Copïwyd y tudalen hwn (gyda chaniatâd) o wefan Cambrian Archaeology.
 

Cartref >

 

Dyddiadur Cloddio    

Y llwybr yn ystod y cloddio arbrofol ym mis Mawrth

CLODDIO LLWYBR CANOLOESOL YNG NGHEREDIGION

Yn ystod Mehefin 2004 mae Archaeoleg Cambria wrthi’n cloddio llwybr pren yn Llancynfelyn ger Tal-y-bont yng ngogledd Ceredigion. Archwiliwyd y llwybr gyntaf ym mis Mawrth 2004 pan gafwyd dyddiadau radiocarbon o ddwy sampl o’r pren. Dangosodd y dyddiadau hynny i’r llwybr gael ei adeiladu rywbryd rhwng OC 900 ac OC 1020.

Mae’r llwybr ar gyrion Cors Fochno, sef darn o wlyptir sy’n cynnwys corsydd llanw a chorsydd dwr croyw, ac mae’n safle o bwys ecolegol mawr. Am flynyddoedd lawer, mae ymylon y corstir wedi’u hadennill i’w ffermio. Mae’r broses honno’n dal i fynd yn ei blaen ac wedi arwain yn ddiweddar at ddarganfod safleoedd archaeolegol nad oeddent yn hysbys cynt. Gan fod y tir yn llawn dwr, mae defnyddiau fel pren, a fyddai fel rheol yn pydru dros amser, wedi goroesi. Un safle o’r fath yw’r llwybr pren hwn.

Gellir ei weld ar wyneb y tir ar ffurf banc isel sy’n rhedeg ar draws cae pori. Ym mis Mawrth eleni fe gloddiwyd ffos ar draws y banc a chafwyd ei fod yn gorchuddio cyfres o ddarnau pren a ffurfiai lwybr sy’n rhyw 1.5m o led. Cawsai’r darnau pren eu gosod ar draws dwy ‘gledren’ bren, a chynhelid yr adeiladwaith cyfan gan gyfres o begiau neu stanciau a gawsai eu curo i’r mawn.

Mae llwybrau pren tebyg i’r un yn Llancynfelyn wedi’u cofnodi a’u cloddio mewn llawer rhan o Brydain ac Iwerddon. Amrywiant yn fawr o ran eu dyddiad – o’r oes Neolithig gynnar (dros 5000 o flynyddoedd yn ôl) hyd at yr Oesoedd Canol. Cryn syndod oedd cael ar ddeall bod y llwybr pren yn Llancynfelyn yn dyddio o gyfnod cyn y Goresgyniad Normanaidd, ac mae hynny’n ychwanegu at natur anarferol y darganfyddiad. Mae’n bosibl mai llwybr ar draws y gors tuag at yr eglwys a’r anheddiad yn Llancynfelyn oedd hwn. Bydd cloddio’r llwybr yn ein helpu i ddeall technegau trin y pren a’r ffordd y câi’r coetir lleol ei reoli i gynhyrchu pren yn ystod yr Oesoedd Canol cynnar. Bydd y cloddio hefyd yn dweud rhagor wrthym am natur yr amgylchedd yn y rhan hon o Geredigion fil o flynyddoedd yn ôl.

Hoffem ddiolch i’r ffermwr, Mr Dilwyn Jenkins, am adael i ni gloddio yn ei gae, i Cadw am ddarparu cymorth ariannol, ac i fyfyrwyr a staff Prifysgol Birmingham am helpu gyda’r cloddio.

Mae’r we-ddalen hon yn rhoi gwybod yn gyson am hynt y cloddio, ac yn cynnwys ‘dyddiadur cloddio’ a ‘darlun y dydd’. Gobeithio y teimlwch chi’r un cyffro â’r staff a’r myfyrwyr wrth i’r gwaith cloddio ddod o hyd i bethau dan yr wyneb.

Map yn dangos lleoliad y cloddio

Myfyrwyr o Brifysgol Birmingham yn clanhau y sarn grafel yn ffos 4.

Dydd 1 - Mehefin 1af

Treuliwyd rhan fwyaf o'r dydd yn paratoi y cloddio a safle'r gwersyll. Cyrhaeddodd deg myfyriwr o Brifysgol Birmingham yn y prynhawn a dechreuodd y gwaith a'r gael gwared y pridd uwchben y cloddiad gyda pheiriant. Y man cyntaf i'w agor oedd Ffos 4 (roedd Ffosydd 1, 2, a 3 wedi eu hagor yn ystod y cloddiad arbrofol ym mis Mawrth). Lleolwyd y Ffos hon ar pen ddeheuol y llwybr pren, a roedd yn mesur 25m x 10m. Roedd y grafel uwchben y pren yn dangos yn glir ac fe ddechreuodd y gwaith o lanhau hwn er mwyn cymeryd lluniau.

 


Eifion Jenkins yn cael gwared y pridd uwchben y grafel a'r llwybr pren yn Ffos 5. Mae'r gwaith yn cael ei wylio yn fanwl gan Nigel Page, Cyfarwyddwr y Safle o Archaeoleg Cambria.

Dydd 2 - Mehefin 2ail

Symudwyd y peiriant i fan arall oedd i'w gloddio - Ffos 5. Roedd hwn wedi ei leoli yn agos i ffin gogledd-ddwyreiniol y cae, a hefyd yn mesur 25mx10m. Gan fod yr ardal yma mwy dwrllyd fe obeithiwyd fod pren y llwybr wedi ei ddiogelu yn well. Cyn hir roedd y peiriant wedi dadorchuddiio planciau pren sylweddol. Yn haen uchaf y grafel, darganfuwyd dau ddarn o briddlestr wedi eu gwydro yn wyrdd, yn bosib o'r Canoloesoedd. Mae hyn yn awgrymu fod y grafel wedi ei waddodi sawl canrif ar ôl adeiladaeth y llwybr pren. Diolch yn fawr i Eifion Jenkins am yrru'r periant yn ardderchog.

 

 

Gwisgwch eich cotiau glaw! Cloddio pren llosg yn Ffos 4.

Dydd 3 – Mehefin 3edd

Parhaodd y clanhau yn y ddwy Ffos a darganfuwyd rhagor o'r llwybr pren. Datgelwyd beth rydym yn tybio yw darn o bren llosg mewn twll bach a oedd wedi'i dorri i mewn i'r llwybrau yn Ffos 4. Yn y prynhawn fe newidodd y tywydd ac fe gawsom y glaw cyntaf ers dechrau'r cloddio. Ta beth, fe fydd yn atal y pren rhag sychu allan!


Cloddio rhan drwy'r sarn grafel yn Ffos 4

Y ffordd bren yn cael ei ddi-orchuddio yn ffos 5

Dydd 4 – Mefehin 4edd

Yn Ffos 4 mae tair rhan yn cael eu cloddio drwy'r sarn grafel i ddarganfod ei adail ac i geisio cael gwybodaeth am ei oedran. (Llun 1).

Yn Ffos 5 mae'r gwaith wedi dechrau ar arddangos y llwybr pren. Mae sawl darn o bren sydd wedi cadw yn dda wedi cael eu dadorchuddio. (Llun 2).

Mae grid y safle yn cael ei osod ac mae'r safle yn dechrau edrych fel cloddiad iawn. (Llun 3).

Mae hwyl da ar y safle er gwaethaf y glaw mân. Rydym ni nawr wedi gorffen gweithio ar y cloddio dros y penwythnos (Llun 4) tra bod y myfyrwyr a'r staff yn cymeryd y saib maent yn haeddu.

Mi fydd y dyddiadur yn ail-ddechrau Dydd Llun.

Hubert Wilson o Archaeoleg Cambria yn gosod allan grid y safle

Y pren sydd yn arddangos yn cael ei guddio dan polythene i'w amddifyn oddiwrth yr haul (pa haul?) dros y penwythnos

Y llwybr pren yn dechrau dangos is y grafel yn Ffos 4

Y llwybr pren yn Ffos 5

Dydd 5 – Mehefin 7fed

Mae’r haul allan! Cawsom ein ymweliad cyntaf gan y Wasg - y papur lleol "The Cambriam News". Gobeithio y byddwn yn ymddangos yn rhifyn dydd Mercher. Buom yn treulio rhan fwyaf o heddiw yn dadorchuddio rhagor o bren islaw y grafel yn Ffos 4.



Robert Evans o Archaeoleg Cambria yn cloddio y pwll llawn lludw yn Ffos 4

Y droell werthyd o Ffos 4

Criw ffilm y BBC yn cynnal cyfweliad gyda Richard Jones o Archaeoleg Cambria

Dydd 6 – Mehefin 8fed

Dydd cyffroes iawn. Parhaodd yr archwiliad i’r pwll ar ffin ddeheuol y llwybr yn Ffos 4. Mae'n llawer fwy o faint nag yr oeddwn yn meddwl yn wreiddiol, ac yn llawn lludw. (Llun1). Yn bwysicach, mae’n ymddangos fel petai yn ymestyn o dan y llwybr pren ac felly mae’n debyg ei fod yn henach na’r llwybr. Mae’n bosib ei fod yn rhan o weithrediad diwydiannol ac efallai ei fod yn dyddio o amser y Rhufeiniaid. Fe ddarganfyddwyd troell werthyd garreg wrth waelod y ffordd grafel sy'n rhedeg uwchben y pwll mawr. (Llun 2). Yn y cyfamser, cyrhaeddodd gohebydd a chriw ffilm o raglen Newyddion y BBC i ffilmio’r cloddio ar ran S4C.

Arbenigwyr o Brifysgol Llanbedr a Chadw yn sgwrsio am y posibilrwydd o weithgareddau diwydiannol yn Ffos 4

Ben a Catherine o Brifysgol Birmingham yn cofnodi adran drwy'r sarn grafel

Dydd 7 - Mehefin 9fed

Mae'r pwll is y llwybr yn Ffos 4 yn profi i fod yn gymhleth iawn. Tybed fod y posibilwrwydd o weithgareddau diwydiannol sydd yn cael ei awgrymu gan y pwll yma yn perthnasu i waith plwm yn Llancynfelyn? Mae na arwyddion for y cloddio plwm yma yn dyddio o amser y Rhufeiniaid. Os yw hyn yn wir, mae'n bosib fod y llwybr yn wreiddiol wedi darparu ffordd ar draws y gors rhwng y cloddio plwm a'r ardal gweithrediadu metel.

Cawsom ymweliad heddiw wrth arbenigwyr o Brifysgolion Llanbedr, Caerdydd a Birmingham a hefyd Cadw i drafod cynnydd y cloddio.

 

Mesur y mawn yn yr arolwg ebill

Y prennau yn llithro i’r nodweddion gwaelodol

Dydd 8 – 10fed Mehefin

Heddiw cawsom ymweliad wrth Ysgol Gynradd Talybont. Roedd y plant wrth eu bodd i weld y cloddio ar eu stepen drws.

Dechreuwyd arolwg gydag ebill. Defnyddiwyd yr ebill i arbrofi dyfnder y mawn ac i ddangos braslun o ymylon y gors. (Llun 1)

Yn Ffos 4 gwelwyd y llwybr pren yn llithro i’r nodweddion gwaelodol diwydiannol cynharach. (Llun 2)


Y twll petrual wedi ei dorri mewn i’r pren a ddatguddiwyd yn Ffos 5

Jo Dyson (Prifysgol Birmingham) yn sgwrsio a plant o Ysgol Craig Yr Wylfa

Dydd 9 – 11fed Mehefin

Datgelodd estyniad i Ffos 5 fwy o’r llwybr pren. Mae’n ymddangos fod twll petrual wedi’i gerfio yn un pen un o’r prennau newydd a ddatgelwyd. (Llun 1). Efallai fod y darn yma o bren wedi’i ail-ddefnyddio yn y llwybr.

Cawsom ymweliad gan ysgol arall –Ysgol Craig Yr Wylfa, Borth, y tro yma (Llun 2).



Richard Jones o Archaeoleg Cambria gyda phlant o Ysgol Llangynfelyn

Clwb Archaeolegwyr Ifanc Aberystwyth yn gweithio ar y cloddio yn ystod y Dydd Agored ar Ddydd Sadwrn

Dydd 10 – 14fed Mehefin

Fe wariwyd rhan fwyaf o'r dydd yn cofnodio'r prenau ac yn clanhau'r safle i'w ffotograffio.

Yn y prynhawn, fe hedfanodd Toby Driver o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru dros y safle i dynnu lluniau o'r awyr. Rydym yn bwriadu dechrau codi'r prenau yfory.

Mae diddordeb y bobl leol, y wasg a'r teledu yn y safle yn parhau. Cawsom dros 350 o ymwelwyr i'n Dydd Agored ar Ddydd Sadwrn ac fe ffilmiodd y BBC y safle eto heddiw i'r rhaglen newyddion 'Wales Today'.

 

Un llun olaf o'r llwybr pren yn Ffos 5 cyn i'r prenau cael eu codi

Jemma a Gordon o Brifysgol Llanbedr yn cymeryd mesuriadau gyda 'gradiometer'

Nigel Nayling yn archwilio'r prenau yn Ffos 5

Dydd 11 – 15fed Mehefin

Roedd heddiw yn ddydd prysur iawn. Ar ôl un llun olaf o'r llwybr pren fe ddechreuom gofnodi a chodi'r prenau gyda help Nigel Nayling a'i dîm o Brifysgol Llanbedr. Mae Nigel wedi adnabyddu sawl darn o goed derw yn barod. Mae'n gobeithio y bydd yn bosib darganfod dyddiadau o'r cylchoedd coed o sawl darn pren. Yn y cyfamser roedd tîm arall o Brifysgol Llanbedr wedi dechrau arolwg geoffisegol o'r tir ger y gloddfa. Gobeithio daw hyn a rhyw amcan o maint y gweithredoedd diwydiannol ar ffin ddeheuol y llwybr. Rydym yn parhau i groesawi ymwelwyr nodedig.

Stephen Briggs o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn sgwrsio am ddyddiadu cyrff a ddangarfyddid mewn corsau gyda'r myfyrwyr

 

Trawsdoriad o bren derw a'r cylchoedd a ddefnyddir i ddangos dyddiadau

Hollie, Ben ac Emily - mae'r diwedd mewn golwg!

Dydd 12 - Mehefin 16eg

Rydym nawr bron ar derfyn y gloddfa. Mae Astrid Caseldine o Brifysgol Llanbedr wedi bod yn casglu paill a samplau eraill o'r priddoedd sy'n gysylltiedig a'r llwybr. Yn y cyfamser, mae Nigel Hayling wedi darganfod rhai arwyddion cynnar o'r dyddiadau cylchoedd coed o'r prennau derw a godwyd ddoe (Llun 1). Mae rhain yn arwyddo fod tri darn pren yn tarddu o goed a gwympwyd rhwng 1080 OC a 1120 OC. Maent braidd yn hwyrach na'r dyddiadau radio-carbon gwreiddiol (900 OC - 1120 OC), ond maent yn awgrymu taw adeiladwaith tros un cyfnod oedd y llwybr. Mae'r safle ddiwydiannol ar ben ddeheuol y gloddfa yn ehangach na roeddem yn tybio'n wreiddiol. Rydym nawr wedi dynodi'r safle o dan y llwybr ymhob rhan o Ffos 4. Mae'r myfyrwyr yn dal i fwynhau y cloddio (Llun 2).

Y cloddiad o'r awyr. Mae Ffos 4 a'r gweithgareddau diwydiannol ar y tu blaen o'r llu. Mae Ffos 5 tuag at ben uchaf y cae ac mae Llangynfelyn ar y pen uchaf y llun.

Astrid Caseldine yn cymeryd samplau paill o'r mawn is y prennau yn Ffos 5

Darnau o'r leinin ffwrnes tybiedig

Dydd 13 - Mehefin 17eg

Diwrnod olaf o'r cloddiad ac mae pethau'n brysur iawn. Mae Nigel Page (Cyfarwyddwr y Safle o Archaeoleg Cambria) wedi bod yn brysur yn gorffen y gwaith munud-olaf ac yn cwrdd â'r ymwelwyr cyson gyda'u dymuniadau da. Mae nawr gennym gopiau o'r lluniau a dynnwyd o'r awyr yn gynharach yn yr wythnos ac fe gymerwyd rhagor o samplau o bryfed a phaill a'u diogelwyd yn y mawn o dan y llwybr. Mae sawl darnau cerrig â'u gwynebion wedi eu gwydro wedi eu darganfod a credir efallai fod rhain yn rhan o leinin ffwrnes. Dyma ddarn arall o wybodaeth efallai i'n helpu i ddeall natur y gweithredi diwydiannol ym mhen ddeheuol y llwybr. Oedd na ffwrnes fawr mwyndoddi metel yn yr ardal? A oedden nhw yn mwyndoddi mwyn plwm o'r pylloedd yn Llangynfelyn?

 


Hwyl fawr wrth tîm y gloddfa

Dydd 14 - Mehefin 14eg

Mae'r cloddio wedi dod i ben. Mae rhywbeth oedd ar y dechrau ond yn archwiliad i lwybr pren wedi diweddi gyda'r darganfyddiad o dystiolaeth sylweddol o weithgareddau diwydiannol, ac efallai mwyndoddfa a gweithfa metel. Yn wir, mae'n debygol i'r llwybr pren gael ei adeiladu i gyflenwi mwyn o'r pyllau plwm yn LLangynfelyn. Dengys yr arwyddion cynnar fod y llwybr wedi'i adeiladu rhwng 1080 OC a 1120 OC. Sut bynnag, mae'r gweithfeydd diwydiannol yn hynach, ac efallai hyd yn oed yn tarddu o'r oes Rhufeinig. Bydd y gwaith o archwilio'r holl samplau a'r cofnodion a gasglwyd yn ystod y cloddio yn dechrau nawr. Caiff canlyniadau'r gwaith archwilio yma yn dilyn y gloddfa eu rhoi ar y safle we yn ystod y misoedd a ddaw.

Yn y cyfamser, dymunwn ddiolch i'r holl staff a'r myfyrwyr am eu gwaith caled ar gloddfa lwyddiannus iawn. Bydd llun o't tim a'u henwau yn ymddangos ar y safle we wythnos nesaf. Diolch hefyd i Andy Williams o Orchardweb a Gill Griffin am y gyfieithiadau, a diolch i Andy Williams am ddiweddaru'r safle we mor fuan bob dydd. Yn olaf, diolch i'r holl ddarllenwyr sydd wedi bod yn dilyn datblygiad y stori a'ch geiriau o gefnogaeth. Diolch yn fawr iawn.


Tîm y Cloddiad : Llangynfelyn 2004

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]