i fyw. Mae y llwyddiant sydd wedi bod yn yr eglwys hon yn destyn cysur i'r cyfeillion anwyl sydd wedi bod yn gweithio gyda'r achos yn yr lle, ac i'r hen dadau yn y weinidogaethna bu "eu llafur yn ofer yn yr Arglwydd", ac yn sylfaen gobaith i ninau i ddisgwyl pethau mwy yn y dyfodol. Buaswn yn caru gweled Trem ar Tre'rddol er calonogiachosion sydd yn wan i ddysgwyl wrth yr Arglwydd, a chymeryd cysur; ac yn wir, buasem yn gwneyd ymdrech i gasglu rhyw ddefnyddiau i'r Parch. L. Hughes i wneyd, oni bai ein bod yn dysgwyl wrth y Parch. James Jones, Aberaeron, (gynt o Dre'rddol,) sydd wedi addaw er's blynyddau i wneyd hyny. Gobethio na raid dysgwyl yn hir eto cyn ei gael.
TEGFRYN

Yr Eurgrawn Wesleyaidd, 1870 tud 479-480

[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]