[Nôl i adran ' Pobl fel yr oeddent']  [Back to the ' People as they were' section]

William Thomas, Brynawelon, c.1910

 

William Thomas, Brynawelon, c.1910 |
William Thomas, 1882-1967. Mab i John Thomas, Frongoch, Tre'rddol a Jane thomas, yn wreiddiol o Bantmawr, ger Llanilar. Ganwyd ar 7 Gorffennaf 1882, a magu yn Frongoch. Aeth i Ysgol Llangynfelyn. Allforiodd i Awstralia, yn olion traed brawd ei dad, Lewis Thomas. Gadawodd ei gartref ar 16 Rhagfyr 1912, gan hwylio ar long y White Star Line Gothic, a gyrhaeddodd i Sydney ar 6 Chwefror 1913. Yno fe gafodd gwaith gyda'r Vacuum Oil Company. Priododd ar 17 Awst 1918 â Mary Williams, Penrhyndeudraeth, a allforiodd yn 1914. Roedd tri o blant ganddynt, sef John Cynfelyn (Jack), Catherine a Jane (Shan). Fe ddaeth yn ôl i Dre'rddol gyda Mary a'r teulu ym Mis Ebrill-Mai 1930 ar y llong Balranald. Arhosant yn fyr yn London House, Tre'rddol, cyn symud i Brynawelon, drws nesaf i'r Commercial Hotel (y Wildfowler), lle arhosodd y ddau ohonynt gweddill eu hoesau. Bu hi farw ym mis Hydref 1966. Bu farw ef ym mis Mai 1967. Claddwyd y ddau ym mynwent Llangynfelyn. Llun gan E.O.Jones, Taliesin. Tebyg y dunnwyd y llun ar yr un dydd â'r daith i Eisteddfod Tywyn 1910(?). William Thomas, 1882-1967. His parents were John Thomas of Frongoch, Tre'r ddol, and Jane Thomas, originally of Pantmawr, near Llanilar. He was born 7 July 1882 and raised at Frongoch. He attended Llangynfelyn school. He emigrated to Australia, following in the footsteps of his father's brother, Lewis Thomas. He left home on 16 December 1912, sailing aboard the White Star Line ship Gothic, which arrived in Sydney on 6 February 1913. There he found employment with the Vacuum Oil Company. On 17 August 1918 he married Mary Williams of Penrhyndeudraeth, who had emigrated in 1914, just at the start of the Great War. They had three children, John Cynfelyn (Jack), Catherine and Jane (Shan). He returned with Mary and the family to Tre'r ddol in April-May 1930 aboard the Balranald. They stayed briefly at London House, Tre'r ddol and then moved to Brynawelon, next to the Commercial Hotel, where he and Mary lived for the rest of their lives. She died in October 1966. He died in May 1967. They are both buried at Llangynfelyn. Picture by E.O.Jones, Taliesin. It's likely the photo was taken on the same day as the trip to the Eisteddfod in Towyn in 1910.


Cyfrannwyd y llun gan / picture contributed by David Rowlands.

Ychwanegwyd y llun hwn ar 2001-03-31  This picture added on 2001-03-31
Google



[Brig y dudalen/Top of page]