Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records
 | 
 | 
Hynafiaethau
Antiquities
 | 
 | 
Bedd Taliesin
Taliesin's Grave



Erthyglau ynglŷn â Thaliesin

Articles about Taliesin

Ar y tudalen hwn...

On this page...

Enwogion Sir Aberteifi

Taliesin, oedd yr enwocaf o'r hen Feirdd Prydeinig, ac yr oedd yn blodeuo tua 540. Mab ydoedd i St. Henwg, Caerlleon-ar-wysg, ab Fflwch Lawdrwm ab Cynin, &., ac yn hanu felly o Llyr Llediaith. Cafwyd ef mewn cwracl pan yn blentyn gan Elffin yn ngored Gwyddno, yn agos i Aberdyfi. - Gwel Elffin. Cymerwyd ef i lys ei noddwr a'i dad, lle yr addysgwyd ef gyda'r gofal mwyaf, a daeth mewn amser yn brif-fardd, a rhestir ef yn y "Trioedd" gyda Merddyn Emrys, a Merddyn ab Madog Morfryn, fel y tri "privardd bedydd." Rhanodd ei amser boreuol rhwng llysoedd Urien Rhedeg a Gwyddno Garanhir; ond wedi gorlifo o'r môr etifeddiaeth yr olaf, ar annogaeth y Brenin Arthur, aeth i breswylio i'w lys ef i Gaerlleon-ar-wysg, a pharhaodd y brenin hwnw yn noddwr caredig iddo tra bu yno. Mae llawer o'i ganiadau wedi eu hargraffu yn y Myfyrian, yn nghydag eraill o ddyddiad diweddarach, y rhai yn gyfeiliornus a briodolir iddo ef. Dywed rhai iddo dreulio rhan o'i oes ar lân Llyn Geirionydd, yn sir Gaernarfon; tra mae lle arall yn sir Aberteifi yn hawlio yn un anrhydedd. Y lle hwnw sydd yn agos i Dalybont, ac y adnabyddir ef hyd heddyw fel "Gwely neu Fedd Taliesin," a chyfodwyd cof-faen yn ddiweddar ar y fan, lle y tybir fod gweddillion y prif-fardd yn gorwedd. - Iolo MSS., 459, 467, 659; Myf. Arch., ii, 19; Guest's Mabinogion, vol. iii, &., &.

G. Jones ('Glan Menai'), Enwogion sir Aberteifi (1868), 144

Enwogion Ceredigion

Taliesin ben beirdd. Y mae caddug tywyll yn cuddio hanes boreuol y bardd mawr hwn. Tybai rhai iddo gael ei eni ar gyffiniau swyddi Caerfyrddin a Morganwg. Ereill y dybiant iddo gael ei eni tua Llyn Tegid; ereill y dybiant iddo gael ei eni ar lan Llyn Geirionydd; ac eraill a feddyliant taw Ceredigion bia'r hawl a'r urddas o fod yn rhandir enedigol prif-fardd mawr y Gorllewin; ac mai hyny a roddodd sail i Fabinogi Taliesin. Ef allai taw yma y cafodd ei eni, ond nis gallwn brofi hyny; ond y mae tebygolrwydd mawr taw ym y cafodd ei gladdu, sef ger llaw Pentref Taliesin, lle hyd yn ddiweddar yr oedd hen fedd hynafol o'r enw Gwely Taliesin; ond o herwydd anwariaeth y creadur ar lun dyn a ddaliai y tir, torwyd y bedd, a thaflwyd lludw yr hen brif-fardd a fu yn ennyn gwladgarwch yn ei gydwladwyr i wrthladd gormes estroniaid. Mae llawer o waith Taliesin yn argraffedig yn y Myfyrian Archaiology. Gwel y Cambrian Plutarch, Mabinogi Taliesin, &.

Benjamin Williams ('Gwynionydd'), Enwogion Ceredigion (1869), 224


[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]