|
Addasiad yw'r isod o erthygl a ymddangosodd yn y cylchgrawn Ceredigion yn 1984. Mae'r fersiwn Saesneg ar y wefan hon yn wahanol gan ei bod yn ymwneud â hetwyr eraill Cerdigion yn ogystal â hetwyr Llangynfelyn ond y mae'r ddwy fersiwn yn seiliedig ar ymchwil i hetiau a hetwyr yr ardal.
Rydm yn ddiolchgar iawn i Gwyn am roi caniatâd i ni ailgyhoeddi'r erthyglau ar y safle.
Mi brynaf wn newydd a ffedog a phais,
A lasiau a rhubanau yn siop Bili'r Sais,
A sanau a sgidiau, ni byddaf ar ôl,
Mynnaf het ffasiwn newydd gan Ddafydd Tre'rddôl.'(1)
Nid chwilio am odl i'r gair 'ôl' oedd y baledwr Ywain Meirion wrth ddewis 'Tre'rddôl' i gwblhau y pennill hwn o'i faled 'Cân newydd, sef achwyniad Mari Rees Morgan oherwydd priodi hen gybydd', a gyhoeddwyd ganol y 19fed ganrif. Yr oedd Ywain Meirion yn gyfarwydd iawn ag ardal Tre'rddôl a gwyddai fod llu o wneuthurwyr hetiau ffelt, dros hanner cant ohonynt yn ôl Cyfrifiad 1841, yn byw ym mhlwyf Llangynfelyn. Yn wir, mae'n bosibl ei fod yn cyfeirio at un hetiwr arbennig yn y faled hon, sef Dafydd Dafis, a fu'n gwneud hetiau yn Nhre'rddôl am oddeutu trigain mlynedd. Nid oes neb sy'n fyw heddiw yn cofio 'hetwyr Llangynfelyn' a phrin yw'r wybodaeth am y fasnach anghyffredin hon a fu'n ffynnu yn y plwyf am gyfnod o lai na chanrif. Bwriad y llith hwn yw nodi'r hyn sy'n wybyddus am hetwyr yr ardal, gan lenwi bylchau drwy ddefnyddio cyfeiriadau at y fasnach mewn ardaloedd eraill. Dyfaliadau, felly, yw rhai o'r sylwadau a geir yn yr hyn a ganlyn.
Mae plwyf bychan Llangynfelyn yn sefyll tua hanner ffordd rhwng Aberystwyth a Machynlleth yng ngogledd Ceredigion. Yn ddaearyddol, mae'n blwyf o ddau eithaf, gyda ffordd fawr yr A487 yn ei rannu drwy ei ganol. I'r gorllewin i'r ffordd ceir cors fawr eang, Cors Fochno, tra i'r dwyrain mae'r tirwedd yn codi'n serth hyd at gopa Foel Goch. Rhanna afon Cletwr y plwyf yn ei hanner hefyd. Dylifa i lawr Cwm Pandy cyn ymlwybro'n hamddenol ar draws ochr ogleddol Cors Fochno ac i mewn i aber afon Ddyfi ger Traeth Maelgwyn. Ar hyd y ffordd A487, ac wrth droed Foel Goch, y saif y ddau brif bentref yn y plwyf. Mae'r hynaf o'r ddau, Tre'rddôl, yn ffinio ag afon Cletwr, tra bod Tre-Taliesin (neu Taliesin fel yr adwaenir y pentref ar lafar gwlad) yn bentref gweddol newydd gan iddo ddatblygu o glwstwr o dai yn ystod y 1820au. (2)
Mae daearyddiaeth y plwyf yn ffactor allweddol wrth egluro pam fod cymaint o hetwyr ffelt yn gweithio mewn ardal mor gyfyngedig. Roedd gwlân defaid Ceredigion, yn enwog am ei ansawdd da ar gyfer ffeltio. Yn ôl Gwallter Mechain, byddid yn cneifio defaid ddwywaith y flwyddyn; unwaith ym Mehefin ac unwaith eto yn yr hydref. Yr oedd gwlân yr ail gneifiad yn ardderchog ar gyfer ffeltio a'r gwlân hwnnw a ddefnyddid gan yr hetwyr. (3) Nid oedd prinder defaid yn yr ardal fynyddig hon o'r sir ac yr oedd digonedd o wlân ar gael, felly, i gyflenwi anghenion hetwyr Llangynfelyn. Ond pam fod hetwyr wedi eu cyfyngu i Langynfelyn yn hytrach na phlwyfi cyfagos? Mae'r ateb, mae'n debyg, yn dod o gyfeiriad Cors Fochno. Fel y disgrifir maes o law, ffurfiwyd hetiau ffelt mewn padell a oedd yn cynnwys hylif berwedig. Yr oedd yn rhaid cadw tymheredd yr hylif yn gyson boeth ac i'r perwyl hwn roedd angen tân mawn. Yr oedd digonedd o fawn ar Gors Fochno ac yr oedd y tanwydd cyfleus hwn yn hanfodol i ddatblygiad y fasnach. Yr oedd hetwyr hefyd yn gweithio ar gyrion Cors Caron yng nghanolbarth Ceredigion ac eraill yng Nglyngynwydd, Llangurig, sir Drefaldwyn, lle'r oedd digon o fawn ar gael.(4) Efallai y dylid nodi hefyd ei fod yn drosedd i symud mawn allan o blwyf heb ganiatâd, a dirwyid troseddwyr yn drwm yn llys y faenor.
Ceid gwneuthurwyr hetiau ffelt yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol ond nid oes gyfeiriadau at hetwyr yng ngogledd Ceredigion tan y ddeunawfed ganrif er, mae'n debyg, mai'r prinder tystiolaeth ddogfennol am yr ardal sy'n gyfrifol am hynny. Gwyddom fod pandy yn Nhre'rddôl yn yr ail ganrif ar bymtheg ac felly yr oedd traddodiad o ffeltio yn y plwyf. (5) Dyddia'r cyfeiriadau cyntaf at hetwyr yn yr ardal yn ôl i 1759 ond yn Sguborycoed, plwyf sydd hefyd yn ffinio â Chors Fochno, yr oedd Peter Jones a John David yn gweithio.(6) Mae'r cyfeiriad cyntaf at hetiwr o blwyf Llangynfelyn, sef Thomas Edwards, Llety'r Frân, yn dyddio o 1790.(7) Ef, efallai, oedd hetiwr enwocaf y plwyf a bu ei feibion a'i wyrion hefyd yn hetwyr.
Mae'n debyg i'r cynnydd mawr yn y nifer o hetwyr yn y plwyf gychwyn ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Os oedd y cynnydd hwn yn ganlyniad i'r twf ym mhoblogrwydd yr het gorun hir Gymreig, 'y cwcwll tal', yna y mae'n bosibl dyddio cychwyn yr ehangu mawr yn weddol gywir.
Mae baled, dyddiedig 1778, yn disgrifio dyfodiad
Ryw ffasiwn hyll i wlad a thre
Sef clampia bene o grochana
Yn un tyre mawr onte? (8)
O'r cyfnod hwn ymlaen ceir digon o gyfeiriadau at yr het gyfarwydd hon a ddaeth yn rhan annatod o'r wisg draddodiadol Gymreig honedig. Dyma un disgrifiad o wisg menyw yn Aberystwyth ym 1787: 'The women universally wear a petticoat, and a jacket fitting close to the waist, of striped woollen, and a man's hat'.(9) Rhaid cofio, fodd bynnag, fod hetwyr Llangynfelyn hefyd yn gwneud hetiau i ddynion a rhai arbennig ar gyfer mwynwyr.
Nid oes ystadegau dibynadwy ar gael ar gyfer y nifer o hetwyr yn Llangynfelyn tan Gyfrifiad 1841, er bod Cyfrifiadau cynharach yn awgrymu bod rhif yr hetwyr yn y plwyf yn sylweddol. Ar droad y ddeunawfed ganrif y gwelwyd y cynnydd mawr yn y fasnach hetiau yn Lloegr, ac eithrio yn Llundain, lle'r oedd y fasnach wedi ei sefydlu er yr ail ganrif ar bymtheg. Erbyn y 1820au, yr oedd gwneud hetiau ffelt wedi datblygu mewn canolfannau fel Denton, ger Manceinion, Stockport a Newcastle-under-Lyme, swydd Stafford, gyda rhai ffatrioedd bach yn cyflogi hyd at gant o weithwyr.(10) Yng Nghymru, yr oedd gan bob tref fechan o leiaf un hetiwr er cyfnod yr Oesoedd Canol ac yr oedd llu ohonynt mewn trefi fel Caerfyrddin, Hwlffordd ac Arberth. Cyrhaeddodd rhif hetwyr Llangynfelyn ei uchafswm yn y cyfnod 1820-40. Roedd oddeutu 55 o hetwyr ym 1831 a 51 ym 1841, tra oedd dros 80 o bobl yn gweithio yn y fasnach yn ardal Llangynfelyn (gan gynnwys Sguborycoed ac Elerch) ar ryw adeg yn ystod trigain mlynedd gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd tua chwarter o deuluoedd y plwyf yn dibynnu ar y fasnach hetiau am eu bywoliaeth, y ffigwr uchaf am unrhyw blwyf yng Nghymru, ac yr oedd bron hanner hetwyr Ceredigion yn byw ym mhlwyf bychan Llangynfelyn, yn ôl Cyfrifiad 1841.
Yn anffodus, nid yw Cyfrifiad 1841 yn gwahaniaethu rhwng yr hetwyr a oedd yn feistri (master hatters) a'r jermyn a fyddai'n gweithio drostynt (journeymen hatters). Mae Cyfrifiad 1851 yn cyfeirio at `wneuthurwyr hetiau' (hat manufacturers) a 'hetwyr' (hatters) ond erbyn hynny yr oedd nifer hetwyr y plwyf wedi gostwng yn sylweddol. Anodd, felly, yw diffinio patrwm gwaith yr hetwyr ac y mae angen cymharu eu sefyllfa â'r hyn a geid yng ngogledd Lloegr, er bod y sefyllfa yno, mae'n debyg, yn llawer mwy soffistigedig.
Yr oedd llawer o'r meistri yng ngogledd Lloegr hefyd yn ffermwyr, gyda gwneud hetiau yn waith rhan-amser proffidiol iddynt. (11) Gwyddom fod y brodyr Owen, Thomas a John Edwards o Ynys Tudur, Llwyn Wallter a Llety'r Fran yn eu disgrifio eu hunain yn ffermwyr yn ogystal â hetwyr. Yng Nghyfrifiad 1851, er enghraifft, disgrifir John Edwards yn 'Farmer (9 acres) and hatter'.
Yr oedd meistri eraill yn gweithio'n llawn amser, fel David Davies a Griffith Williams, Tre'rddôl. Yng ngogledd Lloegr byddai'r cyflogwyr-grefftwyr (operative-employers) hyn yn dosbarthu'r gwlân a'r blew i'r gweithwyr a fyddai'n gwneud rhan o'r broses o ffurfio'r het yn eu cartrefi.
Yna trosglwyddid yr hetiau anorffenedig i'r meistr a fyddai'n cwblhau'r gwaith ac yn eu gwerthu. Telid y gweithwyr yn ôl y nifer o hetiau a baratoid.(12) Mae'n debyg fod system fel hwn yn gweithredu yn Llangynfelyn ac mai yn Nhaliesin yr oedd y rhan fwyaf o'r gweithwyr hyn yn byw. Hwy oedd yr hetwyr a ddioddefodd fwyaf o ganlyniad i ddirwasgiad y 1840au, gan nad oedd y meistri'n medru eu cyflogi bellach. Er bod y ffin rhwng meistr a jermon yn annelwig, gellir bod yn weddol sicr mai dim ond tua dwsin o'r 51 hetiwr a nodir yng Nghyfrifiad 1841 oedd yn feistri, gyda'r gweddill yn gweithio iddynt.
Yr oedd hefyd ychydig o ferched yn gweithio yn y fasnach. Mae'n siwr fod gwragedd llawer o hetwyr yn cynorthwyo'u gwyr er nad yw hyn yn cael ei nodi yn y Cyfrifiad. Yng Nghyfrifiad 1841 ceir cyfeiriadau at ddwy hetwraig, Anne Lewis a Mary Evans o Daliesin. Mae'n debyg mai ychwanegu bandiau i'r hetiau neu gwneud gwaith gwnio a fyddai'r gwragedd hyn. Ym 1851, disgrifir Ann Davies Llannerch, yn 'hat binder' ac yr oedd dwy o ferched ifanc y cylch yn gweithio fel 'bonnet-makers'.
Safai gweithdai'r hetwyr, gan amlaf, y tu ôl i'w bythynnod ac mae'n bosibl fod yr adeiladau sydd heddiw i'w gweld ynghlwm wrth Ynys Tudur a Llety'r Frân wedi eu hadeiladu ar gyfer yr hetwyr. Gwyddom fod gweithdy â thy llifo wedi ei adeiladu gan Owen Edwards, Ynys Tudur, yn y 1820au ar safle'r Gwyndy ger Eglwys Llangynfelyn.(13) Nid oes disgrifiad ar gael o du mewn i weithdy hetiwr yn Llangynfelyn ond diau y byddai'n debyg i 'Siop yr Hatwr' a ddisgrifiwyd yn y nofel Gymraeg Cynwyn Rhys: Pregethwr:
Yr oedd iddo dô gwellt trwchus, simneau mawrion, a ffenestri llydan. Mae'n wir mai myglyd oedd yr awyr bob amser, ac nad oedd arogl y lle ar unrhyw adeg o'r mwyaf dymunol. Cynhullfan oedd y siop i bobl gryfion o ran corff, meddwl, a stymog. (14)
Nid oes disgrifiad ar gael o'r broses o wneud hetiau ffelt yng Nghymru ond gellir tybio nad oedd yn hanfodol wahanol i'r hyn a oedd yn gyffredin yng ngogledd Lloegr. Gwyddom o ddarfen rhestrau eiddo fod yr un offer gan hetwyr Cymru â'u cyfoedion yn Lloegr.(15) Fodd bynnag, parhawyd i ddefnyddio blew'r llostlydan (felly'r enw 'beaver' am het), a fewnforid o ogledd America, yn Lloegr, ond mae'n annhebyg fod y ffwr hwn yn cael ei ddefnyddio yn Llangynfelyn. Gwyddom i hetwyr Llangynfelyn ddefnyddio blew'r ysgyfarnog wedi ei gymysgu â gwlân ar gyfer hetiau cyffredin a blew'r gwningen ar gyfer hetiau da.(16) Yr oedd angen oddeutu 2½ owns o ddefnydd i wneud het dda, gyda thua 2/3 o hwn yn flew cwningen. (17)
Mae disgrifiadau manwl o'r broses o wneud hetiau ffelt ar gael, ond dim ond braslun o'r broses a roddir yma. (18) Cesglid y blew a'r gwlân at ei gilydd ar glwyd arbennig (math o fainc bren) ac yna, drwy ddefnyddio offeryn tebyg i fwa saeth gwasgerid y ffeibrau i bob cyfeiriad tra syrthiai'r llwch a'r baw drwy dyllau'r glwyd. Gwesgid y ffeibrau i ffurflo siâp cap ac yna trochid y cap mewn padell fawr yn llawn hylif. Cymysgedd oedd yr hylif o ddwr berwedig, llond gwydr o fitriol a thipyn o weddillion cwrw. Byddai'r fitriol yn cywasgu corff yr het a'r cwrw yn lladd effaith andwyol y fitriol. Byddai'r hetiwr yn ffurfio'r het ar blencyn pren ar ochr y badell, gan ei throchi bob hyn a hyn yn yr hylif. Rhaid oedd cadw'r hylif yn boeth ac, felly, fel y crybwyllwyd eisoes, yr oedd mawn Cors Fochno yn gyfleus, iawn i hetwyr Llangynfelyn ar gyfer y tân. Wedi hyn, gorchuddid yr het â farnais pwrpasol a fyddai'n ei hamddiffyn rhag y glaw. Ar ôl iddi sychu, rhoddid yr het ar floc pren er mwyn cael y siâp priodol a'i thorri.
Yr oedd yr het yn awr yn barod i'w llifo ac fe'i trochid mewn padell o liw du. Cymysgedd o fustl cnau, copras a logwd oedd y lliw a ddefnyddid, gan amlaf. Sychid yr hetiau yn yr awyr agored ac wrth iddo gerdded trwy Dre'rddôl ym Medi 1826, fe welodd un teithiwr "...many black hat makers. Counted 31 hats drying at one house." (19)
Byddid yn smwddio'r het â haearn smwddio trwm (20) ac yna yn gwnio arni fand ac efallai leinin addas yn achos yr hetiau gorau.
Mae'n amlwg fod hetiau sâl hefyd yn cael eu gwneud a rheini o wlân yn bennaf, gydag ychydig o flew ysgyfarnog. Gellir gweld enghreifftiau o'r hetiau hyn mewn paentiadau a phrintiau o'r cyfnod. (21)
Crybwyllwyd eisoes yr hetiau arbennig a wnaed ar gyfer mwynwyr a chwarelwyr. Yr oedd gan y rhain le ar y gantel i ddal cannwyll a gedwid yn ei lle, mae'n debyg, gan belen o glai. Mae disgrifiad ar gael o het mwynwyr o Lanidloes ac mae'n bosibl mai het o Langynfelyn oedd hon, gan y gwyddom fod hetiau o'r plwyf ar werth yn ffair Llanidloes:
He wore a flannel shirt, tucked up at the sleeves and fustian trousers. He carried his candle in a ball of clay, stuck on the broad brim of his round crowned hat. The water fell in streams, and he told me that to keep his head and face dry, he was bound to waterproof his hat, as I saw it, with wax and rosin [resin].(22)
Yr oedd hetiau ffelt yn gymharol ddrud i'w prynu. Mae'r unig gyfeiriad pendant at bris het a wnaed yn Llangynfelyn i'w weld mewn llyfr cownt saer. Talwyd y saer am ei wasanaeth yn y flwyddyn 1834 â het a oedd yn werth wyth swllt, swm sylweddol y pryd hwnnw. (23) Yn ôl Gwallter Mechain, uchafbris het o Geredigion ar ddechrau'r ganrif oedd deg i ddeuddeg swllt, tra oedd hetiau o Bennal, sir Feirionnydd, yn costio 5s. 6d. a 7s. (24) Mae'n debyg y bu hetiau yn gostus i'w prynu erioed, gan fod rhestrau eiddo hetwyr o'r ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif yn awgrymu fod prisiau yn amrywio o 10d. i 14s. am het ddâ. (25)
Gwerthid y rhan fwyaf o hetiau Llangynfelyn mewn ffeiriau ledled Cymru. Byddid yn pacio'r hetiau, cymaint â chwe dwsin, i mewn i focs anferth a'i strapio ar gefn yr hetiwr. Ceir disgrifiad o'r bocs mewn erthygl yn y cylchgrawn Cymru (1897):
Mewn box o faintioli anferth ar gefn dyn yr arferid eu cario [yr hetiau]. Yn ochr y box yr oedd dwy strap, a rhoddai y cariwr ei freichiau trwy y strapiau, ac elai felly â'r nwyddau ar ei gefn filldiroedd lawer o bellder, heb gymorth anifail nag agerbeiriant.(26)
Yn ddiweddarach rhoddir mesuriad y bocs yn 'dair llath o hyd a dwy lath o led', ond anodd yw credu y gallai neb gario bocs o'r maint hwnnw, ac mae' n siwr mai gorddweud oedd yr awdur y tro hwnnw. Fodd bynnag, roedd y bocs yn anferth ac yn drwm, fel y mae un stori drist yn awgrymu. Yn Awst 1845, ychydig filltiroedd o Gaernarfon, syrthiodd Lewis Edwards, hetiwr ifanc deg ar hugain oed o Daliesin, yn farw ar ochr y ffordd; dichon i'r straen o gario bocs mor drwm fod yn ormod iddo. (27)
Defnyddiai hetwyr eraill asynnod i gario'r hetiau ac yn aml gwraig yr hetiwr a fyddai'n teithio'r wlad, fel y dengys yr atgofion hyn:
Byddai mamgu yn cychwyn oddi yma [Tre'rddôl] i Gaernarfon â llwyth o hetiau ar gefn
mulsyn,-strap yn groes i'w gefn a bocs bob ochr yn llawn hetiau, a hi ei hun yn cerdded
gan fyned trwy Fachynlleth a Chorris. Yr oedd arni ofn wrth fynd heibio i'r Ganllwyd a
cheisiau fynd heibio yno cyn iddi ddechrau tywyllu, a dyna oedd yr arfer ddweud, -
'Er hylled yw'r creigiau o gwmpas Dolgellau,
Saith hyllach nag unlle yw'r Ganllwyd'. (28)
Roedd gwraig David Edwards, Amlwch, hetiwr a fagwyd ac a ddysgodd ei grefft yn Nhre'rddôl, yn teithio i bob rhan o Gymru yn gwerthu hetiau ac adwaenid hi gan bawb fel 'y ddynes fach'. (29)
Nid David Edwards, Amlwch, 'Dâfydd y Ffeltiwr', oedd yr unig hetiwr i adael Llangynfelyn i sefydlu busnes mewn lle arall. Yr oedd Llangynfelyn nid yn unig yn allforio hetiau ond hefyd yn allforio hetwyr! Symudodd David Humphreys o Dre'rddôl ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a chychwyn busnes hetiau yng Nghaernarfon. Ef oedd tad Hugh Humphreys, un o argraffwyr enwocaf Cymru. (30) Byddai Thomas Edwards, Ynys Tudur, pan oedd yn llanc dwy ar bymtheg oed, yn cario bocs hetiau i ogledd Cymru ac wedi sylwi ar dwf y diwydiant llechi ym Mlaenau Ffestiniog symudodd i Lanffestiniog i fyw, gan ddod yn hetiwr poblogaidd yn yr ardal honno. (31)
Mae'r dywediad as mad as a hatter a'r cymeriad The Mad Hatter yn y nofel Alice in Wonderland yn adnabyddus i bawb, ond nid oes sicrwydd ynglyn â tharddiad y syniad fod hetwyr yn tueddu at wallgofrwydd. Yn ei lyfr Puritanism and Revolution, awgryma Dr. Christopher Hill mai'r pamffledwr crefyddol ecsentrig o'r ail ganrif ar bymtheg, Roger Crab, oedd yr hetiwr gwallgof cyntaf ond, mewn argraffiad diweddarach o'r gyfrol, cyfeiria at sylw gan yr Athro Linus Pauling a hawliai fod y defnydd a wneid o arian byw yn y broses o wneud hetiau ffelt yn gallu achosi gwallgofrwydd.(32) Mae'n wir fod dylanwad arian byw (mercuric nitrate yn yr achos hwn) yn gallu gyrru dyn yn wallgof ac y mae adroddiad ar ffatrioedd yn dyddio o ddiwedd y ganrif ddiwethaf yn rhybuddio gweithwyr ynglyn â hyn.(33) Yn y broses a elwid 'carrotting' yr oedd y perygl. Defnyddid arian byw i baratoi'r ffwr ar gyfer ffeltio ac, felly, dim ond yr hetiwr a baratoai'r ffwr ei hun a ddeuai i gysylltiad ag arian byw. Yr oedd ffwriwr/hetiwr yn byw yn y Gwyndy, Llangynfelyn, ganol yr 19fed ganrif, ond nid oes tystiolaeth bod James Jones nag aelodau ei deulu yn wallgof. Mae'n siwr fod rhai hetwyr yn paratoi ffwr ysgyfarnog a chwningen ar ei ben ei hun ond nid oes dystiolaeth bendant y defnyddid arian byw. Rhaid cofio hefyd pe bai elfen o wallgofrwydd yn y cylch y gallasai hynny ddeillio o'r ffaith fod pawb yn yfed dwr wedi ei lygru gan fwyn.
Yn gyffredinol yr oedd hetwyr yn enwog am fod yn afreolus ac yn yfwyr mawr. Yn Llundain yr oedd system o ddirwyion yn gysylltiedig ag yfed cwrw yn rhan o reolau'r grefft tra, yng Nghymru, yr oedd hetwyr Y Trallwng yn arbennig o enwog am ymladd ac yfed yn drwm. (34) Dichon fod hetwyr Llangynfelyn yn afreolus hefyd. Ceir hanesion am hetwyr Tre'rddôl yn chwarae tric sbeitlyd ar ddyn dall ond nid oes tystiolaeth i gadarnhau haeriad Dr. Tom Richards mai hetwyr y plwyf oedd yn gyfrifol am erlid y pregethwr Methodistaidd, Daniel Rowland, pan ymwelodd ef â'r ardal. (35) Yn wir, daeth rhai hetwyr yn Fethodistiaid pybyr. Y blaenor cyntaf gyda'r Methodistiaid yn y plwyf oedd Thomas Edwards, Llety'r Frân, ac y mae cofrestr bedyddiadau Capel Rehoboth yn frith o gyfeiriadau at hetwyr a'u teuluoedd. (36) Serch hynny, y mae'n debyg i lawer hetiwr fwynhau ei gwrw yn yr 'Half Way' neu'r 'Frân' ac, yn wir, yn ystod y 1840au aeth un cyn-hetiwr, Thomas Roberts, Taliesin, yn dafarnwr.
Gwelwyd cynnydd aruthrol ym mhoblogaeth Ceredigion yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Arweiniodd hyn at broblemau economaidd a chymdeithasol dybryd a disgrifiwyd Ceredigion fel y sir fwyaf aflonydd yng Nghymru. Serch hynny, ni ddioddefodd yr ochr ogleddol o'r sir cymaint â'r ochr ddeheuol. Efallai mai'r rheswm am hyn oedd fod gwaith ar gael y tu allan i amaethyddiaeth, yn arbennig yn y gweithfeydd mwyn, yn y melinau gwlân bychain mewn pentrefi fel Tal-y-bont, ac, wrth gwrs, yn y fasnach hetiau ffelt yn Llangynfelyn. Ar ddechrau'r 1840au, yn ystod cyfnod 'Helynt Beca', honnodd Pryse Pryse, Gogerddan, nad oedd angen heddlu yng Ngheredigion, ac yn sicr yn ei diriogaeth ef i'r gogledd o Aberystwyth ni chafwyd unrhyw arwydd o derfysg. (37) Yn wir, er i'r heddlu gael ei sefydlu yng Ngheredigion ym 1844, dim ond ar ôl 1848 y gwelid plismyn ar ddyletswydd yng nghantrefi Ilar a Genau'r Glyn. (38)
Bu cau'r tiroedd comin yn achos terfysgoedd yng nghanol a gwaelod y sir ym mlynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf, yn arbennig yn ardal Mynydd Bach lle cafwyd helyntion enwog 'Rhyfel y Sais Bach'. Ond dim ond un achos o wrthwynebiad cryf i'r cynllun i gau tiroedd Cors Fochno sy'n wybyddus. Cymerodd y cynllun amser maith, o 1813 hyd 1847, i'w gwblhau, ond dim ond ym 1843 y ceisiwyd difetha cloddiau ar un rhan o'r Gors. Saith o hetwyr o dan arweiniad William Lewis, Craig y Penrhyn, oedd yn gyfrifol am chwalu'r cloddiau ger fferm Trwyn y Buarth, eiddo Pryse, Gogerddan, yn gynnar ym 1843. Yn ôl adroddiad papur newydd, '...it was the intention of the defendants and others to do away with the enclosure act altogether, and reduce the bog to its original unproductiveness'. (39) Mae'r 'original unproductiveness' yn ddisgrifiad annheg o ystyried angen hetwyr y cylch am fawn ac mae'n rhyfedd na fu gwrthwynebiad i gau'r tiroedd cyn hyn. Wedi'r cwbl, cychwynasai'r broses hwnnw ddeng mlynedd ar hugain ynghynt. Efallai y cedwid y rhan fwyaf o'r hetwyr yn ddiddig oherwydd i Ddeddf Gau Cors Fochno sicrhau bod tywyrch ar gael ar gyfer bobl leol ac i rai hetwyr, fel David James, Goitrefach (4 erw) a Thomas Edwards, Llety'r Frân (1 erw), lwyddo i sicrhau ychydig o dir caeëdig ar y Gors. (40)
Gan mai yn Llys Bach Tal-y-bont y cynhaliwyd yr achos yn erbyn y saith troseddwr ni farnwyd fod y drosedd yn fygythiad peryglus i gyfraith a threfn, ond cosbwyd y saith yn llym iawn. Fe'u dirwywyd £3. 6s. 6d. yr un, gan gynnwys costau, neu, oni fedrent dalu, chwech wythnos o lafur caled yng ngharchar Aberteifi. Gan nad oeddent yn medru talu'r ddirwy, anfonwyd yr hetwyr i Aberteifi y diwrnod canlynol. Efallai mai arwydd o'r dirywiad sydyn yn y fasnach hetiau a oedd yn gyfrifol am y brotest hon; arwydd o rwystredigaeth ydoedd yn fwy na dim. Mae'n debyg i'r hetwyr hyn glywed am orchestion Merched Beca ond go brin fod unrhyw gynllun y tu ôl i'r weithred ac yn sicr nid oedd hetwyr Llangynfelyn wedi eu trefnu eu hunain ar ffurf undeb, fel y gwnaeth eu cyfoedion yn Lloegr.
Cyfeiriwyd eisoes at y fasnach hetiau lwyddiannus yng Ngogledd Lloegr. Am gyfnod, yr oedd cyflogau hetwyr Lloegr yn cymharu'n ffafriol ag unrhyw grefftwr arall, ond yn ystod y 1840au disgynnodd eu cyflogau'n aruthrol o gyflym. Trefnodd hetwyr Swydd Gaerhirfryn a Swydd Gaer ddeiseb ym 1845 i gwyno fod eu cyflogau wedi gostwng rhwng 30% a 40% dros y pymtheng mlynedd flaenorol. Roedd diweithdra hefyd ar raddfa eang, fel y gwelodd un a fu'n ymweld ag Oldham yng nghanol y ganrif ddiwethaf. Disgrifiodd yr hetwyr di-waith fel 'melancholy clusters of gaunt, dirty, unshaven men lounging on the pavement'.(41)
Y ffactor allweddol yn nirywiad y fasnach hetiau ffelt yng ngogledd Lloegr oedd dyfodiad yr het silc. Roedd yr het silc yn ysgafnach na'r het ffelt, yn harddach yr olwg ac, yn bwysicaf oll, yn rhatach i'w phrynu. Ym 1850 amcangyfrifwyd bod oddeutu tair miliwn o hetiau silc wedi eu gwneud a'u gwerthu ac nid oedd yr hen het ffelt yn medru cystadlu'n effeithiol bellach. (42) Dim ond ar ol 1860 y gwelwyd adfywiad yn y fasnach hetiau ffelt mewn trefi fel Denton a Stockport, o ganlyniad i fecaneiddio a'r cynnydd mewn poblogrwydd hetiau ffelt newydd fel y bowler ac yn ddiweddarach yr homburg a'r trilby. (43)
Yng Nghymru bu'r dirywiad yn y fasnach yn ddi-droi-nôl: ni chafwyd adfywiad ar ôl 1860. Dechreuodd y dirywiad yn y 1840au yn sgil poblogrwydd cynyddol yr het silc. Cwynai hetwyr Arberth fod yr 'het Jim Crow', het a chanddi gantel llydan, yn gyfrifol am chwalu'r fasnach, ond 'hetiau sidanaidd Ffrainc' oedd yn cael y bai yn Llangynfelyn. Yn ystod y 1840au aeth gwisgo'r 'cwcwll tal' allan o ffasiwn a dim ond hen fenywod yn yr ardaloedd gwledig a wisgai'r hetiau hyn wedi canol y ganrif. (41) Yn wir synnodd y myfyriwr ifanc, Owen M. Edwards, wrth weld wyth neu naw het gorun hir tra oedd yn pregethu yn Llangeitho ym 1880. (46) Yr oedd menywod erbyn hyn yn gwisgo hetiau ffansi o Lundain neu Baris neu hetiau a wnaed gan hetwragedd (milliners). Mewn trefi fel Aberystwyth bu cynnydd mawr yn nifer hetwragedd y dref erbyn canol y ganrif, tra oedd siopau dillad yn gwerthu'r holl ffasiynau newydd. Yn ôl hysbyseb, dyddiedig 1858, er enghraifft, yr oedd gan un siop ddillad yn Aberystwyth - 'London and Manchester House' - ystafell arbennig yn gwerthu hetiau yn unig. I siopau fel hyn y byddai merch ifanc yn mynd i brynu het.(47) Ni fyddai'n ymweld â gweithdy'r hetiwr na phrynu mewn ffair mwyach. Erbyn canol y ganrif yr oedd y rheilffyrdd wedi cyrraedd y rhan helaethaf o Gymru ac felly yr oedd cyflenwad o'r ffasiynau newydd yn cyrraedd hyd yn oed rannau mwyaf anghysbell y wlad. (48)
Mae ystadegau'r Cyfrifiad yn dangos y dirywiad yn y fasnach hetiau yng Nghymru ac yn Llangynfelyn yn glir:
Nifer yr Hetwyr
Blwyddyn | Llangynfelyn | Ceredigion | Cymru |
1841 | 51 | 124 | 447 |
1851 | 20 | 67 | 363 |
1861 | 3+* | 42 | 220 |
1871 | 5 | 22 | 176 |
Ar ôl canol y 19fed ganrif, masnach i hen ddynion ydoedd; prin iawn oedd nifer y gweithwyr a aned ar ôl y 1820au a aeth i'r drafferth i ddysgu'r grefft. Mae Cyfrifiad 1851 yn dangos fod y rhan fwyaf o'r hetwyr rhwng 25 a 50 oed (ac felly yn hy^n na chrefftwyr eraill) a Chyfrifiad 1871 yn dangos fod y mwyafrif o hetwyr dros 45 oed.
Hanerwyd nifer yr hetwyr rhwng 1841 ac 1851 ac mae'n siwr i lawer ohonynt adael yr ardal. Ymfudodd rhai. Gwyddom, er enghraifft, i Morgan Morgans, hetiwr o'r Goetre fach, ymfudo i Buffalo, talaith New York, ac yr oedd criw o hetwyr ar y Hong Tamerlane a groesodd Fôr yr Iwerydd o Aberystwyth i'r Amerig ym 1847.(49) Cafodd rhai hetwyr, fel Richard Evans a William Owen, waith yn y gweithfeydd mwyn a oedd wedi adfywio yn ystod y 1830au. Dychwelodd rhai eraill i weithio ar y tir, tra dysgodd rhai grefftau newydd, fel John Morris, Frondeg, a ddaeth yn saer-maen. (50)
Er i werthiant hetiau cyffredin ar gyfer dynion a menywod ostwng yn sylweddol, y mae'n debyg i'r ychydig hetwyr a barhaodd i weithio ganolbwyntio ar wneud hetiau caled ar gyfer mwynwyr a chwarelwyr. Erbyn 1871 dim ond pum hetiwr oedd ar ôl a deng mlynedd yn ddiweddarach dim ond William Thomas, Ty'n y Wern, Tre'rddôl, oedd yn dal i wneud hetiau. Bu ef, hetiwr olaf Llangynfelyn, farw yn 78 oed ym 1897.
Er i'r gweithfeydd mwyn gyflogi gweithwyr lleol am gyfnod, erbyn y 1870au yr oedd y rhain wedi dirywio ac o hynny ymlaen dim ond amaethyddiaeth a allai gynnig cyflog i weithwyr y plwyf. Gellir dychmygu'r tlodi. drwy ystyried gweithgarwch aelodau 'The Poor Woman's Club of Tre'rddôl and Taliesin' a fu'n gyfrifol am ddosbarthu dillad cynnes ac esgidiau i 85 o dlodion y plwyf yn Rhagfyr 1874. (51) Nid oedd fawr o ddyfodol i bobl ifanc yr ardal. Aeth cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth ohonynt i ffwrdd i chwilio am waith ac erbyn heddiw mae cyfartaledd uchel o drigolion plwyf Llangynfelyn naill ai yn hen bobl neu yn estroniaid o'r ochr draw i Glawdd Offa.
Cwestiynau? Sylwadau? Beth ydych chi'n meddwl am y tudalen hwn a gweddill y wefan? Dywedwch yn y llyfr ymwelwyr. Questions? Comments? What do you think about this page and the rest of the site? Tell us in the guest book. |