Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records




Cofnodion mewn bodolaeth

Records in existence

Mae cofnodion sy'n berthnasol i hanes y plwyf mewn llawer lefydd. Y mae'r rhai isod ymhlith y sawl y mae'r awduron yn gyfarwydd amdanynt. Tasech chi'n gwybod am unrhyw ffynnon arall, a fyddech mor garedig ag gyda'r manylion.

Records relating to the history of the parish are in many places. The ones below are amongst those known to the authors. If you know of any other source,please with the details.

Byrfoddau a ddefnyddiwyd

Abbreviations used

LlGC = Llyfrgell Genedlaethol Cymru
AG = Yr Archifdy Gwladol, Kew
AC = Archifdy Ceredigion, Aberystwyth

NLW = National Library of Wales
PRO = Public Record Office, Kew
CA = Ceredigion Archives, Aberystwyth


 
Cwmwd a maenor Genau'r-glyn.

Mae Llangynfelyn yng Ngenau'r-glyn, ac mae cofnodion y faenor ar gael am 1276-1918. Mae'r rhan fwyaf o'r cofnodion cynnar yn y PRO, ac y rhai diweddaraf yn Archif Gogerddan (LlGC). Mae cronfa data'r cofnodion maenorau Cymru ar gael ar y We (www.hmc.gov.uk).

Commote and manor of Genau'r-glyn.

Llangynfelyn is in Geneu'r Glyn, and the manor records are available from 1276-1918. The majority of the early records are in the PRO, and the latest in the Gogerddan Archive (NLW). A database of Welsh manorial records is available on the WWW (www.hmc.gov.uk).
Ewyllysiau.

Mae ewyllysiau esgobaeth Tyddewi cyn 1858, a chopïau a mynegai i ewyllysiau Cofrestfa Profeb Caerfyrddin, 1858-1941, yn LlGC. Mae ewyllysiau eraill Llangynfelyn cyn 1858 yn Llys Uchelfraint Caer-gaint (PRO) ac ar ôl 1858 yn y Brif Gofrestrfa Brofeb (mynegai i'r ddau yn LlGC). Gwn am dros cant o ewyllysiau Llangynfelyn, 1596-1951.
Wills.

Wills for the diocese of St Davids prior to 1858, and copies of and an index to the wills of the Carmarthen Probate Registry 1858-1941, are in NLW. Other Llangynfelyn wills prior to 1858 in the Prerogative Court of Canterbury are in the PRO and after 1858 in the Principal Probate Registry. (Indexes to both in NLW). I know of over 100 wills for Llangynfelyn, 1596-1951.

Mynwentydd.

1730 yw'r dyddiad cynharach ar garreg fedd. Mae tair mynwent yn y plwyf: llan yr eglwys (caewyd tua 1910), y mynwent newydd (agorwyd ym 1878), ac iard yr Hen Gapel, Tre'r-ddôl. Does dim mynwent gan naill Rehoboth neu Soar.

Cemeteries.

1730 is the earliest date on a grave stone. There are three cemeteries in the parish: the old churchyard (closed in 1910), the new cemetery (opened in 1878) and the yard of Yr Hen Gapel, Tre'r-ddôl. Neither Rehoboth nor Soar have a cemetery.

Cors Fochno.

Amryw cofnodion, 1743-1897 (LlGC, Gogerddan ac Evans & Griffin), map cau tir, 1813, a dyfarniad, 1847 (AC, adnau Card CC 5), a llyfr cofnodion a llyfr cyfrif y Comisiynwyr Cau Tiroedd Cors Fochno, 1822-45 (Archifdy Swydd Amwythig 445/9-10).

Cors Fochno.

Various records, 1743-1897 (NLW, Gogerddan and Evans & Griffin). Enclosure map, 1813 and award, 1847 (CA, deposit Card CC 5). Record and account book of the Cors Fochno Enclosure Commissioners 1822-45 (Shropsire Record Office 445/9-10).

Ystadau.

Gogerddan, yn cynnwys Lodge Park, a rhentalau, 1747-1931, a Gwynfryn, ychydig iawn o gofnodion (y ddau yn LlGC)

Estates.

Gogerddan, including Lodge Park and rentals 1747-1931, and a few records from Gwynfryn. Both in NLW.

Eglwys y plwyf.

Mae cofrestr gynharach Llangynfelyn yn dyddio o 1754, dechreuwyd dan Ddeddf Priodasau'r Arglwydd Hardwicke. Fel sawl plwyfi Ceredigion, mae priodasau ar gael yn LlGC hyd at 1970, pan ddosbarthwyd y cofrestrau dwyieithog presennol i'r eglwysi a'r capeli. Mae bedyddiadau ar gael am y cyfnod 1770-1861, a chladdedigaethau 1772-1949 (LlGC i gyd, ar m/f yn AC, ond claddedigaethau i 1870 yn unig). Mae adysgrifiadau'r esgob ar gael am 1675, 1678-79, 1681-83, 1687-89, 1691, 1699, 1701-03 a 1705, uwchben y rheiny sydd yn y cofrestri. Hefyd, mae llyfr gostegion, 1824-1968. Mae cofnodion cynnar y festri, 1784-86, yn y cofrestr plwyf. Cofnodion plwyfol eraill yn cynnwys llyfr cyfrif y goruchwyliwr, 1848-68 (NLW MS 20688D), rhestr ysgol Sul, 1939-52, cyfrifon cyfraniadau, 1947-57, 1966-76 (LlGC i gyd). Mae'r cofrestri diweddarach mewn defnydd yn y plwyf o hyd, ac mae llyfr cofnodion cyngor y plwyf, 1900au-presennol, yn nwylo warden y bobl.

The parish church.

The earliest Llangynfelyn register dates from 1754, started as a result of Lord Hardwicke's Marriage Act. Like a number of Ceredigion parishes, marriages are available in NLW up to 1970, when the present bilingual registers were distributed to the churches and chapels. Baptisms are available for the period 1770-186, and burials 1772-1949. (All in NLW, and on m/f in AC, but burials to 1870 only). Bishop's transcripts are available for 1675, 1678-79, 1681-83, 1687-89, 1691, 1699, 1701-03 and 1705, over and above those in the registers. There is also a book of banns 1824-1968. The early vestry records, 1784-86 are in the parish register. Other parochial records include the overseers account book 1848-68 (NLW MS 20688D), a Sunday school list 1939-52, contribution books 1947-57, 1966-76 (all NLW). The latest registers are still in use in the parish, and the record book of the parish council 1900 - present is in the hands of the people's warden.

Asesiadau treth tir.

1795 a 1812-70 (LlGC, Roberts & Evans 60/46).

Land tax assessments.

1795 a 1812-70 (NLW, Roberts & Evans 60/46).

Capel Rehoboth (MC), Tre-taliesin

Sefydlwyd yr achos ym 1773, ac adeiladwyd y capel presennol ym 1830. Cofrestr genedigaethau a bedyddiadau, 1812-36 (PRO, RG 4/4013, ar m/f yn AC a LlGC), bedyddiadau, 1812-85, aelodau a chyfraniadau i'r weinidogaeth, 1845-1929, rhestrau o aelodau, 1858, 1871 a 1874, rhestr o'r rhai hynny derbyniwyd yn ystod diwygiad 1859, a'r ysgol Sul, 1897-1914 (LlGC, CMA 13139-46). Mae adroddiadau blynyddol ar gael 1899-1984 (LlGC, CMA). Hefyd, mae cofnodion cyllid a gweinyddol, 1886-1958, ac amryw papurau yngln â chapeli lleol eraill (LlGC, Arthur Pugh).

Rehoboth Chapel (MC), Tre-taliesin.

The cause was founded in 1773, and the present chapel was built in 1830. Register of births and baptisms 1812-36 (PRO, RG 4/4013, on m/f in AC and NLW), baptisms 1812-25, members and contributions to the ministry 1845-1929, membership lists 1858, 1871 and 1874, list of those received during the 1859 revival, and the Sunday School 1897-1914 (NLW, CMA 13139-46). Annual reports 1899-1984 are available (NLW, CMA). Also, financial and administrative records, 1886-1958 and various papers concerning other local chapels (NLW, Arthur Pugh).

Capel Soar (Wesleyaidd), Tre'r-ddôl.

Sefydlwyd yr achos ym 1804, ac adeiladwyd y capel presennol ym 1874. Cofrestr genedigaethau a bedyddiadau, 1814-37 (PRO, RG 4/4007, ar m/f yn LlGC), bedyddiadau cylch Aberystwyth, 1835-1964, cofnodion yr ysgol Sul, 1842-1957, llyfrau dosbarthau, 1854-1956, tanysgrifiadau i'r cronfa adeiladu, 1875-77, a chofnodion eraill (LlGC, WMA).

Soar Chapel (Wesleyan), Tre'r-ddôl

The cause was founded in 1804, and the present chapel was built in 1874. Register of births and baptisms 1814-37 (PRO, RG 4/4007, on m/f in NLW), baptisms Aberystwyth circuit 1835-64, Sunday School records 18442-1957, class books 1854-1956, subscriptions to the building fund 1875-77 and other records (NLW, WMA).

Degymau.

Daliwyd degymau nifer o blwyfi gogledd Ceredigion gan teulu Chichester. Mae eu phapurau, yn cynnwys rhai ynghylch casgliad degymau, yn awr yn Archifdy Gogledd Dyfnaint, Barnstaple. Papurau eraill, 1816-68 o leiaf (LlGC, Roberts & Evans, heb eu chatalogio), yn cynnwys rhentalau, 1816-39. Map a rhestr degwm, 1844 (LlGC, Adran Mapiau), a ffeil o ohebiaeth rhwng y is-gomisiynydd lleol a'r Comisiynwyr Degymau ynglyn â'r cymudiad (PRO, IR 18/14018).

Tithes.

The tithes of a number of parishes in North Ceredigion were held by the Chichester family. Their papers including some concerning the collection of tithes, are now in the North Devon Archive, Barnstaple. Other papers 1816-68 at least (NLW, Roberts and Evans, uncatalogued), contain rentals 1816-39. Map a tithe list 1844 (NLW, Maps Dept) and a file of correspondence between the local sub-commissioner and the Tithe Commissioners concerning the commutation (PRO, IR 18/14018).

Cofrestri etholwyr

Mae'r dilynnol ar gael i Geredigion i gyd: 1835, 1846, 1856, 1865, 1874, 1896, 1910, 1915, 1918, 1920, 1929, 1932, 1935-36, 1939, 1968-presennol (LlGC, Adran Llyfrau), 1862-65 (LlGC, Mân Adneuon 577-80B), 1918, 1945-presennol (AC).

Electoral registers

The following are available for all Ceredigion: 1835, 1846, 1856, 1865, 1874, 1896, 1910, 1915, 1918, 1920, 1929, 1932, 1935-36, 1939, 1968-present (NLW, Printed Books), 1862-65 (NLW, Minor deposits 577-80B), 1918, 1945-present (CA).

Cyfrifiadau.

1841-91 ar gael yn AC a LlGC. Adysgrifiadau â mynegai ar gael, 1841-71 (LlGC Facs 445, 553, 564, 576; 1841 yn unig yn AC, ADX 93/13). Mae gwall yng nghyfrifiad 1861, efo'r rhan mwyaf pentref Tre'r-ddôl a ffermydd y mynyddoedd i'r gogledd i Afon Cletwr ar goll.

Censuses.

1841-91 available in CA and NLW. Transcriptions and indexes available, 1841-71 (LlGC Facs 445, 553, 564, 576; 1841 only in CA, ADX 93/13). There are gaps in the 1861 census, with the main part of the village of Tre'r-ddôl and the hill farms north of the Clettwr missing.

Llyfrau trethi lleol

Ar gael i blwyf Llangynfelyn am 1844 a 1854 (LlGC, Evans & Griffin 13) a 1927-66 (efo bylchau) (AC, ABR/TR/11).

Rate books

Available for Llangynfelyn 1844 and 1854 (NLW, Evans & Griffin 13) and 1927-66 (with gaps) (AC, ABR/TR/11).

Mwyngloddio plwm.

Mae yna cofnodion ynglyn â Phwll Roman a Brynarian, 1853-60 (AC, DB 19). Yn LlGC, mae papurau Druid Inn a Gogerddan yn cynnwys cofnodion gwahanol weithiau yn y plwyf.

Lead mining.

There are records concerning Pwll Roman and Brynarian 1853-60 (CA, DB19). In NLW, the Druid Inn and Gogerddan papers include various records of works in the parish.

Papurau newydd.

Heblaw yr Aberystwyth Observer (1858-1915) a'r Cambrian News (1860-presennol), cofiwch Lloffion Llangynfelyn (1956-59) a Phapur Pawb (1974-presennol), papurau bro sydd yn cylchredeg yn y plwyf (LlGC i gyd). Maent yn cynnwys newyddion y dydd ac erthyglau hanesyddol.

Newspapers.

Apart from the Aberystwyth Observer (1858-1915) and the Cambrian News (1860-present), remember Lloffion Llangynfelyn (1956-59) and Papur Pawb (1974-present), community newspapers that circulate in the parish (all in NLW). They include current news and historical articles.

Ysgol Llangynfelyn.

Llyfrau cofnodion, 1871-1976 (yn cynnwys Anfield Road, Lerpwl, datnwywyd i Daliesin, 1939-43), a chyfrifiad o deuluoedd â phlant, 1877-c.1882 (AC i gyd).

Llangynfelyn School.

Record books, 1871-1976 (including Anfield Road, Liverpool, evacuated to Taliesin, 1939-43), and a census of families with children, 1877-c.1882 (all CA).

Elorgerbyd Llangynfelyn

Cofnodion yr elorgerbyd, gan gynnwys rhestr o bobl claddwyd o'r elorgerbyd, 1898-1929, llyfrau bonion derbyniadau am daliadau am ddefnyddio'r elorgerbyd, 1904-47, a rhestr o tanysgrifwyr i cyweiriadau, 1935 (LlGC, Arthur Pugh). Mae'r cofnodion yn arddangos y mynwentydd defnyddwyd gan frodwyr Llangynfelyn.

Llangynfelyn hearse

The hearse records, including a list of people buried from the hearse 1898-1929, books of receipt counterfoils for payments for using the hearse 1904-47, and a list of subscribers for repairs, 1935 (NLW, Arthur Pugh). The records show the cemeteries used by the inhabitants of Llangynfelyn.

Y Rhyfel Byd Cyntaf

Mae plac efydd yn yr eglwys sy'n coffáu gwyr y plwyf a fu'n gwasanaethu yn ystod y Rhyfel Mawr; mae copi papur yn yr ysgol.

The First World War

A brass plate in the church records the men of the parish who served during the Great war. A paper copy is in the school.

Yr Ail Ryfel Byd

Mae Papurau Arthur Pugh (LlGC) yn cynnwys tair rhestr o'r rhyfel: enwau rhai o'r bechgyn a'r merched o'r plwyf a fu'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn ystod y rhyfel, a chyfranwyr i Gronfa Cysur Plwyf Llangynfelyn, 1941 a 1943. Hefyd, mae bwndel o lythyron oddi wrth y milwyr at ysgrifennydd y gronfa.

The Second World War

The Arthur Pugh papers (NLW) contain three lists from the war: names of some of the men and women of the parish who served in the armed forces during the war, and contributions to the Llangynfelyn Parish Comforts Fund 1941 and 1943. There is also a bundle of letters from the soldiers to the secretary of the fund.

Cyfeiriadau eraill.

Rhaid i bob myfyriwr ar gwrs archifau CPC Aberystwyth paratoi rhestr o ffynonellau ynglyn â hanes rhyw plwyf yng Ngheredigion. Gweler Sources for research in the parish of Llangynfelyn gan Jennifer Childs (AC).

Other references.

Each student on the archives course at UCW Aberystwyth is required to prepare a list of sources relating to the history of one of the parishes of Ceredigion. See Sources for research in the parish of Llangynfelyn by Jennifer Childs (CA).


[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]