Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records
 | 
 | 
Dogfennau Amrywiol
Miscellaneous documents



[Ynglŷn â'r awdur/About the author]

Coelion Cymru

gan Y Parchedig Evan Isaac, Taliesin

Er cof am fy chwaer Susana, a wyddai ac a gredai goelion ei mam.

Rhagair

Lluniais y llyfr hwn oherwydd credu bod gwerth yn y coelion. Yn gyffredin, nid y sawl a gred y storïau a'u cofnoda, eithr y sawl a gred fod eu cofnodi yn hanfodol er gwybod hanes dyn a chenedl.

Y mae arnaf ddyled fawr i amryw, fel y dangosir yng nghorff y llyfr. Efallai na phair enwi rhai yn y fan hon dramgwydd i'r gweddill. Ar wahân i'r llyfrau a ddefnyddiais, cefais y cymorth mwyaf gan swyddogion Llyfrgell Genedlaethol Cymru; yr Henadur John Morgan, Y.H., Ystumtuen; Mr. Lewis Hughes, Henblas, Meliden, Sir Fflint, a'r Parchedig D.Llewelyn Jones, B.A. a roes awgrymiadau gwerthfawr, ac a gywirodd y proflenni. Diolch yn fawr i bawb.


Y Ladi Wen

Hanner y ffordd rhwng Taliesin a Thre'rddôl y mae'r Lefel Fach, a'i genau yn dyfod i'r ffordd fawr. Credid yn gryf pan oeddwn i'n hogyn y trigai 'Ladi Wen' yn y lefel, ac y deuai allan pan ddelai tywyllwch, a chydgerdded yn fonheddig â gwahanol bersonau. Ni ddywedai air wrth neb, ac ni allai neb gan faint y braw lefaru wrthi hithau. Caewyd genau'r Lefel Fach pan safodd gwaith mwyn Llain Hir, a chollwyd y Ladi Wen. Bûm yn credu ynddi cyn gryfed â neb pan oeddwn yn ieuanc, ond wedi imi dyfu i fyny a chrwydo mannau poblog, marweiddiodd fy ffydd. Eithr ni allaf eto yn awr fyned heibio i'r Lefel Fach heb feddwl am y Ladi Wen, ac nid oes odid neb yn y ddau bentref heddiw na ŵyr amdani.
tud. 66


Y Dolaeth

Mynnai llawer gynt roedd coel ar yr hyn a elwid Tolaeth neu Dolaeth fel arwydd sicr o farwolaeth. Sŵn traed neu gerbydau, neu guro byrddau, neu ganu clychau ganol nos, ydoedd Tolaeth. Clywodd yr hen bobl bethau thyfedd, ac o wrando ar dystiolaeth rhai mewn oed pan oeddem ni'n blant, y mae'n anodd i ninnau beidio â chredu mewn rhyw fath o arwyddion, oblegid, hyd y gwelaf fi, nid oes yn awr fawr neb yn rhagori o ran na dealltwriaeth na diwylliant na geirwedd ar y genhedlaeth o'r blaen. Mor anodd yw amau person oedrannus a ddywaid iddo droeon glywed drymder nos guro gweithio arch cyn marwolaeth cymydog? Amryw flynyddoedd yn ôl bu farw modryb i mi ym mhentref Taliesin, ac yr oedd yn wraig deallus a phwyllus a geirwir. Ni wn i am ragorach modryb gan neb. Clywsai hi'r curo yn fynych, a soniodd wrthf am y peth droeon. Preswylai heb fod ymhell o weithdy John Dafis, y saer, ac yn aml deuai iddi ganol nos o'r gweithdy, ychydig ddyddiau cyn marwolaeth un o'r pentrefwyr, sŵn gweithio'r arch.

tud. 82-83

Bedd Taliesin

Ymddengys oddi wrth y traddodiad am y bedd hwn mai prif offerynnau'r bodau anweledig i'w amddiffyn a'i ddiogelu yntau ydyw mellt a tharanau. Dylem ddiolch am ofal y bodau ysbrydol hyn, oblegid a barnu wrth y golwg sydd. ar y bedd, ni ŵyr Cymrodorion a Chymdeithas Hynafiaethau a Chyngor Sir Aberteifi ddim amdano. Yn gefndir i Dre' Taliesin y mae mynydd lled uchel, ac ar ei uchaf, mewn llain ar dyddyn Pensarn Ddu, y mae carnedd gerrig â daear wedi tyfu trosti, ac yn y garnedd hon y mae'r Bedd. Lled cae bychan oddi wrtho y mae Sarn Helen. Ceir nodyn yn "Y Brython" gan Lewys Dafys (Yr Hen Glochydd), Tre' Taliesin, a ddengys y derbynnid y traddodiad am fan bedd y bardd fel ffaith yn ei ddyddiau ef.1

Math ar gistfaen ar ffurf arch â maen mawr ar ei wyneb yw'r bedd. Bu Mr. Tom Owen, Tre' Taliesin, yn gwasanaethu ya ei ddyddiau bore mewn fferm sy'n cyrraedd i ymyl y bedd, a dywaid ef fod traddodiad cryf yn y gymdogaeth ynglŷn â chais i ymyrryd â'r bedd. Pan weithid siafft Pensarn ar waith mwyn plwm Bryn-yr-Arian, aed i chwilio am faen trwchus a chryf i ddal corddyn (pivot) isaf chwimsi i godi ysbwrial a mwyn o'r gwaith. Dewiswyd y maen a oedd ar fedd Taliesin, ac aeth gŵr Pensarn a'i weision i'w gyrchu mewn gambo. Dechreuwyd ar y gwaith o'i symud, eithr yn annisgwyliadwy tywyllodd yr awyr a thorrodd ystorm ddychrynllyd o fellt a tharanau, a bu raid i'r dynion ddianc am eu heinioes. Y mae'r maen yno eto, ar ben gogleddol y bedd, ac wedi ei symud tua llathen o'i le gwreiddiol. Dywaid Mr. Isaac Lloyd, Tal-y-bont, sydd hynafgwr, y credai holl drigolion yr ardal y traddodiad pan oedd ef yn blentyn.

1. Y Brython (1860) td. 316

tud.107-8


Gweler hefyd dyfyniad hir ar "Hen Wrach Gors Fochno".

(Oddi allan "Coelion Cymru" gan Y Parch. Evan Isaac. Cyhoeddwyd gan Y Clwb Llyfrau Cymraeg, 1938)


[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]