Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records



Cynfelyn Sant

Saint Cynfelyn

Nid oes llawer o wybodaeth bendant ar gael am Gynfelyn. Dyn go iawn ydoedd, a oedd yn byw yn y chweched ganrif. Disgynnydd o'r teulu brenhinol Ceredig a Chunedda Wledig yn ôl pob tebyg. Fe ddaeth ym meudy, a chododd ei gell ar ochr Gors Fochno, rhywle'n agos at y fan ymhle saif ei eglwys heddiw. Dyma dwy erthygl amdano:

There isn't much definite information available about the life of Saint Cynfelyn. He really existed, living in the sixth century. Probably descended from the royal household of Ceredig and Cunedda Wledig. He became a hermit, setting up his cell in the area on the edge of Cors Fochno where the church dedicated to him now stands. Here are a couple of articles about him:


S. Cynfelyn ab Bleiddud, Confessor.

This Saint's pedigree in full runs thus: Cynfelyn ab Bleiddud ab Meirion ab Tybiawn ab Cunedda Wledig. He was brother to S. Cynydyn, and according to the Iolo MSS, a saint or monk of Bangor Deiniol.

To him is dedicated the church of Llangynfelyn in North Cardiganshire, and he is believed to have lived as a hermit on Ynys Cynfelyn, on which the church now stands. He is said to have been the founder of another church, in the parish of Welshpool, but whether represented by the present parish church (B.V.M.) we are not told. The extinct chapel of Dolgynfelyn, under Manafon, in the same neighbourhood, was not named after him.

His festival does not occur in any of the Welsh calendars, but Browne Willis (Parochiale Anglicanum, 1733, p.195) gives it as All Saints Day. In the "Stanzas of the Months", usually attributed to Aneurin, but many centuries too late to be by him, occurs the couplet:-

Truly says Cynfelyn,
"A man's best candle is reason."

Cynfelyn was formerly a somewhat common name, and appears earliest as Cunobelinos. It is Shakespeare's Cymbeline.

Between Aberystwyth and Borth lies a reef or causeway, known as Sarn Cynfelyn, running some seven miles out to sea, and popularly believed to be the remains of a road over the large tract of land known to Welsh tradition as Cantre'r Gwaelod submerged in the sixth century. There are several of these so-called "sarns" on the west coast, but they are now believed to be natural formations.This one may or may not have been named after S. Cynfelyn, who was most probably a native of Cardiganshire.

S. Baring-Gould & John Fisher The Lives of the British Saints London, 1908

Cynfelyn Sant.

Bu mwy nag un Cynfelyn yn hanes Cymru. Yn wir rhestrir yng Ngeirfa'r diweddar Ddr. J. Lloyd-Jones naw o'r un enw, ac yn eu plith y mae Cynfelyn, mabsant ein plwyf ni. Pwy felly oedd y gr hwn a goffeir yn Llangynfelyn a pha bryd yr oedd yn byw? Er mai ychydig iawn a wyddys i sicrwydd amdano, eto dywedir yn Achau'r Saint ei fod yn un o ddisgynyddion Ceredig a Chunedda Wledig. Yr oedd felly yn r o linach frenhinol ac yn blodeuo yn y chweched ganrif. Byddaf yn rhyw feddwl weithiau mai rhyw fath o frenin bychan neu bennaeth ydoedd ar deyrnas fechan yn mhen gogledd Ceredigion ac mai troi at grefydd a wnaeth dan bregethu Padarn neu un o'i fyneich cenhadol. Sut bynnag am hynny, enciliodd Cynfelyn i fyw fel meudwy mewn cell fechan ar fin y gors, ac ymhen amser cymerth y gell honno ei enw ef a'i galw o hynny allan yn Llangynfelyn.

Canolfan awdurdod Cynfelyn a safle ei lys oedd Ynys Gynfelyn. Tybed a safai Llys Gynfelyn rywle tua'r eglwys bresennol neu ger Neuadd-yr-ynys? Yn hyn a brawf yn bendant fod Cynfelyn yn ei ddydd yn fawr ei fri yng ngogledd Ceredigion yw fod ei enw ar gael heddiw mewn amryw enwau lleoedd yn yr ardal cyfagos. Dyna Sarn Gynfelyn sy'n ymestyr i'r môr ger y Wallog, a Chwm Cynfelyn* r y ffordd i Glarach, dau enw cynefin a geidw ei goffa'n fythol-wyrdd. Dengys yr hen fapiau hefyd o ddyddiau'r mapiwr Speed hyd at ryw ganrif yn ôl fod olion hen adeilad eglwysig o'r enw Capel Cynfelyn yn sefyll ger y Wallog neu Ryd Meirionnydd, ond er holi a chwilio methais weld cyfeiriad ato yn unman. Edrychais map degwm ac enwau caeau plwyf Llanfihangel Genau'r Glyn, gan obeithio taro ar yr union fan a'r lle, ond bu amser a'r tywydd a dyn wrthi'n rhy brysur yn chwalu'r cyfan.

Ceir cyfeiriad diddorol arall at Gynfelyn yn un o gywyddau Dafydd ap Gwilym. Yn ei gywydd i'r Carw a yrrodd yn llatai neu'n negesydd serch at Ddyddgu i Dowyn y mae'n erfyn ar i Dduw gadw'r creadur yn ddiogel ar ei daith. Peryglus o daith ydoedd o Froginin i Dowyn dros fryn a phant a thrwy goedydd a chorsydd, ac yn waeth na'r cwbl nofio tonnau Dyfi. Y mae Dafydd yn cloi'r cywydd fel hyn:

      Duw i'th gadw, y doeth geidwad,
      A braich Cynfelyn rhag brad.

Un arall o'r beirdd sy'n sôn am Gynfelyn yw Lewis Glyn Cothi. Y mae ef yn cyplysu enw Cynfelyn â'r Forwyn Fair. A adawodd Cynfelyn ryw air o gyngor ar ei ôl? Wel do, os rhoir coel ar y darn hwn a ysgrifennwyd gryn fil o flynyddoedd ar ôl ei farw:

      Gwir a ddywod Cynfelyn,
      Gorau cannwyll pwyll i ddyn.

Cyngor eithaf buddiol o'i droi i iaith heddiw a deall mai "Doethineb neu synnwyr cyffredin yw'r goleuni neu'r cyfarwyddyd gorau i bob dyn".

[* ond 'Cwmcynfelyn, the name of a country house in the Clarach Valley, may be a re-formation of an earlier Cwm Cynfi or Cwm Cynfil', R. Geraint Gruffudd, 'Why Cors Fochno?', THSC, 2 (1996), 5-19]

Richard James Thomas, 'Cynfelyn Sant', Lloffion Llangynfelyn, 4 (Ion. 1957), 7-8


[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]