Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records
 | 
 | 
Cyfnodolion
Periodicals



Yr Eurgrawn Wesleyaidd

Ionawr 1865

Bu farw...

Tachwedd 8 1864, Elizabeth Evans, chwaer Mr Richard Evans, Pregethwr Wesleyaidd, Tre'rddol, yn 22 oed. Dygwyd y chwaer ieuanc hon i fyny o'i mebyd yn yr eglwys, a pharhaodd yn aelod diwyd a ffyddlon hyd ddiwedd ei hoes. Dyoddefodd gystudd trwm a maith gydag amynedd mawr, a bu farw yn canu yr hen benill hwnw,
"Rwy'n penderfynu myn'd yn mlaen" etc
Gredwn fod y golled a gafodd ei brodyr a'i chwiorydd yn "elw mawr" iddi hi.

Tachwedd 18, 1864, Mr John Jenkins, Fuchesgoch, Taliesin, yn 70 oed. Efe oedd yr aelod hynaf yn ein heglwys yn Nhre'r ddol, a theimlwn ryw hiraeth am glywed ei brofiad clir yn ei ddosbarth, yr hwn ni esgeulisid byth ganddo ef. Yr oedd yn gristion da a ffyddlon. Ni chafodd gystudd o faith barhâd, ond yr oedd yn lled drwm; ond ychydig a gwynai. Bu farw fel y bu byw - yn pwyso ar ei Geidwad.

Tachwedd 19, 1864, Mr Richard Evans, Lletylwydyn, Tre'rddol, yn 79 oed. Bu yn proffesu Crist am amryw flynyddau yn ffyddlon iawn; ac yn ei gystudd diweddaf, yr hwn a ddywoddefodd yn ddirwgnach, er o faith barhâd, yr oedd yn teimlo fod Crist yn DDigon. Credwn fod marw yn elw iddo.

Ionawr 1866

Bu farw....

Medi 28 1865, yn Tre'rddol, Cylchdaith Aberystwyth, yn ddisymwth, yr hen frawd Richard Isaac, yn 77 mlwydd oed. Gadawodd yr hen frawd yma hi yn lled hwyr cyn ceisio crefydd. Fel hen long wedi myned yn ddwfn yn nhywod difaterwch, ac yn herio bob tide; ond ar spring tide y diwygiad yn 1860, symudwyd ef o'r tir peryglus, ac hwyliodd yn ddiwyd iawn am y blynyddau diweddaf, gan fynych weddio am awelon yr Ysbryd i'w hwyliau; a chyraeddodd yr hafan ddymunol yn sydyn y boreu a nodwyd, gydag ond ychydig oriau o gystudd. Marwolaeth sydyn rydd ogoniant sysdyn i'r cristion.

(Hefyd, Hydref 17 1865, Catherine Thomas, Park Gate, 62)

(Hefyd, Hydref 23 1865, Mrs Mary Jones, Goitre, 33)

Tachwedd 1866

Ar Hydref 2 1866, priodwyd yn nghapel y Wesleyaid Cymreig, Aberystwyth, gan y Parch Robert Jones(c) Mr Thomas Davies Talybont a Miss Elizabeth Thomas Tre'rddol.

"A ddau gysylltwyd heddyw'n nghyd,
Mewn glan ystad briodas;
Duw a'u bendithio ar bob pryd
A phob rhinweddol urddas,"

UN O HEOL Y PORTHDIR

Mai 1867

TRE'RDDOL. Mawrth yr 8fed, telais ymweliad â fy hen gartref, sef Tre'rddol. Ar fy nyfodiad i dŷ fy rhieni, deallais fod deiliaid yr Ysgol Sabbothol a'r Band of Hope perthynol i Weslyaid y lle yn cael treat o dê a bara brith y dydd hwnw. Am 2 o'r gloch, ymgasglodd 135 o blant, o 12eg oed i lawr, a ffurfiodd y Parch F. Gwynne orymdaith yn cael ei blaenori gan faner newydd, yn cael ei chario gan 4 o fechgyn ieuainc. Am 2 1/2, cychwynwyd dan ganu drwy Tre'rddol i Tre' Taliesin, ac yno yr oedd pont grogedig o gangenau gwyrddion wedi ei chodi, a'r arwyddion hyny arni, sef Ffydd, Gobaith, Cariad. Gan fod yr hin mor ffafriol, aed yn ymlaen mor belled a Thalybont, pentref mawr oddeutu dwy filltir o Tre'rddol. Modd bynag, yr oeddid yn ol erbyn pedwar o'r gloch. Yn yr ystafelloedd o dan y capel, yr oedd amryw foneddigesau wedi paratoi digon o dê a bara brith i'r plant.

Am 6 o'r gloch, llanwyd y capel â chynulleidfa i wrando y plant yn adrodd tua 35 o ddarnau moesol a chrefyddol. Treuliwyd tua thair awr gyda'r adrodd a chanu, etc. Yr oedd pawb yn ymddangos wrth eu bodd. Yr oedd muriay y capel wedi eu gwisgo â lleni, ac arnynt yn baentiedig, "Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiu dy ieuenctyd." "Portha fy ŵyn" "God is Love" etc etc. Fel hyn, ar ol tymor o absenoldeb, yr oedd yn hyfrydwch mawr genyf weled fy hen gyfeillion yn parhau mor ffyddlon - ofalu am yr ieuenctyd. Ewch rhagoch; y mae gwobr i'ch waith chwi. GWILYM RHAGFYR.

Mai 1867

Priodwyd: Mawrth 9, 1867, yn nghapel y Wesleyaid, Tre'rddol, gan y Parch. F Gwynne, Mr Evan Owen, Taliesin, a Miss Mary Jones, merch hynaf Mr T Jones, Postmaster, Taliesin. Gan mai hon oedd y briodas gyntaf a weinyddwyd yn y capel uchod, anrhegwyd y pâr ieuanc gan Drustees y capel â Beibl a Llyfr Hymnau o rwymiad hardd.

Rhagfyr 1868

Priodwyd: Hydref 19eg (1868) yn nghapel y Wesleyaid, Tre'rddol, gan y Parch. Robert Jones (C), Mr James Davies, â Mrs. Margaret Jones, y ddau o'r Bontgoch, Cylchdaith Aberystwyth, ac yn aelodau o'r Cyfundeb Wesleyaidd.

Medi 1869

TRE'RDDOL. Cyfarfod Plant yr Ysgol Sul.Dydd Sul, Mehefin 27ain, cynaliwyd cyfarfod enwog iawn mewn ateb, adrodd, a chanu, gan ddeiliaid yr ysgol uchod. Ceir ambell i gyfarfod tebyg i'r uchod ag y gellir dyweyd ei fod yn dda ar y cyfan ond fod rhywun wedi tori i lawr yn rhywle, neu rhywbeth wedi mynd o'i le mewn rhyw fan ; ond am y cyfarfod uchod yr oedd yn llwyddiant hollol o'r dechreu i'r diwedd, heb "ond" nac "oni bai" yn perthyn iddo. Dangoswyd chwaeth dda wrth ddewis y darnau adroddiadol, a'r pynciu, dim yn isel nac annyddorol yn eu plith ; a gwnaeth y plant eu rhan hwythau yn iawn, trwy eu dysgu a'u hadrodd yn gampus. Wrth wrando arnynt y naill ar ol y llall, yr oeddem yn teimlo tuedd i ddyweyd "Well done" yn wir, fechgyn a merched ieuainc ysgol Tre'rddol. Yr oedd y côr canu hefyd, o dan arweinid Meistri Thomas Jones, Park Gate, a Evan Owen, yn canu yn flasus a hwyliog dros ben drwy y ddau gyfarfod. Gwnaethant wasanaeth pwysig ar yr amgylchiad. Daliwch ati hi, frodyw anwyl, yn eich llafur cariad gyda'r gân a phob rhan arall o wasanaeth crefydd. Y llywyd am ddau o'r gloch oedd Mr Thomas Jones, Post Office. Er fod ei ben yn britho, mae ganddo galon ieuanc yn curo yn ei fynwes, a thaflodd ei hunan yn gwbl i ysbryd a gwaith y cyfarfod ar yr achlysur uchod, a llwyddodd yn dda odiaeth. Mr. Richard Evans, gyda'i lais swynol a'i ddull deniadol, oedd llwydd cyfarfod yr hwyr, ac ni wnaeth ei waith yn well erioed na'r tro hwn. Fel hyn cafwyd cyfarfod doodiaeth o'r dechreu i'r diwedd - pawb wedi gwneyd ei waith yn iawn, a phawb wrth ei fodd.

1869, tud 393

Bu farw, Chwefror y 7fed 1869, yn 84 mlwydd oed, William Davies, Rhymni (gynt o Taliesin, Swydd Aberteifi). Bu yn aelod ffyddlon gyda'r Methodistiaid Wesleyaidd am dros hanner can mlynedd, a bu ei dŷ yn Cwm Shon Fathew yn lloches i'r eglwys sydd yn awr yn Pontlottyn am y cyfnod o ddwy flynedd...a nifer o fanylion eraill

Hefyd, Gorphennaf y 3ydd, yn 83 mlwydd oed, Margaret Davies, Rhymni, gynt o Taliesin...a nifer o fanylion eraill.

1870, tud 348

Bu farw, ar Mehefin yr 8fed, yn 10 mlwydd oed, John, mab y diweddar Lewis Williams, Miner, Taliesin. Cafodd yntau yr inflamation a ni pharhaodd ei gystudd ef ond am ddau ddiwrnod. Yr oedd John bach yn fwy tawel na phlant yn gyffredin, ac yn aelod o'r Band of Hope a'r Ysgol Sul. Byddai yn hoffi siarad, er nad oedd ond ieuanc, am grefydd, y capel, a phregethu. Dywedai cyn marw "ei fod yn meddwl y cai fyned at Iesu Grist i'r nefoedd;" a diameu fod yr hwn a ddywedodd, "mai eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nef," wedi ei dderbyn ato ei hun.

"He is not lost, but gone before."

Dydd Sadwrn canlynol, hebryngwyd ei weddillion marwol i fynwent y Llan. Gweinyddwyd wrth y tŷ gan y Parch. D Young.

TEGFRYN

Gorphenhaf 1877

Bu farw, yn 85 mlwydd oed, Mr David Davies, Hatter, Tre'rddol. Ychydig wythnosau oedd er pan ymunodd â chrefydd, ac yr oedd arwyddion amlwg arno ei fod yn ciesio gwlad nefol. Brodor oedd o Bencareg, ger Llanbedr, Ceredigion.

Hydref 1880

Bu farw, Awst 4, yn Taliesin, Mrs Sarah Jones, anwyl briod Mr Thomas Jones, Post Office, yn 67 mlwydd oed. Cafodd ei dwyn i fyny yn grefyddol o'i babandod yn Mynydd-bach, cylchdaith Pontrhydgroes, a bu yn aelod ffyddlon yn Tre'rddol am uwchlaw 42 mlynedd. Bu farw fel y bu fyw, yn pwyso ar ei Cheidwad. Claddwyd hi ar y 7fed yn mynwent Llancynfelin.


[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]