The following page is copied (with their permission) from Cambrian Archaeology.
   

 

DYDDIADUR CLODDIO LLANGYNFELYN

Llwybr Coed Ganol Oesol yn LLANGYNFELYN ger TALYBONT

Yn ystod Mehefin 2004 cychwynnodd Cambria ar gloddio rhan o lwybr coed ganol oesol a oedd yn croesi Cors Fochno yng Ngheredigion. Roedd yn bosib gweld y llwybr ar yr wyneb yn debyg i fancin isel yn croesi’r tir porfa. Bygythiad llym i barhad yr elfennau o goed nodweddiadol yma oedd draenio’r tir a gwelliannau amaethyddol eraill. Penderfynwyd felly ar waith o gloddio achubol wedi’i ariannu gan Cadw . Roedd y cloddio hefyd yn gyfle o hyfforddiant i fyfyrwyr o Athrofa Archeoleg a Hynafiaeth Prifysgol Birmingham

Roedd y coedydd yn ffurfio ffordd gerdded tua 1.5m o led ac roedd cyfres o begiau neu bolion ,wedi’u bwrw i’r mawn ,yn cefnogi’r holl strwythur .Wedi hyn, fe orchuddiwyd y llwybr gan haenau o raean a oedd, i bob pwrpas ,yn ffurfio heol ar draws y gors. Darganfuwyd dau o ddyddiadau radiocarbon allan o ddau o’r coedydd yn dyddio i’r 10 fed- 11eg ganrif AD ac mae dyddiadau dendroconolegol yn awgrymu y cwympwyd y coedydd yma rhwng AD1080 a AD1120.

Ger terfynfa y de ,o’r sarn weladwy, fe welwyd fod y llwybr yn gorwedd dros ardal eang o ysbwriel diwydiannol a llosgfeydd. Yn ôl yr hyn a awgrymwyd gan yr archwiliad cychwynnol o samplau o’r gwastraff fe gredir fod canran uchel o wastraff plwm yno, a oedd felly yn awgrymu fod mwyn blwm wedi’u mwyndoddi yn yr ardal gyfagos .Yn ddiweddar, fe dderbyniwyd dau ddyddiad radiocarbon o 60 BC –AD90 ac AD20?220 am olosg o’r olion diwydiannol yma sy’n awgrymu dyddiad hwyr o’r Oes Haearn neu’r Oes Rhufeinig .

Sut y mae’r gweithgarwch diwydiannol yma yn cysylltu gyda’r llwybr? Awgryma’r dyddiadau fod bwlch hir o amser rhwng y ddau. Fodd bynnag, mae yn bosib bod y dyddiadau radiocarbon o’r golosg allan o hen goedydd neu goed wedi’u hail ddefnyddio. Posibilrwydd arall yw, bod gwaith diwydiannol wedi parhau yn bell ar ôl cyfnod y Rhufeiniaid a bod y llwybr yn dyddio at ddefnydd diweddarach, hyd yn oed yn cysylltu gyda gweithgaredd chwarelyddol ar ‘ynys’ Langynfelyn i’r Gogledd.

Bydd tymor arall o gloddio ar y safle ym mis Mehefin 2005 i ganiatáu ymchwiliadau trylwyr o’r gwaith diwydiannol a gysylltir gyda phen deheuol y llwybr. Unwaith eto, ein bwriad yw i sicrhau y bydd cydweithio rhwng y gymuned leol yn galon i’r prosiect gyda’r newyddion diweddaraf ar ein gwefan.

Dydd Agored Cloddiad Llangynfelyn

Mae dydd agored i'r cyhoedd o'n cloddiad o'r llwybr pren a'r ardal diwydiannol yn Llangynfelyn ger Talybont, Ceredigion ar Ddydd Sadwrn 11 Mehefin. Fe fydd cyfle i ymwelwyr i weld y cloddiad rhwng 11.00yb a 4.00yp gyda troeon am ddim ac arddangosfa.

 

Map yn dangos lleoliad y cloddio

Dyddiadur Cloddio Llangynfelyn 2004

Cadw logo
Welsh Assembly Government logo
University of Birmingham logo

 

Dydd 1 (Mai 31) - Mae'r gwaith gan y peiriant cloddio wedi cychwyn gyda'r tywydd yn glir ac yn heulog. Rydym wedi penderfynu edrych eto ar ben Deuol y llwybr pren i ymchwilio ei berthynas a'r olion diwydiannol a gafodd eu darganfod ym Mehefin 2004. Ar ol cael gwared a'r pridd, mae'r ffos newydd hon (Ffos 6) wedi ymddangos mannau mawr o losgi a sbwriel. Mae ymchwil o'r sbwriel hwn wedi dangos lefel uchel o blwm sydd yn awgrymu ei fod wedi dod o waith toddi plwm. Mae'r dyddiadau radio-carbon yn awgrymu dyddiad Rhufeinig.

 

 

Cyfarwyddwr y safle, Nigel Page, gyda Eifion Jenkins sydd yn gyrru'r peiriant

Cyfarwyddwr y safle, Nigel Page, gyda Eifion Jenkins sydd yn gyrru'r peiriant

Dydd 2 (Mehefin 1) – Mae'r tywydd wedi gwaethygu. Mae'r myfyrwyr o Birmingham yn treulio eu diwrnod cyntaf ar y safle yn y glaw neu yn cysgodu wrth y glaw! Beth bynnag mae dilyniant da yn cael ei wneud ac mae'r ffos gloddio yn dechrau ymffurfio.

Mae'r cloddiad yn cael ei ymwelwyr cyntaf!

Mae'r cloddiad yn cael ei ymwelwyr cyntaf!

Y myfyrwyr yn cysgodu oddiwrth y glaw yn y portacabin

Y myfyrwyr yn cysgodu oddiwrth y glaw yn y portacabin

Glanhau gwyneb uchod y sbwriel diwydiannol

Glanhau gwyneb uchod y sbwriel diwydiannol

Dydd 3 (Mehefin 2) – Rydym yn parhau i wneud dilyniant da ynglyn a glanhau'r safle. Mae prenau'r llwybr coed yn dechrau ymddangos ac mae'n edrych fel petaent wedi eu cadw yn dda iawn yn yr fan hon.

Glanhau prenau y ffordd bren

Glanhau prenau y ffordd bren

 

Y cloddiad o'r cae i'r De. Mae'n bosib fod y ffrwnesau toddi metel yn y cae yma.

Y cloddiad o'r cae i'r De. Mae'n bosib fod y ffrwnesau toddi metel yn y cae yma.

Dydd 4 (Mehefin 3) - Mae gwaith yn dechrau ar wneud cynllun o'r ffos cyn cloddio. Rydym yn awyddus i gofnodi a symud y llwybr coed cyn gynted ac sy'n bosib fel y gallwn archwilio'r olion diwydiannol sy'n yn gorwedd isod.

Paratoi cynllun o Ffos 6

Paratoi cynllun o Ffos 6

Dydd 5 (Mehefin 6) – Rydym hefyd yn dechrau gwaith ar gyfres o gloddiadau bach arbrofol yn y cae drws nesaf, lle credwn fod llwyfannau ar gyfer i ffwrnesau toddi metel. Mae ein cymdogion yn dangos llawer o ddiddordeb!

Cloddio un o'r ffosydd arbrofol yn y cae drws nesaf

Cloddio un o'r ffosydd arbrofol yn y cae drws nesaf

 

Ein cymdogion yn dangos diddordeb

Ein cymdogion yn dangos diddordeb

Dydd 6 (Mehefin 7) - Rydym wedi parhau i agor cyfres o gloddion arbrofol i benderfynnu ehangder y gweithgareddau diwydiannol. Mae'n amlwg ei fod yn ymestun dros arwynebedd mawr iawn o fewn nifer o gaeau. Mewn un o'r cloddion arbrofol yr ydym wedi darganfod nifer o ddarnau o gerrig llosgedig gyda arwynnebbau sgleinig - bron yn sicr yn rhan o'r ffwrneisiau toddi - a tameidiau a slag metel. Hyd yn oed yn fwy cyffroes oedd darganfod darnau man o wydr. Rydym bron yn sicr taw gwydr Rhufeinig ydyw ac mae'n edrych fe pe bai'n cyfateb a'r dyddiadau radiocarbon o'r gwaelodion diwydiannol.


Chwistrelli prennau y llwybr i atal nhw rhag sychu allan

Chwistrelli prennau y llwybr i atal nhw rhag sychu allan

 

Tamaid o leinin y ffwrnais a'r slag metel

Tamaid o leinin y ffwrnais a'r slag metel

Y gwydr Rhufeinig dichonadwy o un o'r cloddiadau arbrofol

Y gwydr Rhufeinig dichonadwy o un o'r cloddiadau arbrofol

Dydd 7 (Mehefin 8) - Ein hymweliad cyntaf gan ysgol leol - Ysgol Llangynfelyn. Mae mwy o'r cloddion arbrofol yn cynhyrchu darnau man o leinin y ffrwnais. Mae'n edrych fel pe bai'n bosibl yr oedd yno nifer o ffwrneisiau bach mewn nifer o fannau gwahanol ar hyd y safle.



Richard Jones yn dangos am gwmpas ymwelwyr o Ysgol Llangynfelyn

Richard Jones yn dangos am gwmpas ymwelwyr o Ysgol Llangynfelyn

 

Gwiath cloddio yn un o'r cloddion arbrofol

Gwiath cloddio yn un o'r cloddion arbrofol

Dydd 8 (Mehefin 9fed) - Mae arwyneb y llwybr yn Ffos 6 nawr wedi ei lanhau a'i gofnodi. Mae wedi ei gadw yn dda iawn yn y rhan yma ac mae'n ymddangos ei fod wedi ei adeiladu o ganghenau wedi ei hollti yn ddau gyda'r ochrau gwastad i lawr. Rydym yn ddrwgdybio fod y rhan fwyaf o'r prennau naill ai yn wern neu yn dderw. Mae'r rhisgl dal i fod yn weladwy ar wyneb uchaf y prennau unigol. Awgrymir y diffyg traul a'r wyneb garw mai nid hwn oedd arwyneb cerdded gwreiddiol y llwybr. Sylwyd yn y fan yma ac mewn mannau eraill fod y prennau wedi eu gorchuddio a graean sy'n awgrymu roedd yr arwyneb cerdded gwirioneddol yn lwybr graean ac nid yn droedffordd estyll. Mae'n edrych fel pe bai bwriad y fframwaith pren oedd atal y graean rhag suddo i mewn i'r gorstir - 'ffordd arnawf' mewn gwirionedd.

Manylion am yr arwyneb pren
 

Manylion am yr arwyneb pren

Manylion am yr arwyneb pren

Dydd 9 (Mehefin 10fed) - Nid ydym erbyn hyn wedi dod o hyd i union lleoliadau y ffwrneisiau toddi metel. Er hynny, rydym wedi darganfod llawer mwy o ddarnau man o leinin y ffwrnais llosg. Mae'r gwaelodion diwydiannol hefyd yn ddwfn iawn mewn nifer o'r Cloddiadau Arbrofol. Cafwyd mwy o ymweliadau gan ysgolion - y tro yma gan ysgol Craig yr Wylfa, Y Borth ac ysgol Talybont.

Rhaniad o un o'r Cloddiadau Arbrofol yn dangos y golosg a'r teilchion diwydiannol yn gorwedd uwchben mawn cochddu y gorstir

Rhaniad o un o'r Cloddiadau Arbrofol yn dangos y golosg a'r teilchion diwydiannol yn gorwedd uwchben mawn cochddu y gorstir

Dydd 10 (Mehefin 11eg) - Cawsom Ddiwrnod Agored llwyddiannus dros ben gyda thros cant o ymwelwyr yn cael taith tywysedig o'r cloddiad. Roedd yr ymwelwyr yn cynnwys cynghorwyr lleol ac aelodau o'r Clwb Archaeolegwyr Ifanc lleol.

Golygfa cyffredinol o'r cloddiad yn dangos rhai o'r ymwelwyr yn ystod y Diwrnod Agored

Golygfa cyffredinol o'r cloddiad yn dangos rhai o'r ymwelwyr yn ystod y Diwrnod Agored

Dydd 11 (Mehefin 13eg) - cafodd y rhan fwyaf o'r diwrnod ei wario yn cofnodi a chodi prennau o'r brif ffos a chasglu enghreifftiau amgylcheddol. Cynorthwywyd gan arbenigwyr o Brifysgol Llanbedr-Pont-Steffan yn cynnwys Nigel Nayling ac Astrid Caseldine.

Archwilio yn ardal y brif ffos

Archwilio yn ardal y brif ffos

 

 

Nigel Nayling o Brifysgol Llanbedr-Pont-Steffan yn casglu enghreifftiau o brennau o'r droedffordd

Nigel Nayling o Brifysgol Llanbedr-Pont-Steffan yn casglu enghreifftiau o brennau o'r droedffordd

Dydd 12 (Mehefin 14eg) - Mae mwyafrif o'r droedffordd nawr wedi cael ei godi a gwariwyd y bore yn clanhau y gwaelodion diwydiannol islaw ar gyfer lluniau cyffredinol. Dechreuwyd y gwaith cloddio ar y gwaelodion yma yn y prynhawn. Yn y cyfamser fe ddaeth yr arbenigwyr o Brifysgol Llanbedr-Pont-Steffan yn ol i'r safle i gymryd nifer o greiddiau o'r mawn nesaf at y droedffordd. Maent yn gobeithio defnyddio'r paill o'r creiddiau yma i siartio y newid yn y tirlun a'r tyfiant dros amser.

Myfyrwyr Birmingham yn arddangos yn urddasol rhai enghreifftiau o'r prennau a gasglwyd o'r droedffordd

Myfyrwyr Birmingham yn arddangos yn urddasol rhai enghreifftiau o'r prennau a gasglwyd o'r droedffordd

 

 

Mae gan nifer o'r polion unionsyth a morthyliwyd i mewn i'r mawn y ddwy ochr i'r droedffordd blaenau miniog

Mae gan nifer o'r polion unionsyth a morthyliwyd i mewn i'r mawn y ddwy ochr i'r droedffordd blaenau miniog

Dydd 13 (Mehefin 15ed) - O'r diwedd mae gennym rhywfaint o dystiolaeth am wir safle y ffwrnais toddi metel. Roedd wedi ei lleoli yn un o'r Pyllau Arbrofol ac amlygir yn ffyrnigrwydd y llosgiad o'r pridd o gwmpas. Cynhyrchodd y Pwll Arbrofol yma hefyd maint helaeth o leinin ffwrnais. Yn y cyfamser, roedd gwaith archwilio yn parhau ar y gwaelodion diwydiannol o dan y droedffordd pren.

Clanhau'r gwaelodion diwydiannol o dan y droedffordd pren

Clanhau'r gwaelodion diwydiannol o dan y droedffordd pren

 

Hannah yn gweithio ar safle tebygol y ffwrnais toddi metel

Hannah yn gweithio ar safle tebygol y ffwrnais toddi metel

Dydd 14 (Mehefin 16eg) - diwrnod llawn olaf y cloddiad. Yfory fe fydd y myfyrwyr yn dychwelyd i Birmingham. Gwariwyd y diwrnod yn samplu y gwaelodion o dan y droedffordd a chwblhau cofnodi terfynol o'r safle.

Mae canlyniadau'r cloddiad wedi bod yn foddhaol dros ben. Rydym nawr wedi egluro natur y weithgaredd diwydiannol. Mae'n edrych yn debyg o hyd fod y safle yn cynrychioli toddi metel plwm yn dyddiadu i gyfnod y Rhufeiniaid. Fe fydd angen gwneud gwaith dyddiadu pellach a dadansoddiadau eraill ar yr holl samplau a gasglwyd er mwyn cadarnhau'r dehongliad yma. Mae'r Pyllau Arbrofol nawr hefyd wedi dangos maint y safle ac mae'n llawer mwy na'n hamcan gwreiddiol. Mae'n rhedeg am o leiaf 200m ar hyd ymyl y gors ac mae o leiaf 50m mewn lled.

Rydyn ni hefyd wedi casglu gwybodaeth newydd am natur y droedffordd ddiweddarach. Mae'n edrych yn degyb nawr fod yr elfennau pren wedi rhoi sylfaen i'r llwybr graean i'w hatal rhag suddo i mewn i'r gors.

Gan ein bod ni nawr wedi darganfod lleoliad tebygol y ffwrnais, rydym yn awyddus nawr i edrych ar y prydwedd yma yn fwy manwl. Gobeithio y byddwn yn medru codi arian i ymgymryd a thymor arall o waith blwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, hoffem ddiolch i Brifysgol Birmingham a Chadw am eu cyfraniad ariannol am eleni a diolch yn arbennig yr holl staff yng Nghambria a Llanbedr-Pont-Steffan, myfyrwyr Birmingham a'r gwirfoddolwyr eraill am wneud y gwaith tymor yma mor llwyddiannus.

Catherine yn cwblhau cynllun terfynol ar un o'r ffosydd

Catherine yn cwblhau cynllun terfynol ar un o'r ffosydd

Llun grwp olaf y myfyrwyr o Birmingham

Llun grwp olaf y myfyrwyr o Birmingham