|
Prynhawn y Sul cyntaf o Fedi yn y flwyddyn 1896, ar gyfer oedfa ddau, yr
ymwelais i gyntaf â Solfach, a chan na wyddwn ddim am y lle, pryderais beth ar y
daith ynglŷn â tharo ar y capel. Ond ar flaen uchaf y pentref hirgul
cyfarfûm â hen wr tal â rhimyn o farf wen tan ei ên o glust i glust. Yr oedd
mewn gwisg drom a llac, ac o "liw rhyfedd", fel y dywaid Daniel Owen am glogyn
Nansi'r Nant. Gofynnais a fyddai cystal â dangos imi gapel y Wesleaid. "O, ho, fachgen bach," meddai ef, " y fi sy'n mynd â chi i gapel
Wesle". Trodd yn sydyn a symud yn gyflym, a'i ben yn ymestyn ryw droedfedd o
flaen ei draed. Wedi cyrraedd y capel, gofynnais, "Pwy ydych chwi, 'mod i mor hy
â gofyn?" "Y fi, O, ho, fachgen bach, y fi ydi Caligan ; 'rw i'n nabod pob pregethwr - y
Doctor Thomas Jones a Mr. Delta Davies a phawb" Bu Caligan ym mhob oedfa yn y capel bach ar hyd y flwyddyn y bûm i yn yr
ardal, ac am rai blynyddoedd wedyn, a phan gaewyd y drws am byth, ef oedd yr
olaf i fyned trwyddo. A phwy oedd Caligan ? O ba le y cafodd ei enw - nid Cymraeg mohono ? Cyn hir
caed yr hanes. Ychydig dros gan mlynedd yn. ôl bellach, chwaraeai nifer o blant
ar lan yr afon fach a red trwy waelod y pentref, ac a elwir Afon Solfach.
Oherwydd glaw trwm y nos gynt yr oedd lli 'r afon yn fwy nag arfer y diwrnod
hwnnw, ac yn hwyl y chwarae syrthiodd un o'r plant, - hogyn deallus, byw a
direidus, pum mlwydd oed, - i'r afon, a chludwyd ef beth ffordd gan y lli. Yn y
munudau hynny digwyddodd i feddwl yr hogyn rywbeth anesboniadwy. Yr hen ŵr Caligan oedd y plentyn bach hwnnw. Yr oedd yn awr yn tynnu
at ddeg a thrigain oed, a'i feddwl o hyd yn aros yn bum mlwydd. Fel dyn nid oedd
yn " llawn llathen ", eithr fel plentyn yr oedd yn gyflawn. Nid oedd ei ddiffyg
namyn diffyg planhigyn heb orffen tyfu. Plentyn - plentyn pum mlwydd - a fu Caligan
am y pedwar ugain mlynedd y bu ar y ddaear. Gwyddel a gefnodd ar ei gartref ydoedd ei dad, ac ni ddychwelodd byth.
Cymraes oedd ei fam a fu farw'n ieuanc. Bu yn hir, hir, yn marw ; methai ag
ymollwng gan bryder ynghylch ei hunig fab bach. Gwyddai mai plentyn pum mlwydd a
fyddai hyd ei fedd. Gwlychodd ei gobennydd â'i dagrau, a phan gaeodd ei llygaid
yn y glyn, yr oedd gwlith ar ei hamrannau. Gwelodd Duw y dagrau, a chymerodd y
mab bach i'w ofal, a gwnaeth ardal gyfan yn dad ac yn fam iddo.Wedi marw Sian
Fach, ei fodryb, nid oedd berthynas i Caligan yn yr holl fyd, ond agorodd y
pentref ei freichiau i'w dderbyn, a mynwesodd ef yn dyner a gofalus. Teimlai
pawb fod Caligan yn perthyn iddynt ; plentyn y pentref ydoedd, a pharhaodd felly
hyd ei farw. Chwarddai Solfach tros y wlad o weled ei droeon plentynnaidd a
diniwed. Peth hynod a digrif ydoedd gweled plentyn pum mlwydd mewn dyn mawr, ac
wedyn mewn hen ŵr ; chwarddai pawb, eithr gwae y sawl a amcanai gam
iddo. Derbyniai cenhedlaeth newydd o blant ef i'w plith fel un ohonynt hwy, a
phan dyfent a'i adael, teimlent rwymedigaeth y pentref iddo, a deuai fel byw eu
llygaid. Nid oedd yn y sir i gyd neb diogelach na Chaligan. "Pwy bynnag a'i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw y mwyaf yn
nheymas nefoedd," medd yr Athro dwyfol. Ni pheidiodd Caligan â bod y bachgennyn
hwnnw. Ataliwyd datblygiad ei feddwl cyn tyfu ohono i fyd drygau fel anwiredd ac
anonestrwydd a diogi. Ni wn pa enw i'w roddi ar y pethau hyn ynddo. Nid
rhinweddau moesol mohonynt, oblegid ni ddibynnent ar ei ewyllys ef. Nid adnabu
gelwydd nac anonestrwydd na diogi, ac ni pheidiodd a bod "y bachgennyn hwn ".
Methodd gyrraedd y dibyn o'r lle y mae cwymp yn bosibi. Ni ddywedai gelwydd pes telid. Profwyd ef amryw droeon. Dywaid Mr. Henry W.
Evans, Y.H., F.R.A.S., - un a'i hadnabu cystal â neb, a'i barch iddo'n parhau'n
fawr - i nifer o fechgyn y pentref geisio'i demtio i gelwydd unwaith. A hwy yn
gwybod am hoffter yr hen ŵr o felysion a phethau eraill plant,
"Caligan", ebe hwy, "os ewch chi at A.B. a dweud wrtho fod C.D. yn taenu ar led
fel ar fel (stori gelwydd) amdano, chi gewch chwe cheiniog". "O, ho, fechgyn bach," atebai Caligan, " 'd oes dim eisie dweud peth fel 'na
am bobol ". "Dyma i chi swilt, Caligan, digon i brynu melysion am fis cyfan." " Na, na, 'ddweda i ddim pethe drwg am bobol." Er mor hoff ydoedd yr hen wr o felysion, methwyd â'i hudo. Yr oedd ei wefus
yn bur, ac ymddiriedai pawb yn ei air. Yr oedd ei onestrwydd hefyd yn ddifeth.
Rhoddai pobl yn ei law, fel negesydd, aur ac arian lawer, ac ni chaed erioed
wall ynddo. Plentyn pum mlwydd ydoedd, nad adnabu o gwbl gelwydd ac
anonestrwydd. Nid byw fel ynfytyn dibwrpas a segur a wnaeth, eithr gweithiodd yn galed a
diseibiant ar hyd ei oes. Ei brif waith am lawer o flynyddoedd ydoedd cludo glo
mân i'r pentrefwyr. Tuag wyth milltir o Solfach, gerllaw Castell y Gam, y mae
gwaith glo carreg, a elwir ar lafar gwlad, Gwaith Glo Cwlwm, ac o hwn y ceid glo
mân i weithio cynnud neu " belau ". Cyrchid clai o weunydd cyfagos a chymysgid
ef â'r glo mân. Gwnâi'r pelau dân glân a gloyw a di-fwg, a llosgai tanllwyth am
oriau onid aflonyddid amo, eithr os ymyrrid ag ef fel y gwneir â glo digymysg, a
digiai a maluriai a diffoddai. Cadwai amryw deuluoedd asynnod i gludo'r glo, a
gosodid hwy tan ofal Caligan. Gyrrai yntau o ddeuddeg i ugain o'r asynnod i'r
lofa, a gosodai bwn o'r glo ar gefn pob un, a dychwelyd. Bu'r hen frawd mewn
helynt mawr gyda'r asynnod barus ddegau o weithiau ar y daith i'r lofa, ac ar y
daith adref fe'i cedwid yn brysur yn codi'r pynnau a syrthiai oddi ar gefnau'r
asynnod. Diau mai'r llafur caled hwn a barodd iddo wargrymu cymaint yn ei hen
ddyddiau. Ei dâl am y llafur a'r gofal ydoedd ceiniog yr asyn. Ataliesid gwaith
yn y lofa fach, a daethai galwedigaeth Caligan fel gofalwr a gyrrwr i ben
ychydig o flynyddoedd cyn i mi ei adnabod, ond parhaodd ef i feddwl yn uchel o'i
swydd, a rhoddes orchymyn i'r saer pan ddeuai galw arno i wneuthur ei arch am
ofalu rhoddi ar y caead y geiriau, " Edward Callaghan, derfyn ei waith fel ' Coal Merchant Bach ' hyd derfyn ei oes, bu yn negesydd
y pentref. Ymddiriedai pawb ynddo, a gwnâi yntau'r negesau â difrifwch ac ynni
meddwl plentyn pum mlwydd. Hen gorff, tros ddeg a thrigain, ac asbri hogyn bach
yn ei ysgogi'n ddiarbed. Ni wybu beth oedd diogi ; mynd, a mynd, fel plentyn, o
fore gwyn hyd nos, ac ar derfyn dydd, fel plentyn eilwaith, syrthio i gwsg dwfn
a difreuddwyd. Gwyddai Caligan ddau emyn, neu'n hytrach, emyn a chân ; emyn mawr Robert ap
Gwilym Ddu :- " Mae'r gwaed a redodd ar y groes a chân gasglu calennig ; pethau a ddysgodd ei fam iddo cyn damwain yr afon.
Canodd lawer ar y rhain ar hyd ei oes. Parhaodd i gasglu calennig hyd y diwedd,
a chasglu fel y cesglid pan oedd ef yn blentyn. Y mae pentref Solfach yn anghysbell ac anhysathr, heb glywed sŵn
trên erioed, ac yn ymestyn fel petai'n awyddu ffoi i'r môr mawr rhag i ferw a
sŵn y byd o'i ôl yn y pellter ei oddiweddyd. Sieryd y plant heddiw
Gymraeg llyfn a swynol Penfro oesoedd yn ôl, ac ymdry hen arferion yno'n hir
wedi eu marw ym mharthau eraill Cymru. Yn nyddiau bore Caligan, arferid hela'r
Dryw a'i gludo mewn tŷ bach o risgl y derw o ddrws i ddrws wrth gasglu
calennig ddyddiau'r Nadolig a'r Calan. Parhaodd Caligan yr hen arfer hyd ddiwedd
ei oes ; bu byw arferion ei bum mlwydd cyntaf am bedwar ugain mlynedd. Tŷ bach, rhyw ddeunaw modfedd o hyd ac wyth modfedd o uchder a dwy
ffenestr fach a drws rhyngddynt, wedi ei wneuthur o risgl y derw a'i wisgo a
rhubanau o bob lliw ydyw Tŷ'r Dryw. Ceir un ohonynt yn Amgueddfa
Caerdydd. Y mae traddodiad ym Mhenfro, ac yn arbennig yn ardaloedd Solfach a
Thŷ Ddewi, bod y dryw bach yn aderyn nodedig a phwysig iawn ym mywyd yr
hen dderwyddon. Chwanegid at ddyletswyddau eraill derwydd y gwaith o benderfynu
materion cyfreithiol. Ef a eisteddai ar y fainc i farnu pob cweryl a throsedd,
ac os amheuid cyfiawnder ei ddedfryd dywedai i'r dryw ddatguddio'r gwirionedd
iddo ; ac yr oedd tystiolaeth y dryw yn safadwy a therfynol. O dipyn i beth
chwerwodd y werin at y dryw oherwydd ei ystyried yn fradwr, ac erlidid ef yn
greulon. Bu "hela'r dryw" mewn bri ym Manaw ac Iwerddon yn ogystal â Chymru ar
amserau arbennig. Helid ef yng Nghymru ar wyliau r Nadolig a'r Calan, a phan
ddelid ef, fe'i dygid yn y tŷ bach o ddrws i ddrws, gan geisio
calennig, a chanu y gân hon :- CÂN Y DRYW (Cefais y gân gan Mr. H.W. Evans, Y.H., F.R.A.S.,
Solfach.)
Coal Merchant Bach (retired),
Aged,
67."
O oes i oes i'w gofio,"
DOH G.
(Nos Gŵyl Ystwyll . .
.)
{:s1 |d :r :m |r :- :s1 |d :r :m |r :-
}
{:d |m :d :r |l1 :- :s1
|l1.,t1:d :r |d :- ||
Dryw bach ydy 'r gŵr, Fe ddaliwyd y gwaich Fe dorrwyd i'r tŵr,
Amdano mae stŵr ;
Mae cŵest arno fe
Nos heno 'mhob lle.
Oedd neithiwr yn falch
Mewn stafell
wen deg,
A'i un brawd ar ddeg.
A daliwyd y gŵr ;
Fe 'i rhoddwyd dan len,
Ar elor fraith wen.
Rhubanau o bob lliw, Mae 'r drywod yn scant, meistres fach fwyn Nid yn aml y llwyddai Caligan i ddal y dryw, eithr gofalai rhywun bob
blwyddyn am ryw fath ar aderyn iddo, bach neu fawr, dof neu wyllt ; a bu rai
troeon yn cludo ceiliog iâr mawr a dof wedi ei wisgo â rhubanau o bob lliw. A
chan na wyddai gân y dryw, canai'r gân a ddysgodd ei fam iddo cyn ei fod yn bum
mlwydd : - " God rest you merry gentlemen, Yn gyffredin, ychwanegai at yr uchod : - "Where is now the father Abram, "Where is now the father Isaac,
Sydd o gwmpas y dryw ;
Rhubanau 'n
dri thro,
Sydd arno 'n lle to.
Hedasant i bant ;
Ond
deuant yn ôl
Drwy lwybrau 'r hen ddôl.
Gwrandewch ar ein cwyn ;
Plant
ieuainc ym ni,
Gollyngwch ni i'r tŷ ;
Agorwch yn gloi
'Nte
dyma ni 'n ffoi.
Whom nothing can dismay ;
Remember
Christ our Saviour
Was bom on Christmas day ;
And his tidings are
comfort and joy.
Where is now the father
Abram,
Where is now the father Abram,
Where is now the father Abram,
Safe in the promised land.
"Where is now the father Jacob,
Yr oedd yng nghrefydd Caligan amryw o brif nodweddion Cristion da, megis cywirdeb a gweithgarwch ac aberth. Aberthai fwy nag odid neb a adnabûm i. Cyfrannai ei ychydig at grefydd o brinder mawr. Rhoddai o'r neilltu ar gyfer casgliad y Sul y geiniog gyntaf a enillai bob wythnos, ac er i ddŵr redeg o'i ddannedd am felysion plentyn, ni wariai'r geiniog honno. Gwyddai pawb am ei sêl fel Weslead. Nid oedd ddigon o nerth yn y pethau a hoffai fwyaf i'w dynnu o'r capel bach. Ni cheid oedfa'r nos yng nghapel Wesle ond yn unig pan bregethai Sais o'r enw Mr. Brierly, a oedd yn dollydd y gymdogaeth ac yn bregethwr cynorthwyol. Un prynhawn Sadwrn, ac yntau'n gwybod y byddai oedfa yn y capel bach nos trannoeth, rhoes y Parch. Pethian Davies, gweinidog yr Annibynwyr, brawf ar sêl yr hen ŵr :-
"Caligan," meddai Mr. Davies, " a ddowch chi i'n tŷ ni i de yfory ?"
"Thanci mawr, Mr. Davies ; mi ddo i."
"Erbyn pedwar, Caligan."
"O'r gore, Mr. Davies ; 'rw i 'n siwr o ddwad."
"Fe fydd acw de iawn, Caligan - digon o fara menyn a theisien a jam a phopeth."
"Mi ddo i, Mr. Davies, - cyn pedwar hefyd."
"Mi fydda i yn eich disgwyl, ac wedyn, ar ôl te, bydd raid i chi ddyfod i'n capel ni i'r oedfa."
Bu Caligan yn fud ac yn edrych ar ei draed yn hir, ac yna, codi'i ben ac edrych â'i lygaid plentyn ym myw llygaid y gweinidog, a dywedyd, " Mr. Davies, fydd ama' i ddim eise te yfory."
"O, wel, yr ych chi wedi addo, a dim iws i chi dorri 'ch addewid."
"Ie, ie, Mr. Davies, ond ar ôl addo y teimles i na fydd ama' i ddim eise te yfory."
"O'r gore, Caligan, dewch chi acw i de, a chi gewch fynd i gapel Wesle wedyn."
"Thanci mawr, Mr. Davies, 'rw i 'n siwr o ddwad - cyn pedwar."
Pan fu farw'r Achos Wesleaidd yn Solfach yn y flwyddyn 1899, nid ymaelododd Caligan mewn unrhyw eglwys arall, eithr âi ar gylch i gapelau'r pentref. Hysbysai ddechrau'r wythnos ym mha gapel y bwriadai addoli 'r Sul, ac at bwy yr i âi ginio a the. Ar derfyn oedfa'r bore âi ar ei union i'w ginio, heb ei ofyn, ac ni chaewyd erioed ddrws arno. Yn nosbarth yr ysgol Sul, darllenai ei adnod yn ei dro, a phob amser yn Saesneg ; safodd ei feddwl cyn dysgu ohono ddarllen Cymraeg. Yn Nhŷ Ddewi a Solfach y mae'r Bedyddwyr yn gaeth gymunwyr. Câi'r Doctor Thomas Jones bregethu iddynt ar nos Cymundeb, eithr ni châi gymuno, ond câi Caligan groeso at y bwrdd, ac ef yn unig o bawb na pherthynai i'r enwad a gâi 'r fraint honno. Eisteddai ym mhob capel yn ymyl y sedd fawr, a phan elwid ar y plant ymlaen ar derfyn yr oedfa nos Sul i adrodd eu hadnodau, codai yntau yn eu plith ac adrodd ei adnod. Y plentyn pum mlwydd hyd y diwedd.
Bu farw Caligan yn hen wr pedwar ugain oed. Claddwyd ef ym mynwent Tregroes, ddydd Sadwrn, Chwefror 16, 1907. Nid oedd neb mewn galarwisg newydd yn dilyn yr arch, ac ni chollodd neb ddeigryn wrth adael y tŷ, ond yr oedd y pentref i gyd yn yr angladd, wedi ei wisgo â pharch a defosiwn. Safai pob gwaith yn llonydd a syn, ac ni chlywid dim sŵn namyn sŵn dŵr llyfn ar raean, fel griddfan isel plant - sŵn afon fach Solfach. Aethpwyd i gapel y Methodistiaid Calfinaidd, a bu pedwar gweinidog yn gweddïo a son am hiraeth a cholled y pentref. Canodd y gynulleidfa ei unig emyn :-
Mae'r gwaed a redodd ar y Groes
O oes i oes i'w gofio.
*** *** ***
Dyna Wesle olaf Solfach ; ac nid oes faen ar ei fedd.
(Oddi allan o "Yr Hen Gyrnol a Brasluniau Eraill" gan Y Parch. Evan Isaac. Cyhoeddwyd gan Gwasg Aberystwyth, Mawrth 1935)
Cwestiynau? Sylwadau? Beth ydych chi'n meddwl am y tudalen hwn a gweddill y wefan? Dywedwch yn y llyfr ymwelwyr. Questions? Comments? What do you think about this page and the rest of the site? Tell us in the guest book. |