|
TUA haner y ffordd rhwng trefi Machyn-leth ac Aberystwyth, yn mhlwyf Llan-gynfelyn, yn Swydd Aberteifi, y mae treflan fechan ddestlus o’r enw uchod. Fel yr arwydda yr enw, saif ar ddoldir prydferth, yn cael ei haddurno gan lanerch goediog ar un ochr, a’i chysgodi gan fynydd yr ochr arall iddi.
Yr ydwyf wedi cael achlysur i gyfeirio droion at daith bregethwrol a gymerodd Mr. Jones, Bathafarn, a Mr. W. Parry, Llandegai, yn Hydref 1804, drwy ranau o Siroedd Meirion, Maldwyn, ac Aberteifi ; a thaith ryfeddol oedd hi, yn y llwyddiant a ddylynodd y Cenadon, a’r dylanwad nerthol a ddylynodd eu cenadwri. Agorwyd o’u blaenau "ddrws mawr a llydan" mewn llawer ardal, cuddiwyd yr hedyn mwstard gan eu dwylaw y pryd hwnw mewn llawer lle, ac y mae erbyn heddyw wedi dyfod yn bren mawr. "Aethent allan ac a bregethasant yn mhob man, a’r Arglwydd yn cydweithio ac yn cadarnhau y gair trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn." Ar y daith hono aethant i Machynlleth, a phregethasant yno. Yr oedd gan Mr. Hugh Rowlands, Tre’rddol, achos i fod yn y dref ar y pryd, ac wedi clywed fod yno "ddau o bregethwyr y sect newydd" i bregethu, cymerodd ei arwain gan ei gywreinrwydd i’r fan lle yr oeddent, er clywed beth oedd ganddynt i’w ddywedyd. Ni bu yn gwrando yn hir nes teimlo argyhoeddiad yn ei feddwl eu bod yn dywedyd y gwirioneddau ag yr oedd ef a phob pechadur byw ar y ddaer yn sefyll mewn angen amdanynt. Iachawdwriaeth rad, bresenol, gyflawn, a digonol ar gyfer pob dyn oedd baich y genadwri a draddodent. Ar ddiwedd yr oedfa, ymwthiodd Mr. Rowlands drwy’r dyrfa, a rhoddodd iddynt wahoddiad taer a chynhes i fyned i Dre’rddol. Yr oedd yn dda ganddynt gael y cyfleustra i hyny, ac felly yn eithaf dibetrus addawsant fyned. Cawsant dderbyniad croesawus gan Mr. Rowlands, a chawsant gynlulleidfa i’w gwrando, pan yn sefyll wrth ysgubor oedd gerllaw y bont, i bregethu gair yr iachawdwriaeth. Ar ol yr oedfa, aethant yn mlaen i Aberystwyth, lle y cyfarfyddasant â Meistri O. Davies a Bryan, fel y nodwyd yn y "Drem" ar Aberystwyth. (Gwel Eur. Ion. 1865, tudal. 28) Y Cenadwr nesaf a daiodd ymweliad â’r lle, a hyny yn lled fuan ar ol Meistri Jones a Parry, oedd Mr. John Morris. Yr oedd nerth neillduol yn ei weinidogaeth fygythiol. Yr oedd son am Mr. Morris fel y "pregethwr taranllyd" wedi cyraedd o’i flaen, ac ymgasglodd tyrfa fawr iawn i’r lle i wrando. Yr oedd y pregethwr wedi cael y dyrfa i’w law; arweiniodd hwy i gyrion Sinai, ac yno gwelsant y mynydd yn mygu, y mellt yn fflachio, y dymestl yn cryfhau, nes yr aeth yn derfysg ar lawer meddwl, braw a dychryn a’u daliodd, ac yn eu dychryn trôdd llawer o annuwiolion y gynulleidfa allan i lefain, "Pa beth a wnawn fel y byddom cadwedig ?"
Heb fod yn mhell o Tre’rddol mae pentref arall, Talybont; ac yn y cyfnod boreuol y cyfeirir ato, pregethwyd llawer yno. Byddai yr oedfa yn cael ei chynal dan gysgod hen goeden fawr frigog, oedd yn lled agos i dŷ "Sion-y-gof," yn nhŷ yr hwn y cynaliwyd y gymdeithas grefyddol gyntaf yn yr ardal. Yn y fan hono yr ymunodd Mr. Humphrey Jones, Ynys-y-capel, tad y Parch. Humphrey Jones, 2il, â’r gymdeithas, yr hwn hefyd oedd y blaenor cyntaf a benodwyd i ofalu am y ddiadell fechan yn y lle. Tua’r un cyfnod yr ymunodd William Madyn, Tan-y-graig ; William Arter, Borth ; David Francis, Tre’rddol ; Lewis Hughes, a llawer eraill nad yw eu henwau genyf wrth law yn awr. Wedi bod am amser yn cynal y moddion yno, gwelwyd nas gellid cadw Talybont a Tre’rddol yn mlaen, a thrwy fod y lle olaf yn casglu mwy o nerth, rhoddwyd Talybont i fyny, a sefydlwyd yr achos yn Tre’rddol. Yr oedd yr addoliadau yn cael eu cynal yn nhŷ Thomas Price, yr hwn a’i gwnaeth mor gyfleus ag y gallasai fel lle i addoli ynddo. Hen frawd ffyddlon iawn oedd Thomas Price, a gadawodd blant ac ŵyrion ar ei ol yn llawn o’r un ysbryd ag oedd ynddo ef ei hun. Y gŵr a benodwyd yn flaenor yno oedd Lewis Hughes, yr hwn am dymor a ddygodd fawr sêl dros yr achos, ac a safodd yn ddewr drosto yn yr adeg yr oedd crefyddwyr ereill yn gwawdio ac yn erlid Wesleyaid. Fel y cynyddai yr achos, gwelwyd fod tŷ Thomas Price yn myned yn rhy fychan i gynal y bobl oedd yn ymgasglu i wrando gair y bywyd, fel ag y daeth yn hynod o annghyfleus. Y gŵyn gyffredin ydoedd am le mwy a gwell i addoli ynddo. Yr oedd yn Dolcletwr, ffarmdŷ adnabyddus yn yr ardal, a lle o gryn enwogrwydd amser yn ol, foneddwr yn byw, William C. Gilbertson, Ysw., yr hwn oedd yn perchenogi cryn lawer o dir yn Tre’rddol, a phenderfynwyd gwneyd cais arno ef am dir i adeiladu capel arno. Ac erbyn deall, yr oedd ef wedi bod yn aelod gyda’r Wesleyaid yn Lloegr, ac yn parhau yn gyfaill cynhes i’r achos. Ar ol i’r cyfeillion osod eu cais o’i flaen, efe a gydsyniodd yn rhwydd i roi Lease iddynt am 50 mlynedd ar ddarn o dir digon i adeiladu capel arno am ddeg swllt o ardreth flynyddol Yr ymddiriedolwyr oeddent Meistri Richard Rowlands, Henavon ; David Francis, Tre’rddol ; John Williams, Llwynglasbach ; a Morris Evans, Ynysfach. Adeiladwyd capel ar y tir yn ddiymdroi, ac agorwyd ef rywbryd yn y flwyddyn 1809. Y gŵrdyeithr a wasanaethodd ar yr achlysur ydoedd Mr. Griffith Owen, Llangybi. Yr oedd ei weinidogaeth yn ysgwyd y dyrfa o benhwygilydd ; ei lais mawr soniarus, ei ymddangosiad prydweddol, boneddigaidd, a’i ffraeth ddywediadau cynhyrfus oeddent yn effeichio ar y bobl yn annghyffredin iawn. Y blaenor yn y capel newydd oedd David Francis, yr hwn a fu yn ffyddlon a gweithgar am flynyddoedd, a hyny mewn amser pan oedd yr eglwys yn wan, a bechan ei rhif. Cyfarfyddodd â’i ddiwedd yn annysgwyliadwy. Yr oedd ar gwch oedd yn cludo ceryg calch drosodd o Aberdovey i Dre’rddol. Cododd yn dymestl ar yr afon a boddodd. Parodd yr amgylchiad drallod dwfn i lawer, a drwg genyf chwanegu fod gelynion yr achos yn dangos arwyddion o lawenydd fod "pen dyn y Wesleys wedi boddi." Hon ddywediad gwir yw, fod yr Arglwydd yn gallu claddu ei weithwyr, a dwyn yn mlaen ei waith. Profodd felly yn yr amgylchiad a nodwyd. Ymunodd Mr. Evan Evans â’r achos, ac aeth Mr. James Jones adref o’r gogledd i Dre’rddol, yr hwn hefyd oedd yn bregethwr, ac yn dwyn sêl fawr dros lwyddiant yr achos yn ei le genedigol. Drwy gydymdrechion fel hyn daeth gwedd lewyrchus ar yr achos. Ymunodd llawer o bobl ieuainc â’r gymdeithas, chwanegwyd cryn lawer at y gwrandawyr, fel ag yr aeth y capel yn rhy fychan i’w cynal. Heblaw hyny, yr oedd y lease yn tynu at derfyn ei hamser, yr hen ymddiriedolwyr oddieithr Mr. R. Rowlands wedi marw, a chryn swm o hen ddyled y capel yn aros heb ei thalu. Yr oedd hyn yn rhwystr i symud mor fuan ac effeithiol ag y buasai y cyfeillion yn dymuno. Pederfynu ymgystadlu â’u hanhawsderau a wnaethant er hyny. Unodd Meistri Humphrey Jones, W. Thomas, Evan Evans, a James Jones i brynu Goetrefach. Cymerodd hyny le yn 1839, blwyddyn y ganrif Wesleyaidd a chodwyd arian ar y capel, ac aethant yn mlaen yn weddol gysurus am beth amser drachefn. Yn 1842, penodwyd yr ail bregethwr ar gylchdaith Aberystwyth, sef Mr. Thomas Jones, 3ydd, gydlafurwr i’r Parch. Griffith Hughes, a’r ddwy flynedd ganlynol i’r Parch. Humphrey Jones, 2il. Profodd yn blynyddoedd hyny yn rhai tra llwyddianus. Nis gallai y bobl ar lawer adeg ymwthio i’r capel, a’r gwyn gyffredin ac uchel oedd, "Paham na chawn ni gapel newydd ?" tra yr oedd ereill yn ofni y draul, a’r ymddiriedolwyr yn ystyried fod dyled yr hen yn llawn ddigon i’w dwyn.
Pan oedd pethau yn sefyll yn y cyflwr hwn, galwodd y Parch. T. Jones gyfarfod o ymddiriedolwyr a chyfeillion yr achos, ac ar ol ceisio rhesymu rhai ohonynt i’w olygiadau ei hun a methu, rhoddodd ben arni drwy ddyweyd, " Wel, os na dde’wch chwi allan o blaid cael capel newydd, fe gewch chwi aros dan faich yr hen, a ninau a fynwn gapel newydd. Rhoddodd hyny derfyn ar y ddadl a daeth pawb yn lled unfryd am gapel newydd. Cael tir i adeiladu oedd y pwnc nesaf. Buont am dymor yn methu â boddloni eu hunain ar hyn. Yr oedd gan y Parch. Humphrey Jones a’i dad ffarm wedi ei phrynu gerllaw y pentref, a chawsant o hono ddigon o le am £10 i adeiladu capel a chael mynwent, a dychwelwyd £5 yn ol at y capel newydd. Yr oedd y capel hwn yn mesur 36 troedfodd wrth 30, a chafodd ei orphen yn dda. Ei ymddiriedolwyr oeddent y Parchn. Humphrey Jones, Thomas Jones, 3ydd, a Meistri James Jones, Goetrefach ; Hugh Jones, Evan Evans, W, Thomas, Thomas Jones, W. Jones, David Morgan, ac Evan Jones, Llanerch. Costiodd y capel a’r tŷ £350, heblaw y £40 oedd ar yr hen gapel. Cafodd y capel ei agor Mai 1af, 1845. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. T. Jones, D. D. R. Jones (A), a Meistri John Jones, Llanwyddyn, a David Davies, Llangurig.
Yn y flwyddyn 1858, cafwyd adfywiad gwerthfawr ar grefyddd yn y lle a ymledodd i fesur dros y wlad. Yn y cyfnod hwnw yr oedd cyfarfodydd gweddiau yn hynod boblogaidd. Yr oedd y bobl ieuanc yn neillduol o selog drostynt—y meibion wrthynt eu hunain, a’r merched ieuainc wrthynt eu hunain, a’r oll yn ymbil am drugaredd iddynt eu hunain, ac i’w cyfoedion annychweledig. Bu dyfodiad merch ieuanc rinweddol, ddawnus, a selog, i’r wlad i aneddu, yn yr amser hwnw, yn fendithiol iawn i ferched ieuainc y gynulleidfa, gan ei bod yn eu harwain â’i gweddiau, ac yn eu cefnogi â’i siamplau, i ddysgwyl yn unig wrth yr Arglwydd drwy iawn y groes am iachawdwriaeth i’w heneidiau. Chwanegwyd rhif yr aelodau o 60 i 120 yn y tymor hwnw.
Yn 1861, penodwyd ail weinidog Cylchdaith Aberystwyth i aneddu yn Tre’rddol. Profodd y penodiad hwnw yn fendithiol i’r achos yn y lle. Bu llafur y brodyr ieuainc a fu yno y naill ar ol y llall yn dderbyniol iawn. Yr oeddent yn meddu ar gyfaddasrwydd i’r lle a’r bobl ; a phan yn ymadael â’r gylchdaith, yr oeddent yn cael yr hyfrydwch o weled amgylchiadau yr achos yn fwy llewyrchus na phan yn myned yno. Yn 1864, helaethwyd y capel trwy chwanegu darn braf ato, fel y mae yn nawr yn gapel enwog iawn. Cafodd gŵyl ei ail-agoriad ei hynodi drwy i gyfarfod Cyllidol y Dalaeth gael ei gynal yno. Yr oedd hwnw yn gyfarfod mewn llawer ystyr na bu yn sir Aberteifi ei ragorach. Dywedir fod rhif y gwrandawyr ddiwrnod y pregethu oddeutu tair mil, ac yr oedd arddeliad y nef mewn modd neillduol ac amlwg ar y moddion. Yn ol ein rheolau dylasai Cylchdaith Aberystwyth fod yn cynal yr ail deulu er’s blynyddau bellach ; a pheth od fod cylchdaith mor barchus yn cael llonydd mor hir heb wneyd hyny. Modd bynag, ar bod yn alluog i wneyd teulu yn gysurus pan eu penodir, mae cyfeillion Tre’rddol wedi gwneyd eu rhan tuag at hyny, drwy adeiladu tŷ braf ar ei gyfer. Prynwyd tir y tŷ gan Syr Pryse Pryse am £45, a chostiodd £350 ; a thrwy ddyfal ymdrech a haelioni y cyfeillion, mae y rhai hyny wedi eu talu oddieithr y swm sydd ddyledus i Drysorfa Fenthycol y Dalaeth.
Mae rhifedi lluosog o’r ben bererinion a fu yn gweithi ; gyda’r achos yn Tre’rddol wedi eu cymery i oddiwrth eu gwaith at eu gwobr, megys William Thomas, y Gof ; Evan Davies, W. Jones, Llanerch ; Richd. Morgan, Charles Jones, Humphrey Jones, Ynys-y-capel, Joel Joel, a llawer ereill nas gallaf eu henwi yn awr.
Y pregethwyr a gododd o’r eglwys hon oeddent Meistri Humphrey Jones, James Jones, William Herbert, Richard Hughes ac Evan Lewis, yr hwn a aeth yn weinidog i’r Cilgwyn.
Ymddiriedolwyr presenol y capel ydynt y Parchn. James Jones, Thomas Thomas (A), Meistri Owens, Dolcletwr ; Capt. R. Joel, David Jones, James Jones Tŷ-mawr ; Thos. Rees, David Williams, Wm. Thomas, Richard Evans, Thomas Jones, John Davies, Richard Thomas, Wm. James, oll o Dre’rddol.
Y Blaenoriaid ydynt Meistri T. Jones, R. Evans, D. Jones, R. Thomas, L. Edwards, a J. Davies. Enw y capel yw SOAR. "Brysia, dianc yno." (Gen. xix. 22.)
"Dianc wnaethym o Sodoma,
Ar y gwastad ’rwyf yn byw,
Gwedi cefnu ar Gomorra,
Ac yn ffoi ar air fy Nuw." Amen.
LOT HUGHES,Caerlleon.
Cwestiynau? Sylwadau? Beth ydych chi'n meddwl am y tudalen hwn a gweddill y wefan? Dywedwch yn y llyfr ymwelwyr. Questions? Comments? What do you think about this page and the rest of the site? Tell us in the guest book. |