Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records
 | 
 | 
Enwogion y Plwyf
Parish Notables




Deio ap Ieuan Ddu, Bardd

 

Deio ap Ieuan Ddu, Poet

Mae'n debyg y ganwyd y bardd Deio ap Ieuan Ddu, a flodeuodd yn y 15eg ganrif, ym mlwyf Llangynfelyn. Dyma ddau erthygl amdano ac un o'i gerddi. Mae erthygl arall a dau gerdd ychwanegol yn Meyrick's Cardiganshire.

 

It is likely that the poet Deio ap Ieuan Ddu, who flourished in the 15th century was born in the parish. Here are a couple of articles about him and one of his poems. There is another article and two more of his poems in Meyrick's Cardiganshire.

Enwogion Sir Aberteifi

Deio ab Ieuan Ddu, ydoedd fardd genedigol o blwyf Llancynfelyn, ac yn blodeuo rhwng 1460 a 1500. Mae awdl i Foredydd ab Llywelyn o Uwch Aeron o’i eiddo, a chywydd i Ddafydd ab Tomos o Is Aeron, i’w gweled yn Meyrick’s Cardiganshire. Y mae y llinell gyntaf o wyth côn ar hugain o’i eiddo yn Ngreal Llundain, am 1807. Canodd hefyd Awdl y Caws, o’r hon y mae amryw gopïau ar gael. Yr achlysur o'i chyfansoddi, meddir, sydd fel y canlyn: - Clywsai ganmoliaeth uchel gan rywun i Madawg, Abad Enlli, am ei haelioni; ac ar hynny, canodd yntau iddo awdl o folawd, a chan logi cwch, cychwynodd un diwrnod tua’r ynys hono, ar fedr cyflwyno y gân yn bersonol i’r Abad. Ond yn lle y croesawiad a’r moethau a ddysgwyliasai gael, ni roddwyd o’i flaen ond ychydig fara a chaws, a llaeth enwyn; ac felly, yn lle yr awdl o folawd a ddarparasai, efe a ganodd iddo gerdd duchan, dan yr enw, Awdl y Caws.

G. Jones (‘Glan Menai’), Enwogion Sir Aberteifi (1868), 32

Enwogion Ceredigion

Deio ab Ieuan ddu ydoedd enedigol o blwyf Llanfihangel y Creuddyn. Yr oedd yn ei flodau yn y rhan olaf o’r pymthegfed canrif. Y mae yn ein meddiant hen gywydd a adysgrifiwyd o’r Gronfa Brydeinig er ys tua thair blynedd yn ol, yr hon sydd yn rhoddi hanes bywyd y bardd yn well na dim ag sydd mewn cof a chadw.

“Cywydd y clera yng Ngheredigion.”

Y sir oll a fesuraf
O Deifi i Ddyfi ’dd af;
O Dywyn ac o’r glyn floew
Y treiglaf i’m gwlad tragloew;
Profi achoedd prif uchel,
Ac ar dwf y gwr y dêl;
Dechreu o ddeheu ydd wyf,
Y Sirwern gwlad ni sorwyf:
Hil Rhys melus y molaf,
Tewdwr o Ddinefwr naf:
Galw llwyth Einion Gwilym,
Y sy raid yn y sir ym’.
Oddi yno mae f’eiddunoed,
Dros y Cwm i dir Is Coed;
Ym mlith llin Rhys chwith ni chaid
Ond aur gan benaduriaid;
Clawr rhif y gwr digrifion,
Coed y maes yw cyd y Mon;
Agos yw Caerwedros ym’,
Dros y ddeheuros hoewrym.
Dyfod at waith Llwyd Dafydd,
Da fan gan bob dyn a fydd;
Doniog i ni fod myn Deiniol
Yn fardd i hil Llywelyn Foel!
Trown yno trwy Wynionydd,
Clera difeita da fydd;
Llwyth Dafydd Gwynionydd gân,
Hael faich o Hywel Fychan;
Pob rhyw [wr] pybyr eiriau,
O Ddinawal a dâl dau.
Oddi yno deffro’r dyffryn
Rhwyfo’r glod rhof ar y glyn,
Pob man o’r glyn a blanwyd,
Pob ffin a llin Ieuan Llwyd;
Dyfod at wyrion Dafydd
Tros y rhos, wttreswr rhydd;
Dilyn y man y delwyf,
Pobl Weithfoed erioed yr wyf:
Mawr a wnaf, myn Mair a Non!
O Benardd a Mabwynion,
I riniog oludog wledd,
Mi af yno, mae f’ annedd:
Hil y Caplan, oedd lanaf,
Gwir iawn, ei garu a wnaf.
Troi f’ wyneb traw i fynydd,
Drwy y sir o dre y sydd;
Amlwg yw hil Gadwgon,
O waelod hardd y wlad hon.
Goreu ceraint gwr carawg
A llyn fydd rhyngddyn’ y rhawg.
Digrifion myn Duw grofwy,
Doethion a haelion n’ hwy,
Câr iddynt wyf o’r Creuddyn,
Llyna haid o’i llin i hyn;
Llinach Llywelyn Ychan
Y maent hwy oll, myn y tân.
Enwau y cwmmwd einym’
Perfedd hyd Wynedd, da ym’:
Llawdden oedd y gwarden gynt
Hil Llawden hael oll oeddynt.
Achau y cwmmwd uchod,
Geneu’r Glyn lle gana’r glod;
Moli hil Gynfyn Moelawr,
Ydd wyf fi, ac Adda Fawr.
Llyna hwy wrth y llinyn,
Achau’r holl gymmydau hyn:
Ufudd a dedwydd da iawn,
A mawr agos môr eigiawn;
Troi’n eu mysg trwy ddysg ydd wyf,
Tros y wlad trasol ydwyf.
Ni chawn, myn Duw a Chynin!
Dy bach o’r Deheu heb win.
Llawen fyddai gwên pob gwr
Wrth Ddeio gymmhorthäwr;
Rhai dibwyll aur a dybia
Na chenid dim ond chwant da,
Cariad y ddeheu-wlad hon,
Rhai a’i haeddodd â rhoddion.
Lle mager yr aderyn,
Yno trig, natur yw hyn;
Minnau o’r Deau nid af;
Ar eu hyder y rhodiaf.
“Deio ab Ieuan Ddu”

Ni a welwn wrth y cywydd uchod, mai wrth glera o fan i fan ar hyd a palasau a thai cyfoethogion y wlad yr oedd y bardd yn byw. Dyna oedd dull llawer iawn o’r beirdd yn y cynoesoedd. Yr oedd Lewis Glyn Cothi, yr hwn oedd gydoesydd â’r bardd, yn clera yn barhäus o fan i fan, gan grwydro o’r Deheudir i’r Gogledd, gan gael croesaw mawr gan y boneddigion. Yr oedd y beirdd wrth glera yn cyfansoddi caniadau o glod i’r boneddigion lle yr oeddynt yn ymweled, gan gyfrif acgau a gorchestion eu hynafiaid. Y mae y bardd hwn, yn y cywydd a ddyfynwyd, yn olrhain llawer iawn o achau y boneddigion. Y mae yn dechreu yn y Tywyn, ym mlwyf y Ferwig, gan goffa Einion Gwilym, Arglwydd y Tywyn, sylfaenydd y palas hwnw; ac yr oedd yn nai, fab cyfnither, i’r bardd Dafydd ab Gwilym. Y mae Cadifor ab Dinawol, sylfaenydd Castell Hywel, yn cael ei goffa yma. Y mae hefyd Gweithfoed Fawr yn cael ei goffa, o’r hwn y mae teulu uchel y Gogerddan yn hanu. Y mae teuluoedd Coedmor a Gilfachwen Uchaf yn hanu o Gadwgan ab Bleddyn. Wrth y Llawdden yn y cywydd, y mae i ni ddeall, Llawdden, Arglwydd Uwch Aeron, yr hwn oedd yn ei flodau tuag amser Llywelyn ab Gruffydd. Ond yr anffawd waethaf wrth glera a gafodd y bardd hwn, oedd ei siomedigaeth ar ei ymweliad ag Ynys Enlli. Yr oedd wedi clywed mai gwr hael iawn ar ei fwyd a’i ddiod oedd Madawg, Abad Enlli, ac felly cyfansoddodd gân o glod iddo, gan ddysgwyl cael derbyniad caredig yn llys yr Abad yn Enlli; ond yn lle hyny, bara briglwyd, caws cnap, ac enwyn sur a gafodd y bardd! Yn chwerwder y siom, canodd gerdd oganllyd i’r abad, yn cyfodli â chaws drwyddi. Rhydd Meyrick, yn ei hanes o Geredigion, ddwy awdl o’i eiddo, sef un i Dafydd Tomos o Is Aeron, i ddiolch am ba un; ac un arall i Feredydd ab Llywelyn o Uch Aeron.

Benjamin Williams (‘Gwynionydd’), Enwogion Ceredigion (1869), 55-8


[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]