Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records
 | 
 | 
Addysg
Education



[ << Pennod gynt / Previous chapter <<]
[ >> Pennod nesaf / Next chapter >>]

Ysgol Llangynfelyn 1876-1976

Pennod 8

YSGOL LLANGYNFELYN
gan Dic Jones

Mae ar fin y figyn fawr
Henllwyd ysgoldy unllawr,
Lle bu canrif o rifo
Yn nesgiau brwd addysg bro,
A darllen a sgrifennu
Yn ddi-fwlch o'r dyddiau fu.

Mae ôl llaw ei athrawon 
Yn dal yn yr ardal hon, 
A'r hwyl, a'r llawer helynt 
Ar gof o'r hen amser gynt, 
Ag abledd ei ddisgyblion 
Yn codi bri gwlad o'r bron.

Boed i'w ddôr gael agoryd 
A newydd dô i ddod o hyd, 
I'w furiau ganrif arall 
Efo'r llwydd a fu i'r llall, 
Hir barhâd ar war y bryn 
I Feliol Llangynfelyn.
[Cyflwyniad/Introduction]
[ << Pennod gynt / Previous chapter <<]
[ >> Pennod nesaf / Next chapter >>]

[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]