Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records
 | 
 | 
Addysg
Education



[ << Pennod gynt / Previous chapter <<]
[ >> Pennod nesaf / Next chapter >>]

Ysgol Llangynfelyn 1876-1976

Pennod 9 - Codi'r bys at gantal yr het,

gan y diweddar H.J. Evans, (detholiad o'i anerchiad i Glwb yr Efail)

Dechreuais fy ngwaith fel sgwlyn yn Llangynfelyn ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, heb wybod dim am yr ysgol na'r plwyf. Ni bûm yn hir iawn cyn cael ar ddeall fod enw drwg iawn i'r ardal, ardal arw iawn meddid, ardal "rough," "tough," oedd y ddau air a glywais amlaf.

Darllenais erthygl yn y Liverpool Daily Post yn cyfeirio at "the bosky yillages of Taliesin and Tre'r-ddôl". Yn y geiriadur cefais fod dau ystyr i'r gair "bosky" (1) covered with bushes or underwood, (2) tipsy. Wn i ddim pa un o'r ddau ystyr oedd ym meddwl y gohebydd.

Cyn hir cefais dystiolaeth bellach i enw drwg y cylch mewn rhaglen radio 'Bro'r Oedfa' a ddarlledwyd o gapel Tre'r-ddôl. Ynddi clywais y Parch John Henry Gríffiths yn dweud am y cyfnod pan gafodd ef ei godi yn ardal Ystumtuen, fod pobl y bryniau yno yn edrych ar
Pasiant/Pageant am Cors Fochno
Pasiant Cors Fochno gan plant yr ysgol
A pageant on Cors Fochno by the school pupils
Daliesin a Thre'r-ddôl fel Sodom a Gomora — dinasoedd y gwastadedd lle digwyddai pob drygioni gwaeth na'r cyffredin. Bûm yn pori yn llyfrau cofnodion (Log Books) yr ysgol a darganfod fod y ddau ysgolfeistr cyntaf wedi cael eu troi allan, eu diarddel a bod un ohonynt, Samuel Prosser, wedi cael amser go dwym yno. Bygythiodd y meddyg lleol i'w ddarnladd a chafodd brofiad arswydus gyda rhyw wraig anynad.

Cofiaf ddarlith gofiadwy y Dr. Tom Richards ar 'Fethodistiaeth yn y Plwy'. Ynddi cofier mae'n sôn am ei blwyf ei hun ond mae ei lach yn ddiarbed. Mae'n dweud y plaendra am yr ardal tua diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r ganrif ddiwethaf. Dyma'i eiriau: "Barn bwyllog haneswyr anfarddonol yw mai yn y darn gwlad yma y ceid y bobl fwyaf barus, didoriad, anrasol yng Nghymru i gyd, campwyr ymhob rhysedd, paganiaid diffaith a siarad yn blaen." Os oedd y werin yn anwar, roedd y gwŷr mawr cynddrwg, a'r offeiriaid yn waeth. Yr oedd hi'n ardal ddiddorol gyda'r dawnsio a'r ymladd ceiliogod, yr ofergoelion a'r gwyliau mabsant a'r nosweithiau llawen yn y mân sucandai, ond o safbwynt crefydd yr oedd yn ddifrifol o sâl.

Mae'r llanw a'r trai yn natblygiad y plwy yn dal cysylltiad agos â llwyddiant a methiant y diwydiant plwm yng ngogledd y sir. Dylid
Prifathro Dilwyn Jones
Mr Dilwyn Jones a fu'n brifathro dros dro o Fedi 1965 hyd Orffennaf 1968 yn cael ei anrhegu gan y plant.
Mr Dilwyn Jones, temporary headmaster of the school from Sept 1965 to July 1968 being presented by the children
cofio fod dau ŵr enwog a fu'n ymwneud â'r diwydiant hwn wedi bod yn byw ym mhlasty Lodge Park, ym mhen gogleddol y plwy. Y cyntaf oedd Syr Hugh Middleton — y smocíwr tybaco, cyfaill Syr Walter Raleigh, a'r gŵr a ddaeth â dŵr mewn pibau i ran o Lundain. Costiodd y fenter honno arian mawr iddo a daeth i Geredigion ym 1617 i ail-ennill ei ffortiwn oherwydd dywedir iddo anfon gwerth hanner can mil o bunnau o arian i'r bathdy yn Llundain heb sôn am yr elw a wnaeth o weithio'r plwm.

Y gŵr arall a fu'n byw yn Lodge Park oedd Thomas Bushell. Rhyw bum mlynedd ar ôl Middleton ym 1631 cymerodd drosodd nifer o'i weithiau. Ef oedd y gŵr a gafodd ganiatâd y brenin i godi bathdy yng Nghastell Aberystwyth. Gwnaeth ef ddigon o elw i fod yn gymwynaswr mawr i'r brenin yn y Rhyfel Cartref.

Bum yn sôn am yr enw drwg a roddwyd i'r plwy, a rhoddir llawer o'r bai ar y mwynwyr estron a'r helwyr. Megis y dywedid fod ffordd yr annuwiolion yn arwain i Ferthyr un adeg, mae'n debyg fod nifer o
Carnifal Taliesin, 1958
Carnifal Taliesin ym 1958
annuwiolion wedi crynhoi o gwmpas y gweithiau yn Llangynfelyn. Bu yn y ddau bentref nifer o dai llety i fforddolion neu dramps. Mae'r ffaith fod y ddau bentref ar ochr y briffordd rhwng de a gogledd yn rheswm hefyd fod y plwy wedi derbyn mwy na'i siâr o grwydriaid. Mae hyd heddiw olion llety fforddolion i'w gweld yn Nhaliesin, yn dwyn yr enw crand "Belle Vue". Bu gŵr a adwaenwn yn dda yn ei gadw am flynyddoedd, a dywedodd wrthyf ei fod yn cadw cynifer ag ugain ar y tro ac yn codi grôt y nos.

'Roedd y plwy, gellid meddwl, yn wlad ddelfrydol i'r Diwygiad Methodistaidd lifo i mewn iddo ond bu'n hwyr iawn cyn cyrraedd. Codwyd y capel cyntaf, Capel Uchaf fel y'i gelwir, ym 1792 yn Nhre'r-ddôl ond siomedig oedd yr ymateb ac ychydig a fu'n gwrando ar John Eleias yn pregethu yn Nhre'r-ddôl ym 1801. Ym 1830 symudodd y Methodistiaid i Daliesin gan godi capel Rehoboth yno, a gadael y maes yn glir i'r Wesleaid yn Nhre'r-ddôl.

Bu fy arhosiad i ym mhlwyf Llangynfelyn yn brofiad y mae'n hyfrydwch ei drysori ar y cof. Meŵn ysgrif ar y Dr. Tom Richards dywed Dr. R. T. Jenkins: "Hen arfer gennym ni bobl Bangor, wrth chwyrnellu dan fur Ysgol Llangynfelyn ar ein ffordd i Aberystwyth, yw codi bys at gantal yr het o barch i'w disgybl hynotaf." Yn yr un modd byddaf fi'n codi bys at gantal yr het wrth basio'r hen ysgol, a'i godi o barch at y plwyfolion yn gyffredinol.

A. Manzel James
A Manzel James, y Prifathro presennol
A Manzel James, the present headmaster
[Cyflwyniad/Introduction]
[ << Pennod gynt / Previous chapter <<]
[ >> Pennod nesaf / Next chapter >>]

[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]