|
[ << Pennod gynt / Previous chapter <<]
[ >> Pennod nesaf / Next chapter >>]
Dyma flwyddyn bwysig yn hanes addysg ym mhlwyf Llangynfelyn, sef blwyddyn dathlu canmlwyddiant agor yr ysgol bentref.
Brwydr fawr oedd yr ymdrech i sicrhau addysg rad i bawb ac anodd oedd gorchfygu culni a rhagfarn. Fe fu addysg enwadol yng Nghymru am flynyddoedd lawer cyn i'r wladwriaeth ddangos diddordeb, ond yn raddol bach daeth y werin i sylweddoli nad oedd y drefn honno'n ddigonol os am wneud chwarae teg â phawb.
Plant yr ysgol ym 1953 The school pupils in 1953 |
Yn y flwyddyn 1843 cafwyd araith bwysig yn y Senedd gan Mr. William Williams, A.S., brodor o Lanpumpsaint, Dyfed, ac un a gynhyrfwyd yn arw gan hanes helyntion Beca. Yn ei anerchiad hawliodd well cyfleusterau addysg i'r Cymry a phwysleisiodd mor bwysig oedd cael disgyblaeth mewn cymdeithas. Gwell o lawer fyddai cyflogi nifer o ysgolfeistri na chynnal gormod o filwyr a phlismyn.
Ymbiliodd ar y Frenhines i benodi rhai i wneud ymchwiliad parthed cyflwr addysg yn y wlad, ac mewn canlyniad i hyn penodwyd tri thwrnai i ymgymryd â'r gwaith. Cyhoeddwyd eu hadroddiad ym 1847 — digwyddiad a ddaeth yn wybyddus i bawb fel "Brad y Llyfrau Gleision". Roedd adroddiadau'r tri yn fanwl, ond yn hollol gamarweiniol, gan ddangos rhagfarn eithafol yn erbyn anghydffurfiaeth a diffyg gwybodaeth o'r iaith Gymraeg.
Gydag amser fe giliodd y diflastod a achoswyd gan Frad y Llyfrau Gleision ac fe ddaeth yr anghydffurfwyr i sylweddoli na allai addysg ddatblygu'n llwyddiannus, heb o leiaf dderbyn peth cynhorthwy gan y wladwriaeth. Roedd y wlad felly yn barod pan basiwyd Deddf Addysg 1870 a roddodd yr hawl i gyrff cyhoeddus i drefnu addysg leol.
Ffurfiol iawn oedd yr addysg a gawsai'r plant yn yr ysgolion cynnar. Roedd y dosbarthiadau yn amrywio o 60 i 80 o ddisgyblion. Un athro a fyddai yng ngofal dosbarth, yn cael ei gynorthwyo gan ddisgybl - athro ifanc.
Erbyn y flwyddyn 1900 roedd yn ofynnol i bob plentyn rhwng pump a deuddeg oed fynychu'r ysgol ddyddiol ac ymhen dwy flynedd y Cynghorau Sir oedd yn gyfrifol am eu haddysg.
Yn nes at ein cyfnod ni, codwyd yr oedran gadael ysgol i 14 ym 1918 ac yn y flwyddyn 1926 dyma Adroddiad Hadow yn argymell y dylai pob plentyn dderbyn addysg uwchradd, ac am y tro cyntaf clywyd sôn am yr Ysgolion Modern. Eto i gyd bu raid aros am Ddeddf Addysg, 1944, cyn gweld gweithredu'r cynlluniau. Codwyd yr oed gadael ysgol drachefn i 15, a dwy flynedd yn ôl i 16. Yn y blynyddoedd diwethaf hefyd gwelwyd sefydlu Ysgolion Cyfun — rhai pobl yn frwd drostynt, ac eraill yn eu herbyn, ac mae'r dadleuon yn dal o hyd.
Ond beth am yr ysgol bentref? Yma eto fe welwyd llawer iawn o newid. Mae'r cinio ysgol yn rhan o fywyd y plentyn erbyn hyn, ac ychydig iawn o gerdded i'r ysgol a welir heddiw. Nid y pellter sydd yn gofidio'r rhieni ond peryglon y ffordd fawr mewn oes o ruthr a chyffro.
O fewn yr ysgol ei hunan mae'r dosbarthiadau'n llai, er bod 'na ddigon o le i wella o hyd. Mae gan yr athro lawer mwy o offer i'w gynorthwyo yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys yr holl offer clyweled, ac mae gwersi radio a theledu yn ychwanegiad sylweddol at ei ymdrechion. Mae mynychu pwll nofio a rhoi tro i'r theatr i wrando ar ddrama neu gerddoriaeth erbyn hyn yn rhan bwysig o brofiadau plentyn.
Beth am y dyfodol?
Plant yr ysgol ym 1961 The school pupils in 1961 |
Nid oes dim yn aros yn ei unfan, a thebyg y ceir datblygiadau mawr eto ym myd addysg yn y dyfodol. Mae ysgolion ardal wedi dod ar ein traws yn barod, ac mae ambell ysgol erbyn hyn yn ysgol cynllun agored. Ond beth bynnag a ddigwydd yn y dyfodol gobeithio nad anghofir y berthynas agos sydd yn bodoli rhwng athro a disgybl mewn dosbarth hapus, ac na chaiff yr un plentyn ei symud yn rhy bell o'i gynefin. Wedi'r cyfan, cymdeithas glos agos-atoch yw ysgol, ac nid ffatri oeraidd ac amhersonol.
Braint yw i mi gael gwasanaethu mewn ysgol fel ysgol Llangynfelyn, a bydded i'r ysgol hon barhau am sawl canrif eto.
Cwestiynau? Sylwadau? Beth ydych chi'n meddwl am y tudalen hwn a gweddill y wefan? Dywedwch yn y llyfr ymwelwyr. Questions? Comments? What do you think about this page and the rest of the site? Tell us in the guest book. |